Taith Tractorau Nadolig Clwb Ffermwyr Ifanc Penmynydd

Blogio bwrlwm y daith…

gan CFfI Penmynydd

Back by popular demand!!

Eleni rydym wedi bod eto yn brysur yn paratoi a threfnu ein Taith Tractorau Nadolig fel Clwb Ffermwyr Ifanc Penmynydd yn dilyn llwyddiant flwyddyn dweuthaf.

Mae ganddom lond trol o dractorau a cherbydau wedi cofrestru yn barod ond mae ’na dal le i chi ymuno ar y daith efo ni, dilynwch y linc yma i gofrestru: https://forms.gle/WzH3d1JCqjnfJw8T6

Bydd gwobr i’r cerbyd sydd wedi ei addurno orau felly ewch ati i lanhau a tynnu’r golau Nadolig allan o’r garej!

Mi fydd yr holl elw ar y noson yn mynd i elusennau Ambiwlans Awyr Cymru, Awyr Las a CFfI Penmynydd a bydd digon o fwcedi allan yn y pentrefi gan ein stiwardiaid neu mi allwch gyfranu drwy ddilyn y linc Just Giving yma: Crowdfunding to Taith Tractorau Clwb Ffermwyr Ifanc Penmynydd on JustGiving

Dilynwch y blog yma dros y dyddiau nesaf i weld sut rydym yn brysur yn paratoi!