Ar fore Sadwrn oer, ar 4 Ionawr, daeth casgliad lliwgar ynghyd ar y traeth ym Menllech, Ynys Môn, ac yn eu plith gwelsom Nia y twrci, cynghorydd mewn ‘wansi’, Donald Dewi Trump, Iwan ‘Nessa Vanessa’, Wil y ‘Bat-ddyn’ a llawer o gymeriadau brwdfydig a llon – pob un wedi eu noddi i gymryd rhan yn ‘Sblash am Cash’ a drefnwyd gan bwyllgor Llanfairmathafarn Eithaf, er mwyn codi arian at Eisteddod Genedlaethol yr Urdd Ynys Môn 2026.
Braf oedd gweld cymaint o gefnogwyr a phentrefwyr wedi mentro allan i annog y rhedwyr, neu’r ‘Sblasiwrs’ fel y’u galwyd, a gwerthfawrogir yn fawr iawn gymorth bechgyn y Gwasanaeth Tân ac Achub lleol, Greg, y paramedig, yr holl wirfoddolwyr, a’r holl gefnogwyr. Rhaid yw diolch hefyd i’r aelod seneddol, Llinos Medi am gychwyn y ‘Sblash’, ac mae’n diolch ni’n fawr i bob noddwr a rhoddwr a sicrhaodd gelc anrhydeddus iawn i’r gronfa, yn ogystal â dod a phawb at ei gilydd i gael hwyl. Os byw ac iach, byddem yn trefnu rhywbeth tebyg yn y flwyddyn newydd, 2026, a bydd croeso i unrhywun ymuno â ni. Mae’n dychryn dyn i feddwl mai toc pum mis wedyn bydd miloedd o blant a phobl ifanc yn heidio i gae’r primin ym Mona. Ew! Mae yna hen edrych ymlaen!