Fedrwch chi ddweud y gair ‘gŵyl’ heb wên ar eich wyneb? 

Gŵyl Cefni 2024 yn profi’n llwyddiant am nifer o resymau

Gair hapus ydy gŵyl. Gair hapus ar gyfer achlysur hapus sydd wedi’i greu er mwyn dod â phobol ynghyd i fwynhau.

Mae’n rhai wythnosau bellach ers i un o wyliau mwyaf Môn ddeffro Llangefni, ac mae’r edrych yn ôl ar Ŵyl Cefni yn codi gwên am sawl rheswm.

Yn gyntaf, fe werthwyd pob tocyn, a phawb mor falch o fod yn rhan o achlysur lleol arbennig…

“Mae’r ŵyl wedi rhoi’r lle ar y map heb os. Braf cael rywbeth i bawb yn Llangefni ddod at ei gilydd,” medd un o’r mynychwyr.

Yn ail, fe ddaeth â phres i fusnesau’r ardal…

“Roedd yn braf gweld y stryd yn brysur, gan gynnwys pobl yn defnyddio caffis, stondin llysiau a ffrwythau y farchnad ac yna gyda’r nos y tafarndai a llefydd têc awê!” medd mynychwr arall.

Ac yn drydydd, roedd o’n achlysur Cymraeg naturiol a lwyddodd i ymestyn allan…

“Daeth ffrindiau efo fi sydd ddim rili yn siarad Cymraeg na gwrando ar miwsic Cymraeg ond oedda nhw wedi mwynhau, mae nhw’n byw yn Fali ag erioed di clywed am Gŵyl Cefni,” oedd un sylw arall.

Dydy Gŵyl Cefni ddim yn gwbl unigryw. Mae gwyliau a diwrnodau hwyl ar hyd y sir a’r genedl yn chwarae rhan mor bwysig wrth ddod â phobol ynghyd i fwynhau yn y Gymraeg a hybu’r ymdeimlad o falchder rhywun i’w fro.

Ond roedd hi’n wythnos i’w chofio yn Llangefni eleni. Mae rhywbeth arbennig am Ŵyl Cefni. Mae’n brawf o botensial cymuned wrth i wirfoddolwyr ddod ynghyd a chael cefnogaeth i wireddu uchelgais.

Tybed ydy cael effaith debyg i’r hyn y mae’r mynychwr nesa’n sôn amdani’n bosib mewn ardaloedd eraill?

“Fel dysgwr, o’n i’n meddwl oedd yr ŵyl yn fendigedig. Wnes i deithio i Langefni o ardal Wrecsam – mae gen i argraff bositif iawn o Langefni, a’r ŵyl. Roedd hi’n wych i glywed Cymraeg yn cael ei siarad – yn fy marn i, pethau fel hyn yn helpu i ddod â phobl at ei gilydd.”

 

Mae Gŵyl Cefni yn derbyn cefnogaeth gan Balchder Bro – un o raglenni Menter Môn sydd wedi’i ariannu gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.