“Seren wib a adawodd lwybr o wreichion gogoneddus”

Darlith yn dwyn i gof atgofion melys am ŵr amryddawn

gan Huw Tegid Roberts
IMG_0518

Cynulleidfa dda wedi dod i wrando ar y Parchedig Iwan Llewelyn Jones

Cafwyd noson ddifyr yng nghwmni’r Parchedig Iwan Llewelyn Jones yng Nghymdeithas Lôn y Felin, Llangefni, neithiwr (13 Tachwedd 2024), gyda Neuadd T C Simpson yn llawn i’r ymylon.  Roedd wedi dod atom i sôn am un a fu’n gymydog a chyfaill iddo, sef y Parchedig R.O.G. Williams – un o ‘Driawd y Coleg’ a gyfrannodd at fywyd diwylliannol Cymru mewn sawl ffordd yn ail hanner yr ugeinfed ganrif.

Gwrthrych y ddarlith oedd wedi defnyddio’r geiriau sydd ym mhennawd yr erthygl hon i gyfeirio at y pregethwr enwog Tom Nefyn, ond fel y dywedodd ein gŵr gwadd, gellid priodoli’r un disgrifiad yn union i’r un a elwid yn annwyl yn ‘Rogw’ ar sail llythrennau cyntaf ei enwau a’i gyfenw.

Wn i ddim a oedd yr un o’r gynulleidfa wedi dod i Langefni drwy’r niwl o “hen bictiwrs bach y Borth”, ond yn ystod y noson cawsom hanes awdur geiriau’r gân enwog honno, a’r modd y disgleiriodd fel pregethwr, gweinidog, cyflwynydd ac awdur.

Soniodd y Parch Iwan Llewelyn am y modd yr ysgafnhaodd bethau yng Nghymru ar ôl cyfnod llwm yr Ail Ryfel Byd.  Roedd Triawd y Coleg yn rhan o arlwy’r Noson Lawen – rhaglen radio bryd hynny – ac fe wnaeth ddwyn i gof ddisgrifiad y Parch Harri Parri o wisg nodweddiadol Rogw, sef esgidiau Hush Puppies, sanau coch, crys du, tei wen, a siwt olau ‘lliw petrol’.  Dyna gyferbyniad trawiadol â duwch y cyfnod ar ôl y rhyfel, a’r union donic oedd ei angen ar bobl.

Bu’n weinidog yn ardaloedd Dinmael a Phenrhyndeudraeth, ysgrifennodd 14 cyfrol, ac fe’i cofir hefyd am ei ddoniau dynwared, yn ogystal â’i allu i gyfleu cymeriadau amrywiol iawn, fel y bachgen bach Emrys Aled Parry, a fu’n diddanu gwrandawyr y rhaglen radio Rhwng Gŵyl a Gwaith.

Llywyddwyd y noson yn fedrus gan Mr Evie Jones, Llannerch-y-medd, a’i gyfaill Donald Glyn Pritchard roddodd y diolchiadau.

Cyfarfod Nadoligaidd fydd cyfarfod nesaf Cymdeithas Lôn y Felin, a hynny nos Fercher 11 Rhagfyr am 7 o’r gloch pan gynhelir gwasanaeth naw llith a charol.  Estynnir croeso cynnes i bawb, gyda’r tâl aelodaeth am y tymor cyfan yn £10, neu gellir talu £2 ym mhob cyfarfod os dymunir.

Dweud eich dweud