Llongyfarchiadau mawr i Gôr Ieuenctid Môn ar eu llwyddiant anhygoel yn Eisteddfod Genedlaethol Llyn ac Eifionydd yr wythnos ddiwethaf.
Mi wnaeth y côr ddod yn ail i CF1 yng nghystadleuaeth y Côr Adloniant, gyda un o’r caneuon yn eu rhaglen CARIAD YW gan Sioned Webb a Sian Owen yn taro deuddeg efo’r beirniaid gan ennill teitl Cân Gymraeg Orau’r Ŵyl.
Braf hefyd oedd gweld dros 70 o aelodau’r côr yn arwyddo Makaton yn ystod y gân. Tipyn o gamp i’r criw talentog, gyda’r aelodau ieuengaf yn 7 oed!
Fore Mercher, daeth aelodau hŷn y côr i’r brig gyda Chôr Ieuenctid Môn yn cipio’r wobr gyntaf yng nghystadleuaeth Côr Ieuenctid o dan 25 oed.
Roedd hi’n wych i deulu’r côr brofi’r llwyddiannau yn yr Eisteddfod, ac yn goron ar y cyfan bnawn Sadwrn cafodd Mari Pritchard, arweinydd y côr ei henwi yn Arweinydd Corawl Gorau’r Ŵyl, ac mi gafodd Côr Ieuenctid Môn glamp o dlws fel gwobr am gipio teilt Côr yr Ŵyl. Profiad emosiynol iawn a braint yn wir oedd i’r côr ennill 3 prif wobr gorawl yr Eisteddfod.
Diolch i Mari ac Elen am eu harweniad, i Elain Rhys am gyfeilio ac i deulu’r côr am brofiadau bythgofiadwy – ond mae’r diolch mwyaf i gymuned Llŷn ac Eifionydd am Eisteddfod i’w chofio.