calendr360

Heddiw 20 Tachwedd 2024

Ffair Grefftau Nadolig Oriel Môn

Hyd at 24 Rhagfyr 2024, 12:00 (AM DDIM)
Ymunwch â ni ar noson 08/11/24 am 18:00yh i agoriad Ffair Grefftau Nadolig Oriel Môn.Eleni mae’r Ffair Grefftau yn fwy cyffrous nac erioed gyda dros 40 o grefftwyr o bob cwr o Gymru’n arddangos a …

Dydd Gwener 22 Tachwedd 2024

Cwis

19:30
Cwis i godi arian at Eisteddfod yr Urdd Ynys Môn 2026 – ardal Mechell. 

Dydd Gwener 29 Tachwedd 2024

Ffair Nadolig

18:00–20:30 (Am ddim)
Ffair Nadolig Ysgol Uwchradd Caergybi – i gychwyn am 6yh – Mynediad am ddim a Mochyn Rhost – stondinau a llawer mwy.

Dydd Sul 1 Rhagfyr 2024

Panto Theatr Fach

Hyd at 7 Rhagfyr 2024
Criw Theatr Fach Llangefni yn cyflwyno ‘Jac a’r Jareniym’.

Dydd Gwener 6 Rhagfyr 2024

Taith ARFOR: CYMRIX

18:00–19:30 (AM DDIM)
Mae Cymrix yn gynhyrchiad sydd wedi ei anelu at blant 9+ ond mae hefyd yn addas iawn ar gyfer deuluoedd a siaradwyr Cymraeg Newydd o bob oedran.

Dydd Sadwrn 7 Rhagfyr 2024

Hosan Dolig Llansadwrn

14:00 (Am ddim ond bydd raffl a lluniaeth ar werth)
P’nawn Nadoligaidd o garolau ac eitemau gan unigolion, gyda raffl, gemau a lluniaeth yn neuadd Eglwys Llansadwrn. Pŵy a ŵyr…efallai bydd y dyn mewn coch ei hun yn dod i ddweud helo!

Dydd Sul 8 Rhagfyr 2024

Taith Gerdded a Brecwast efo Siôn Corn

09:30 (£4)
Taith gerdded a brecwast efo Sion Côrn. Dechrau o Faes Martin i Ysgol Llanfechell. Bydd crefftau hefyd i’r plant a nwyddau ar werth.

Dydd Mawrth 10 Rhagfyr 2024

Talwrn y Beirdd

19:00
Bydd BBC Radio Cymru yn recordio cyfres newydd o’r Talwrn a hynny o Festri Capel Disgwylfa. Mae’r mynediad am ddim ond cynhelir raffl er budd Eisteddfod yr Urdd Ynys Môn 2026.

Dydd Sul 15 Rhagfyr 2024

Cyngerdd Nadolig y Gaerwen

19:30
Cylfe eto eleni i fwynhau gwledd o ganu a naws Nadologaidd yng nghwmni Côr Esceifiog ag artistiaid gwadd… Elidyr Glyn Lo-fi Jones Dylan Cernyw Yr elw eleni at apêl Eisteddfod yr Urdd 2026.