Diwrnod Elusennol Young Lives v Cancer er cof am Alun Mummery ym mhentref Llanfairpwll

Diwrnod i’w gofio

gan Lynne Owen
thumbnail_image003

Aelodau o deulu Alun Mummery ac aelodau pwyllgor Clwb Pel-droed Llanfairpwll yn cyflwyno siec i gynrychiolydd Young Live V Cancer

Ar 1 Mehefin 2024, cynhaliwyd gêm bêl-droed ym Maes Eilian, nid dim ond unrhyw gêm bêl-droed – gêm goffa i gofio am yr unigryw Alun Mummery, neu Mr Llanfairpwll, fel yr oedd yn cael ei adnabod yn annwyl.  Roedd cyn chwaraewyr Llanfairpwll yn fwy na pharod i roi eu hesgidiau yn ôl ymlaen i wynebu tîm presennol y clwb. Ychydig oedden nhw’n disgwyl ennill 4-1! Byddai Alun wedi bod wrth ei fodd ac byddai yn ei elfen yn gweld y fath dorf i fyny ym Maes Eilian, roedd yn brynhawn llawn hwyl a phawb wedi mwynhau.

Yn dilyn y gêm trefnwyd noson o adloniant yng Ngharreg Brân, yng nghwmni Elin Fflur, Y Moniars a Dafydd Iwan a chan or-wyres Alun, Ria-Lyn. Digwyddiad gwerth chweil a gafodd ei gyflwyno gan Kevin Williams (Kev Bach, Capital Radio).

Rhoddwyd elw’r dydd i Young Lives V’s Cancer, elusen sy’n agos iawn at galonnau y teulu, ar ôl colli gor-wyres Alun, Ania Wyn, i diwmor ymennydd (DIPG) ym mis Mehefin 2021.

Hoffai’r teulu ddiolch i bawb a fynychodd ac a gyfrannodd, yn ogystal ag i Fenter Môn am Grant Balchder Bro a helpodd ariannu’r digwyddiad. Codwyd cyfanswm anhygoel o £4439.69.  Trosglwyddwyd £4039 i Young Lives V’s Cancer, gyda chyfraniad o £400 i’r clwb, er cof am Alun ac yn unol â dymuniadau’r teulu.

Hoffai’r teulu hefyd ddiolch i Wil Parry, Sam Jones-Smith a Derfel Gilford am eu cymorth gyda’r trefnu, a’u gwaith caled ar y dydd/noson.

Diolch o galon i bawb.