Cyflwyno Siec i Elusen Awyr Las

Elvis Cymraeg wedi ymweld a CFfI Penmynydd!

gan CFfI Penmynydd

Yn dilyn ein Taith Tractorau Nadolig rhai wythnosau yn nol, neithiwr fe gafwyd arbennig yn clwb yn cyflwyno siec o £1822 i’r Parchedig Wynne Roberts ar ran Awyr Las – The North Wales NHS Charity sef un o’r elusennau roedden yn codi arian ar eu cyfer ar y daith. Diolch yn fawr i Wynne am ddod atom i roi hanes yr elusen ag am roi blas o’r caneuon Elvis y mae mor enwog am eu canu i ni! Pawb wedi mwynhau’n arw! 🎶

Byddwn yn cyflwyno siec i Ambiwlans Awyr Cymru mewn rhai wythnosau 🚁

Dweud eich dweud