Cyfle i wylio pedair drama wreiddiol, newydd… yn rhad ac am ddim!

Noson ddarlleniadau “O Syniad i sgript” yn Theatr Fach Llangefni

Y dramodwyr yn mwynhau’r penwythnos preswyl dros yr haf

Mae cwmni Theatr Troed-y-rhiw, mewn partneriaeth â Chronfa Her ARFOR a CFfI Cymru, yn cynnal darlleniad o bedair drama wreiddiol yn Theatr Fach Llangefni, Nos Lun 28 Hydref am 7yh.

Mae’r dramâu wedi cael eu hysgrifennu gan bedwar dramodwr lleol – Glenys Davies, Cedron Sion, Lowri Larsen a Mared Edwards – sydd wedi bod yn brysur yn sgriptio ers dechrau’r haf.

Ac mae’r pedwar ohonynt wedi bod yn cael eu mentora gan ddramodwyr proffesiynol gan gynnwys y talentog Siân Summers, Branwen Davies, Iola Ynyr a Mared Llywelyn yn ystod y misoedd diwethaf.

Mae’n argoeli i fod yn noson werth chweil, gyda Chlybiau Ffermwyr Ifanc a thalent lleol yn perfformio detholiadau o’r dramâu newydd.

Cynta i’r felin yw hi i sicrhau tocynnau, felly ewch ati i archebu’ch tocyn (am ddim).

Bydd noson debyg yn cael ei chynnal yn Theatr Felinfach ym mis Tachwedd i glywed pedair drama arall fu’n rhan o’r prosiect, ac yn ogystal bydd y dramâu i gyd yn cael eu cyhoeddi’n llawn yn llyfrgell dramâu Theatr Troed-y-rhiw ym mis Rhagfyr.

Byddan nhw ar gael i gwmnïau drama, Clybiau Ffermwyr Ifanc a chymdeithasau lleol eu perfformio, gyda rhai o’r dramâu hefyd yn cael i’w perfformio’n llawn yng ngŵyl ddrama Theatr Troed-y-rhiw yng ngwanwyn 2025.