Ar 9 Tachwedd mi fydd yna gig yn Wellmans, Llangefni! Dyma’r gig gyntaf gan y criw “Miwsig Môr a Mynydd” ac rydym yn hynod o gyffroes!
Rydym yn griw o ffrindiau o Sir Fôn a Chaernarfon sydd wedi dod at ei gilydd i drefnu gig. Mae pawb sydd yn rhan o’r cynllunio yn ffans mawr iawn o gigs ac yn gweld nhw’n gyfle da iawn i gymdeithasu a mwynhau.
Roeddem yn teimlo fel bod yna ddim llawer o ddim byd yn mynd ymlaen adeg yma o’r flwyddyn ac yn gweld rhoi gig ymlaen yn gyfle da iawn i gael pobl allan i fwynhau yma yn Llangefni. Gyda help gan gronfa arian Llwyddo’n lleol, mae’r syniad o rhoi gig ymlaen wedi dod yn bosib ac yn dilyn hyn ffurfwyd “Gigs Miwsig Môr a Mynydd”.
Felly, pwy fydd yn chwarae? I agor ein noson bydd y band ‘punk’ o Gaernarfon a Môn sef Maes Parcio. Mae MP wedi chwarae ar lwyfannau ledled y wlad fel llwyfan y Maes, Clwb Ifor Bach a sawl lleoliad yn y gogledd hefyd. Band sy’n llawn egni a brwdfrydedd yw Maes Parcio, ffurfwyd nol yn 2018 ac er bod aelodau’r band wedi ei lleoli o amgylch y wlad erbyn hyn mae’r band yn sicr yn dal i fod ar eu gorau. Mae dylanwadau amlwg bandiau fel ‘Greenday’ yng ngwaith yr hogiau, cerwch i wrando ar eu EP diweddaraf “Nodiadau ar Gariad a Gwleidyddiaeth. Yng nghwmni’r hogiau yma, mai bownd o fod yn noson dda!
Yn dilyn Maes Parcio mae yna fand newydd sydd yn cymryd drosodd y sin roc Gymraeg ar y funud sef Buddug. Mae’r band yma wedi chwarae llwyfan y maes ag maes B leni ac wedi creu dilyniant enfawr i’w hunain. Mae Buddug bendant yn un i wylio! Mae ei sengl gyntaf ‘Dal Dig’ wedi dal sylw pobl yn syth ac wedi ennill lle ar ‘playlist’ sawl person dwi’n siwr. Rydym ni’n lwcus iawn eu cael nhw yn ein gig a byddwch chithau hefyd yn lwcus iawn i’w dal yma yn Llangefni!
Ag i orffen, Celt.
Oes rhaid i mi ddweud unrhywbeth am rhain? Mae Celt wedi bod yn fand sydd wedi bod ar frig y sin roc Gymraeg ers sawl degawd erbyn hyn ac yn dal hyd at heddiw yn rhyddhau ag yn gigio ledled Cymru. Mae eu halbwm ddiweddara “Newydd” allan ar bob platfform nawr, yr albwm cyntaf ers pymtheg mlynedd! Yn sicr bydd hi’n gig a hanner yn eu cwmni yn canu’r clasuron.
Rydym yn ffodus iawn i gael y cyfle i roi’r gig yma ymlaen ac dyda ni methu disgwyl i’r diwrnod mawr gyrraedd. Hoffem ddiolch yn fawr iawn i Llwyddo’n lleol am ein cynghori ac arianu, cerwch draw i’w cyfryngau cymdeithasol nhw i weld pa cyfleoedd allwch chi i’w gael.
Cofiwch ein dilyn ni ar y cyfryngau @miwsigmoramynydd. Gobeithio gweld chi yn Wellmans 19:00!
Dyma linc tocynnau:
https://fixr.co/event/gig-miwsig-mor-a-mynydd-tickets-317009635
Diolch,
Criw Miwsig Môr a Mynydd