Helo o sêt gefn car ‘di rhentu fy rhieni!
Do – ‘da chi wedi darllen hynny’n iawn… mae Dad a Mam yma hefo fi yn Argentina! Dwi mor ofnadwy o hapus o’u cael yma – crïsh i lond fy mol wrth eu gweld nhw’n dod drwy’r drysa’ ‘na yn Muenos Aires fis diwethaf gymaint yr oeddwn i wedi eu methu nhw dros y misoedd ddwytha’. Ma’ di golygu gymaint i mi eu cael nhw yma hefo fi – ac Aled fy nghariad hefyd, ddoth o draw ym mis Gorffennaf i deithio De America hefo fi yn ystod y gwyliau ysgol. Mi wnâi drysori’r amser sbeshal dwi ’di cael yma hefo nhw am byth.
Landiodd Dad a Mam yn Nhrevelin jest mewn amser i ddod hefo fi i Eisteddfod Chubut ac felly gawson ni ‘road trip’ gwych hefo’n gilydd ar draws steppe fyd enwog Patagonia, neu’r ‘Paith’ fel y mae’r Cymry yma yn ei alw. ‘Dwi wedi gwneud y daith yma sawl tro yn barod – ond ar fws dros nos bob amser. Dyma oedd y tro cyntaf i mi brofi siwrna’ eiconig Ruta 25 mewn gola dydd. Wrth i ni adael mynyddoedd yr Andes a’u topiau dal ag ychydig o eira siwgr eisin ar eu topiau tu ôl i ni, buan newidiodd y tirlun o’r borfa fferm gyfarwydd i anialwch o bridd a chreigiau tywodlyd brown. Roedd cuddliwiau arbenigol bywyd gwyllt yr anialwch yn ei gwneud yn anodd i ni sbotio anifeiliaid mwyaf enwog yr Ariannin ond wrth straenio ein llygaid byddai ambell i floedd gyffrous o ‘Guanaco!’ neu ‘Îmiw!’ gyno Mam neu fi a Dad yn gorfod hitio’r brecs i ni driol cael llun. Hefyd, ambell i ‘Pŵ, Sgync!’ neu ‘Waw! Condor!’ ac un ‘Omg, Armadillo!’ nes bod Dad druan ‘di syrffedu. Llwyddon ni’ll dwy i gael ambell i lun brysiog……ond dwi ddim yn meddwl y bydd ein campweithiau ffotograffiaeth yn cael eu cynnwys yng Nghalendr 2024 National Geographic rhwsud!
Rhyw dair awr i mewn i’r siwrna o Drevelin, a dyma ni’n cyrraedd yr Afon Chupat am y tro cyntaf. (Cymraeg: Afon Camwy, Sbaeneg: Rio Chubut). Gair Tehuelche (pobl frodorol cyntaf Dwyrain Patagonia) ydi ‘Chupat’ sy’n golygu “tryloyw”. Mae’r dalaith wedi ei enwi ar ôl yr afon gan ei bod yn llifo drwyddi o’r mynyddoedd i’r môr. Parciodd Dad y car ar ochr y lôn a dilynodd y tri ohonon ni lwybr bach i fyny craig fawr er mwyn cael golygfa o’r plygiad naturiol siâp S fawr yn yr afon. Dyma’r fan lle oedd y Mapuche (pobl frodorol cyntaf Gorllewin Patagonia) yn cadw eu ceffylau ac yn croesi’r afon. Tywynnodd yr haul yn boeth uwch ein penna’ ac wrth i’r awyr glas perffaith adlewyrchu yn yr afon fe grëwyd rhyw wyrddlas wydraidd bendigedig yn y dŵr. Yn ôl yn y car ac ymlaen a ni – roedd y tirlun bellach yn sbectrwm o liwiau a’r afon yn troelli drwy’r coed syth emrallt sydd ar ei hymylon. Mae’r ffordd yn sgimio’r afon sy’n troelli drwy’r cwm ac o’n cwmpas roedd clogwyni llwch-goch uchel yn dyrau pen-droellog.
Wrth i ni agosáu at yr arfordir fe ddaeth y clogwyni’n raddol îs a gwelon ni gwrs y Chupat yn mynd mewn cyfeiriad gwahanol i’r lôn a chan fod hydradiad yr afon yn diflannu o’r tir o’n cwmpas, dychwelodd y llwch a’r tywod llwyd undonog.
Rhai dyddiau yn ddiweddarach – wedi i fy rhieni a finna setlo yn y Gaiman ar gyfer penwythnos yr Eisteddfod, cynigodd fy ffrind Ricardo fynd a ni am dro o gwmpas y Dyffryn i ymweld â’r ffermydd. Ffarmwr a dyn busnes ydi Ricardo – mae’n hynod o weithgar o fewn Cymuned Cymraeg y Gaiman. Daeth Hen Daid Ricardo ar ochr ei fam yma o Gymru dros 100 mlynedd yn ôl i weithio ar adeiladu’r rheilffordd o Borth Madryn i Drelew. Cafodd ei Fam ei geni ar y fferm teulu yn Nolavon a gafodd Ricardo ei fagu yng nghanol traddodiadau, diwylliant a’r iaith Gymraeg. Mae Ricardo’n rhugl yn y Gymraeg a’i blant hefyd – mae ei wyrion yn mynychu Ysgol a Choleg Camwy a hwythau hefyd yn dysgu iaith eu hynafiaid. ‘Dwi wedi mwynhau treulio amser yng nghwmni Ricardo fwy nag unwaith yn y Gaiman – mae’n hynod o wybodus am hanes y Cymry yma ac mor frwdfrydig i gyfarfod a chyd-weithio a phobl o Gymru er mwyn cryfhau dyfodol yr iaith ym Mhatagonia. Mae o hefyd yn ddipyn o gês, yn gefnogwr CPD Wrexham, ….. ac yn feistr ar gwcio stêcs!
Fel y soniais yn fy hanes ddwytha’ – roedd storm fawr wedi bod yn y Gaiman ar ein noson gyntaf yn y dref ac roedd olion y tywydd garw dal i weld ar hyd y ffordd wrth i mi gerdded i lawr o Dŷ Camwy i gyfeiriad Tŷ Gwyn sydd ger yr Afon Chupat – lle oedd fy rheini’n aros – i aros am Ricardo i’n casglu. Wedi’r holl law – roedd y gamlas dyfro sy’n mynd rwy’r dref yn orlawn a’r afon ei hun yn hefyd yn byrlymu’n gyflym.
Dyna picyp Ricardo’n cyrraedd – ac i ffwrdd a ni rownd y bloc, i lawr y brif stryd, dros y bont fawr concrid sy’n croesi’r afon a heibio Capel Bethel. Cyn gadael y dref, aeth Ricardo a ni heibio Cerrig yr Orsedd a sôn ychydig am ei rôl fel Ceidwad Cleddyf yr Orsedd. Hen dro fod y storm wedi rhwystro’r Seremoni ddoe – ond ‘doedd hi ddim yn ffit!
Yna – allan o’r dref ar hyd lôn y ffermydd. Dywedodd Ricardo enwau’r ffermydd un ar ôl llall wrthym ni ac enwau Cymraeg y teuluoedd. Lleoliad cyntaf i ni gyrraedd oedd Llain Las, cartref Ellen Davies (neu Nel fel y byddai’n cael ei galw) merch fach a symudodd i Batagonia yn 1875 hefo’i rhieni a’i brodyr. Mae hanes Nel i’w chael yn y llyfr ‘Nel Fach y Bwcs’ gan Marged Lloyd Jones – mae’r llyfr allan o brint bellach ond mae Mam wedi llwyddo i gael gafael ar gopi ail-law i ni ddarllen pan awn ni adra. Bu farw Mam Nel yn 1881 pan oedd Nel yn 11 oed ac mae cofnod o ddigwyddiad rhyfeddol o arbennig rhwng Nel a Phennaeth llwyth Tehuelche yn dilyn colled ei mam yn cael ei dweud yn y ffilm ‘Poncho Mam-gu’ yng ngeiriau ei wyres, Eiry Palfry. ‘Dwi wedi cynnwys sawl dolen defnyddiol sy’n dweud mwy am yr hanes, y llyfr a’r ffilm i chi isod. Eddie Griffiths sydd bellach yn byw yn Llain Las – ffrind da i Ricardo – ac roedd fwy nag hapus i ddangos ni o gwmpas y tŷ fferm. Mae rhai o’r darnau dodrefn gwreiddiol o amser Nel dal i fod yno, lluniau, darnau o lestri ac ‘ornaments’ Cymreig. Un da ydi Eddie – clên a chyfeillgar ac yn wên o glust i glust. Dydi Eddie ddim yn berthyn i Nel – o Gaernarfon oedd teulu Eddie yn wreiddiol. Dwi wrth fy modd yn gwrando ar Eddie a Chymry ru’n fath a fo yma yn siarad am eu hynafiaid – maen nhw gyd yn gallu trasio’u coed teulu yn ôl i Gymru ac maent mor ofnadwy o falch o gyflawniadau eu hen Neiniau a’u Teidiau yma ym Mhatagonia.
Wedi i ni ddiolch a dweud hwyl fawr wrth Eddie, ymlaen a ni wedyn i weld gwartheg Ricardo yn y caeau.
Ac am wartheg sydd ganddo! Wrth i Ricardo ddreifio ar hyd y ffordd syth drwy’r coed, oedden ni’n gallu gweld – a chlywed – cur o Herefords cochfrown golygus yn symud mewn un clwstwr hamddenol yn y pellter. ‘Faint sydd yna?’ gofynnodd Dad. ‘191’ meddai Ricadro heb flewyn ar ei dafod. Aeth ymlaen i ddweud ei fod yn eu pwyso nhw bob dydd – er, mi fedr o ddweud wrth sbïo arnyn nhw faint mae nhw’n pwyso medda fo!
Sylwish i ar afon fach yn rhedeg yn ymyl y ffordd yr oedden ni arni… ac fe wawriodd arna i na dim afon oedd hi – ond ffôs. Dyma oedd un o ffosydd enwog y Cymry yr oeddwn i wedi clywed a darllen gymaint amdanynt yn ystod fy amser yma. Pwy ‘sa’n meddwl y byswn i – y ‘townie’ ydw i – yn ecseitio gymaint o weld system dyfrhau amaethyddol? Hanes sut y daeth y ffosydd ma’ i fod sydd wedi dal fy niddordeb i, mae’n stori sydd unwaith eto yn amlygu dygnwch y Cymry cyntaf ddoth yma ar y Mimosa yn 1865. Pan ddaru nhw lanio ym Mhatagonia – doedd dim golwg o’r baradwys wyrdd a ffrwythlon yr oedden nhw wedi cael eu haddo. Yn lle hynny, be oedd o’i blaenu ond tir sych digroeso diddiwedd. Roedd blynyddoedd cyntaf yr ymsefydlwyr yn frwydr ddyddiol yn erbyn yr hinsawdd wrth iddynt fethu dro ar ôl tro i dyfu cnydau.
Ydych chi’n nabod yr enw Rachel Jenkins? Gwraig o Aberpennar oedd hi, wedi cyrraedd ar y Mimosa yn 32 oed hefo’i gŵr Aaron Jenkins a oedd yn löwr, Richard eu mab blwydd oed, a’u merch fach Rachel a aned ar y llong yn ystod y fordaith. Yn drasig, collodd nhw eu mab dyflwydd oed, James yn ystod y siwrna’. Fedrai ddim ond dychmygu pa mor ddychrynllyd o ofnus a llawn galar y byddai Rachel ac Aaron fod wedi teimlo pan gyrhaeddodd nhw’r lle digroeso ‘ma ar ôl taith o’r fath?
Rhyw ddwy flynedd ar ôl cyrraedd, sylwodd Rachel un diwrnod ar lannau’r afon Chaput wedi torri oherwydd llifogydd ac fe feddyliodd y byddai palu sianeli o’r afon at y caeau yn ffordd o ddyfrhau’r cnydau. Yn ôl y llyfrau hanes, ei gŵr Aaron gafodd y syniad ond erbyn heddiw – Rachel sydd yn cael ei chydnabod yn gywir fel yr arloesydd. Diolch i Rachel – a gwaith caled aelodau’r gymuned, heb ddefnyddio unrhyw dechnoleg na deunyddiau modern; cafodd ardal o tua phedair milltir ar bob ochr i’r afon eu dyfrhau. Ymdrech anferthol a wnaeth hi’n bosibl i fyw ar a ffermio’r tir am y tro cyntaf. Hyd heddiw mae’r Afon Chaput yn parhau i gyfrannu’n fawr i economi amaethyddol a chyffredinol y dalaith.
Ar ôl cyrraedd yn ôl o’r caeau, dangosodd Ricardo ei gynllun manwl i ni o dir pori’r ffarm sy’n dangos yr holl lonydd, caeau a’r ffosydd. Eglurodd ei fod yn gallu sicrhau bod yr anifeiliaid yn cael porfa fresh dyddiol drwy eu cylchdroi’n rheolaidd o gwmpas y caeau yn ôl pa bryd a pha boced o dir sy’n cael eu dyfro gan y ffosydd mawr peiriannol modern. Mae’r gwaith mawr o gydlynu hyn i gyd wedi ei hen wneud gan Ricardo sw’n i’n deud – a heddiw, mae popeth yn ticio drosodd yn ddidrafferth iawn o dan ei oruchwyliaeth. Mae’r gwartheg yn weld yn fodlon iawn bynnag! Tybed be fyddai Rachel ac Aaron Jenkins yn feddwl o’r holl beth?
Cyn i ni gyd throi hi am yr Eisteddfod, mae Ricardo yn taflu ‘chydig o gig ar y Parilla i ni fwynhau hefo talpiau o fara ffres a diod o ddŵr oer ac mae ychydig o’r gweithwyr yn ymuno a ni am bryd ysgafn. Dyna oedd seibiant braf hefo’n gilydd o dan y coed yn yr awyr agored…. sgwrs Cymraeg a Sbaeneg bob yn ail am geffylau, pêl-droed a wyrion bach a mawr.
Felly dyma fi’n ôl yng nghar fy rhieni rŵan ac mi ydyn ni ar ein ffordd yn ôl i’r Andes. Gyda dim ond ychydig wythnosau ar ôl o’m cytundeb erbyn hyn – fyddai ddim yn dychwelyd i’r Dyffryn eto yn ystod fy Antur Argentina. Mae hynny’n fy ngwneud ychydig yn drist gan fod gan Y Gaiman le arbennig yn fy nghalon erbyn hyn. Mae pawb yma wedi fy nghroesawu i’r dref hefo cyfeillgarwch a charedigrwydd – anghofiai fyth mo fy amser yma. Diolch mawr ffrindiau.
Tan tro nesa x
https://larutanatural.gob.ar/en/scenic-route/30/los-altares-rn-25
https://en.wikipedia.org/wiki/Chubut_River
https://en.wikipedia.org/wiki/Mapuche
https://en.wikipedia.org/wiki/Tehuelche_people
https://penboyr.j2bloggy.com/Nel-Fach-Y-Bwcs/
https://www.bbc.co.uk/cymru/adloniant/llyfrau/adolygiadau/716-nel.shtml
https://vimeo.com/110382828?msockid=19de6431c4ba642516c9701bc55a65fc