Mi fydd pob oedolyn sy’n dod i Ŵyl Cefni eleni yn helpu i wneud yn siŵr fod y digwyddiad yn parhau ac yn datblygu yn y blynyddoedd i ddod.
Am y tro cynta’, mi fydd pawb tros 18 oed yn talu pris bach – dim ond £5 – i fwynhau diwrnod cyfan o hwyl ac adloniant a’r arian i gyd yn mynd at ddatblygu’r Ŵyl.
Efo disgwyl mwy na 3,000 o bobl yn Sgwâr y dre’, mi fydd plant a phawb dan 18 oed – tua hanner y gynulleidfa gyfan – yn parhau i gael y cyfan am ddim… deuddeg awr a hanner o adloniant a hynny’n cynnwys rhai o enwau mawr y teledu a byd cerddoriaeth Cymraeg.
Efo arian cyhoeddus yn brin a’r peryg y bydd grantiau yn lleihau yn y dyfodol, mae’r trefnwyr yn benderfynol o ddal ati i wella’r Ŵyl a gwneud yn siŵr ei bod hi’n ffynnu – ynghyd â nawdd gan fusnesau lleol, mi fydd y tâl mynediad bach yn help i sicrhau hynny.
“Buddsoddiad ydi o yn nyfodol yr Ŵyl,” meddai’r Cadeirydd, Huw Thomas. “Does yna ddim sicrwydd o grantiau ar gyfer y dyfodol ac rydan ni’n benderfynol o barhau i wella o flwyddyn i flwyddyn. Rydan ni wedi edrych ar brisiau gwyliau eraill tebyg ac mae’r tâl mynediad yma’n eithriadol o resymol.”
“Y Gymraeg oedd un o’r prif resymau tros sefydlu Gŵyl Cefni bron i chwarter canrif yn ôl,” meddai Dafydd Gruffydd, Rheolwr Gyfarwyddwr Menter Môn, sy’n cefnogi’r ŵyl. “Mae’r Fenter yn falch iawn o fedru cynnig cymorth i’r gymuned leol, nid yn unig i barhau i gynnal a datblygu’r Ŵyl, ond i helpu i’w datblygu’n ŵyl gynaliadwy am flynyddoedd i ddod. Mae gallu cefnogi adloniant Cymraeg a gweld pawb yn cael cymaint o hwyl yn werth chweil bob blwyddyn.”
Tros 22 o flynyddoedd, mae Gŵyl Cefni wedi tyfu i ddenu pobl o bob rhan o Ynys Môn a thu hwnt ond mae’n parhau yn ei hanfod hefyd yn ddigwyddiad cymunedol i bobl Llangefni a’r cylch.
Y llynedd, ar ôl rhai blynyddoedd mewn safleoedd eraill, mi ddychwelodd yr Ŵyl i Sgwâr Llangefni ac roedd hynny’n llwyddiant ysgubol.
“Welais i erioed dre’ Llangefni mor brysur,” meddai Huw Thomas. “Roedd yna fwy na 3,000 o bobl yno ac roedd y cyfan yn wefreiddiol.”
Mae’r Ŵyl yn costio tua £40,000 i’w chynnal, a dydi hynny ddim yn cynnwys gwerth miloedd ar filoedd o gyfraniad amser a gwaith y tua 20 o wirfoddolwyr sy’n ei threfnu gyda chefnogaeth Menter Môn.
Mae tocynnau ar gael ar-lein.
Mae Gŵyl Cefni yn derbyn cefnogaeth gan Gymdeithas Elusennol Môn, a hefyd gan Balchder Bro – un o raglenni Menter Môn sydd wedi’i ariannu gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.