Wyneb cyfarwydd yn ôl ar lwyfan Theatr Fach Llangefni

Mae ’na wyneb cyfarwydd yn dychwelyd eleni i fod yn rhan o gast pantomeim 2024 Theatr Fach Llangefni

Theatr Fach Llangefni
gan Theatr Fach Llangefni

Eleni, bydd ’na wyneb cyfarwydd sydd wedi hen arfer actio ar lwyfan Theatr Fach Llangefni – yn dychwelyd!

Bydd Richard Edwards, neu Dic i bawb sydd yn ei adnabod, yn actio rhan y Dame ym mhanto Theatr Fach Llangefni eleni.

Yn un sydd wedi bod yn rhan o sawl pantomeim yn y theatr dros y blynyddoedd, gan gynnwys nifer o gynyrchiadau eraill, mae Dic wedi cael saib o’r panto ers sawl blwyddyn bellach.

Ond eleni mae o’n taro haearn ar y ffrogiau, yn cyrlio’r wigs ac yn peintio’i wyneb mewn sawl côt o golur er mwyn paratoi i droedio yn ôl ar y llwyfan.

Bydd y panto eleni yn cael ei lwyfannu rhwng y 1 a 7 Rhagfyr hefo 8 perfformiad i’r gymued gyfan fwynhau.

Ac er mwyn dathlu bod Dic yn dychwelyd i’r llwyfan, bydd cyfle i’r cyhoedd ddewis enw newydd i’r Dame ar dudalen Facebook ac Instagram y Theatr, ac eisoes mae ’na sawl enw arbennig wedi’n cyrraedd ni.

Os hoffech chi fod yn greadigol a chynnig enw newydd i’n Dame, ewch draw i’n cyfryngau cymdeithasol cyn nos Wener y 1af o Dachwedd i roi cynnig arni.

Bydd manylion y panto eleni a’r rhestr cast yn llawn yn cael ei gyhoeddi yn fuan iawn. Cofiwch gael eich tocynnau chi ddigon buan, mi fyddan nhw’n gwerthu’n gyflym!

Dweud eich dweud