Helo o’r Gaiman, Chubut!
Yn dilyn penwythnos Eisteddfod Chubut yn Nhrelew, dwi’n eistedd wrth fy laptop yn teipio fy hanas diweddara’ yng nghanol bwrlwm prysur brynhawn Sul un o dai te mwyaf enwog a phoblogaidd Y Gaiman; yr hyfryd “Tŷ Gwyn”. Mae hi’n orlawn yma ond mae’r perchennog Sonia a’i staff gweithgar wedi hen arfer. Dwi’n eu gwylio hefo edmygedd wrth iddyn nhw gario blateidiau enfawr o ddanteithion a thebotau lliwgar yn fedrus o’r gegin i’r byrddau heb drafferth. Does neb yn mynd heb banad ffres yma ac mae gan bawb gyflenwad o fara menyn, sgons a thorth frith o’u blaen. Mae hi’n Ddydd Sul y Mamau yma yn Argentina heddiw sy’n golygu dwbl y gwaith arferol… a hynny ar ben yr holl ymwelwyr ychwanegol sydd yma oherwydd yr Eisteddfod hefyd! Drwy holl sŵn y llestri a’r sgwrsio mae’r staff yn symud yn gain o gwmpas yr ystafell fel petai nhw’n gwisgo ‘sgida’ sglefro o dan eu sgertiau a ffedogau llaes traddodiadol Cymreig – ac mae gwên bodlon ar wyneb bob cwsmer.
‘Dwi wedi bod yn aros yn Nhŷ Camwy dros gyfnod yr Eisteddfod, sef llety’r athrawon o Gymru. Eleni, mae Athrawon Megan a Llinos yn byw yno tra y maent yn gweithio yn Ysgol y Gaiman a Choleg Camwy – ysgolion Cynradd ac Uwchradd dwyieithog y dref. ‘Dwi wedi aros yn Nhŷ Camwy sawl tro yn ystod fy amser yma er mwyn mynychu gweithgareddau yn y Dyffryn sydd ynghlwm a’m swydd – mae bob amser croeso cynnes a gwely cyfforddus i gael yma. Mi ydw i wrth fy modd cael treulio amser yn dal i fyny hefo’r ddwy ohonyn nhw – a hefo Richard a Catrin hefyd, aelodau eraill o staff ysgol o Gymru fuodd yma yn ystod y flwyddyn ddiwethaf hefyd. ‘Da ni gyd yn ffrindiau yn ogystal â chydweithwyr ac wedi bod yn gefn i’n gilydd drwy gydol y profiad unigryw yma. Gyda 7 wythnos yn unig ar ôl yn fy swydd erbyn hyn, mae’n edrych yn debyg mai dyma fydd y tro diwethaf’ i mi ymweld â’r Dyffryn ond ‘da ni’n saff o gwrdd â’n gilydd rhyw ben eto yn ôl yng Nghymru – gêm rygbi Cymru yn erbyn y Pumas efallai?
Felly, yn ôl at Eisteddfod y Chubut. O’r holl Eisteddfodau sy’n digwydd yma yn y dalaith yn ystod y flwyddyn – hon ydi’r fwyaf. Mae Cymry Argentina a’r Byd yn teithio dros dir a môr er mwyn mynychu’r ŵyl ddiwylliannol arbennig yma ac eleni, ges i fod yn rhan o’r hwyl hefyd.
Nos Fercher cyn yr Eistedded, roedd storm anferthol wedi bod yn y Dyffryn – doeddwn i ddim wedi cyrraedd awr pan ddechreuodd iddi fellt a tharanu. Roedd Megan a finnau wedi bwriadu mynd allan am swper y noson honno i’n hoff fwyty yn y Gaiman; Gwalia Lân. Ond wrth i’r glaw syrthio’n drymach ac yna peli mawr o genllysg achosi’r sŵn mwyaf ofnadwy ar do sinc Tŷ Camwy – fe ddiffoddodd y trydan. Wrth i ni sbïo allan drwy ddrws y bwthyn bach a lawr Stryd Michael D Jones tuag at gyfeiriad y tŷ bwyta, gwelswn fod y dref bron i gyd mewn twyllwch. Doedd swper allan ddim am ddigwydd! Disgynnodd y glaw’n drwm am oriau, cododd y gwynt a swatio’n ni’n y tŷ am weddill y noson. Roedd trigolion y dref yn rhannu clipiau o’u strydoedd yn edrych mwy fel afonydd ar gyfryngau cymdeithasol. Wedi ychydig oriau basio, tawelodd y tywydd, diolch i’r nefoedd – ac yna daeth y neges fod seremoni’r Orsedd y bore wedyn am orfod gael ei symud i’r Gampfa gan fod cae Cerrig yr Orsedd am fod yn amhosib i’w ddefnyddio.
Y bore wedyn, roedd yr awyr yn las a’r haul yn tywynnu – ac wrth i ni gerdded am y Gampfa, roedd pobl allan ym mhobman wrthi’n brwsio’r strydoedd a’r palmentydd i glirio’r llanast oedd wedi ei achosi gan y storm. Roedd perchnogion siopau a busnesau wrthi’n golchi eu ffenestri a’u silffoedd ffenest ac yn ail-osod eu dodrefn tu allan yn dwt. Pan gyrhaeddom ni, roedd y gampfa wedi ei pharatoi ar gyfer y seremoni ac ymhen dim wedi i ni gymryd ein seddi, daeth aelodau’r Orsedd i mewn fesul dau yn eu gwisgoedd glas trawiadol. Wedi i’r aelodau newydd gael eu croesawu a’u hurddo daeth y dawnswyr ymlaen i berfformio eu symudiadau hyfryd. Buan oedd popeth drosodd – aeth yr Orsedd i Gapel Bethel am eu cyfarfod blynyddol ac fe gerddom ni adra yn ôl drwy’r stryd fawr le bellach, doedd dim hoel o’r storm. Roedd popeth yn ei le am agoriad yr Eisteddfod yn Nhrelew yfory.
Rŵan, yn hanesyddol – dydw i ddim wedi bod yn hogan ‘steddfod o gwbl. Ar wahân i gystadlaethau gymnasteg yr Urdd – ac un can actol *briliant-priliant pan oeddwn i’n ‘Form 4’…. does gen i ddim llawer o brofiad o Eisteddfota. Dwywaith yn unig fu i mi ddawnsio gwerin – y tro cynta’ pan oeddwn i yn yr Ysgol Gynradd ac wedyn nesa yn y 6ed dosbarth achos fod rhywun wedi sôn y byddai’n edrych yn dda ar fy Natganiad Personol UCAS wrth wneud cais Prifysgol. Dydw i heb ysgrifennu cerdd ers Lefel A, fues i ‘rioed yn aelod o fath o gôr na pharti adrodd yn fy mywyd ac oeddwn i’n 46 oed y tro cynta’ – ac olaf – i mi fynd i Faes B.
Gan fod gen i hanes dilewyrch iawn ym myd yr Eisteddfod, oeddwn i’n amheus iawn o fynd am y swydd yma ym Mhatagonia – i fod yn onast, nes bron iawn DDIM gwneud cais oherwydd yr union beth yma. Ar ôl pendroni’r peth am ychydig – nes i feddwl, be ydi’r otch? Dydw i ddim llai o Gymraes achos nad ydw i wedi perfformio ar lwyfan yr Eisteddfod – dwi’n Gymraes i’r bôn ac mae gen i gymaint o sgiliau ac arbenigeddau eraill i gynnig. Ac fel ‘na werthish i fy hun yn y cais ac eto yn y cyfweliad – nes i ddim cogio bod rhywbeth na rhywun nad oeddwn i ddim. Rhian ’dwi a dyma fi – cymrwch fi fel ag yr ydw’i – mi wnai fy ngora’ i wneud be fedrai! Doedd neb felly wedi syrfdanu yn fwy na fi y penwythnos yma wrth i mi landio fy hun ar lwyfan Eisteddfod Chubut yn adrodd ac yn chanu myn dian i!
Cyfla’ ydi Eisteddfodau’r Chubut i aelodau’r gymuned fach Gymreig gyfarfod er mwyn dathlu eu diwylliant, eu llwyddiannau a’u hanes. Mae’r gymuned ar wasgar, gyda rhai trefi dros 400 o filltiroedd oddi wrth ei gilydd wedi eu gwahanu gan Steppe anferthol Patagonia. Mae teithio yma’n anodd ac yn gostus ac mae ffrindiau ac aelodau teulu weithiau yn mynd misoedd heb weld ei gilydd. Felly pan mae ‘na Steddfod ar y gweill, mae grwpiau o bobl yn awyddus i ddod at ei gilydd er mwyn cyfrannu at yr ŵyl ac ymuno yn hwyl y gystadlu. Mae’r ymarferion yn eu hunain yn hamddenol yn gymdeithasol a hwyliog. Dwi ar ben fy hun y rhan fwyaf o’r amser tu allan i’m horiau gwaith – ac felly i mi, mae cymryd rhan mewn gweithgareddau’r Eisteddfodau wedi bod yn gyfla’ da i mi ddod i adnabod aelodau’r gymuned Gymreig ac yn siawns gwerthfawr iddyn nhw gael ymarfer eu Cymraeg nhw hefo siaradwr o Gymru hefyd. Erbyn rŵan, ar ôl misoedd yma – mae wedi dod i fod yn ffordd braf i mi allu treulio amser hefo fy ffrindiau newydd yma. Dwi wrth fy modd yn mynychu gwersi Dawnsio Gwerin hefo Dawnswyr Cwm Hyfryd yn wythnosol dan arweiniad Jessi Jones a ges i andros o hwyl yn ddiweddar yn cyfarfod yn rheolaidd hefo ffrindiau i ymarfer Can Actol doniol dan arweiniad Alejandro Jones.
Canu ac adrodd oedd y cystadlaethau yr oeddwn i’n cystadlu ynddyn nhw y penwythnos yma – roeddwn i’n aelod o barti cydadrodd Criw’r Andes yn adrodd “Yma o Hyd” gan Dafydd Iwan a hefyd yn canu “Wrth y Groes” hefo parti Capel Seion. Wyddwn i ddim cyn yn ddiweddar beth oedd canu ‘alto’ – ond diolch i arweiniad gofalus ac amyneddgar aelodau’r côr bach, dwi rêl boi rŵan ’chan! Tra yr oeddwn wedi cyd adrodd yn Eisteddfod Trevelin yn ôl ym mis Ebrill, dyma oedd y tro cyntaf i mi ganu ar math o lwyfan ‘Steddfod. Mae Eisteddfod y Chubut yn fawr – ac roedd mynd i fyny grisiau llwyfan Neuadd Dewi Sant Trelew yn dipyn o beth! Roedd fy nghalon i’n pwmpian fel trên bach yr Wyddfa wrth i mi gamu i’r goleuadau…ond roedd y rwsh adrenalin yn wefreiddiol ac fe lifodd y geiriau a’r nodau allan heb unrhyw drafferth munud ddechreuon ni. Roedd cael fy ffrindiau bob ochr i mi yn ystod y perfformiadau yn braf ac – am y tro cyntaf a dweud y gwir – oedden i’n wirioneddol yn teimlo fel rhan go iawn o’r gymdeithas ‘ma, a dim fel ymwelydd.
Ac am y canlyniadau gofynnwch chi? Wel, am ddrama! Roeddwn i’n cystadlu yn erbyn fy ffrind Megan a’i chydweithwyr yn y Dyffryn yn y ddwy gystadleuaeth! Ni ddoth gyntaf yn yr adrodd a nhw’n ail ac yna fel arall rownd yn y canu….felly ‘da ni dal yn ffrindia’! Diolch yn fawr iawn i Llinos Howells am feirniadu’r llefaru ac i John Ieuan Jones am feirniadu’r canu, roedd y ddau ohonyn nhw’n brysur iawn drwy’r penwythnos!
Nid yng nghystadlaethau llwyfan yn unig yr oeddwn i wedi cystadlu – oeddwn i hefyd wedi ysgrifennu dau ddarn o farddoniaeth Cymraeg ar gyfer y cystadlaethau llenyddiaeth. O’r holl bethau newydd ydw’i wedi rhoi ‘go’ iddyn nhw yma ym Mhatagonia – dyma’r peth mwyaf annisgwyl sydd wedi fy synnu i fwya’. A deud y gwir, fedrai’m coelio ‘mod i wedi gneud ffasiwn beth! Doedd hi ddim wedi bod yn fwriad i mi ysgrifennu cerdd ar gyfer yr eisteddfod o gwbl, mi ddigwyddodd ar hap a deud y gwir. Ar y bws oeddwn i un prynhawn, ar y ffordd adra o wers Gymraeg i oedolion – dechreuish i sgwennu ‘chydig o eiriau diddorol i lawr, geiriau rhythmig, swynol, blodeuog, ansoddeiriau dramatig. Wrth i’r wythnosau heibio, dechreuodd y rhestr yma o eiriau fynd yn frawddegau, yn gwpledi, yn benillion. Heb i mi sylwi … oeddwn wedi dechrau ysgrifennu rhyw fath o gerddi rhydd. Oeddwn i’n reit chyffd hefo fy hun – ond ddudish i ddim wrth neb am be oeddwn i’n neud chwaith. Sa’ nhw’n chwerthin ar fy mhen. Yn bysa nhw?
Yna, ddoth y testunau Eisteddfod allan. Daliodd cwpl o destunau fy llygaid. Meiddiwn i feddwl y byswn i’n gallu cystadlu yn erbyn beirdd go iawn? “As if Rhian”. Ond, dalish i ati i chwarae hefo’r geiriau er gwaetha fy syndrom imposter anferthol ac erbyn i’r dyddiad cau agosáu, oedd gen i ddwy gerdd orffenedig. Ond dal i oedi oeddwn i, ama fy hun. Anfonish i dext i fy mab…..
Rhian: Hai, nei di sbïo ar hein i mi plîs a gadal mi wbod be ti’n feddwl? Bydda’n onast.
Ellis: Ma nhw’n lyfli Mam – gyrra nhw mewn. Fyddai’n flȋn os nei di ddim.
Dyna ni felly, mewn a nhw!
Does dim diwedd cyffrous i’r stori ‘ma, ges i ddim **gwobr – ond mi ges i brofiad anhygoel o gystadlu a nes i fwynhau bob eiliad o’r broses o’r dechrau i’r diwedd. Hefyd, ges feirniadaeth oeddwn i’n hapus hefo. Roedd y beirniad Llŷr Gwyn Lewis yn hoffi’r “agoriad stacato dramatig” oedd i un o’r cerddi yn ôl y sôn! Dwi’n teimlo’n falch iawn o fy hun. Ond bron mwy na’r gamp o ysgrifennu dwy gerdd – mae gen i ymdeimlad enfawr o gyflawniad am fod wedi rhyddhau fy hun i allu barddoni o gwbl. Taswn i adra ac yn gweithio llawn amser yn fy swydd Pennaeth ysgol – sw’n i byth bythoedd wedi cymryd yr amser yma i fi fy hun i allu rhoi pensil ar bapur yn greadigol. Dwi wedi ffeindio fod ysgrifennu darnau bach o farddoniaeth syml wedi bod yn rhywbeth ymlaciol a braf i mi wneud yma Mhatagonia. Ydi fy mywyd i adra mor ofnadwy o brysur na fedrai ganiatáu fy hun 5 munud bach bob hyn a hyn i ddal ati hefo’r diddordeb newydd ‘ma? Amser a ddengys….
Tan tro nesa x
*ges i fôr o hwyl yn actio rôl Delyth (o’r enwog Delyth a Bethan: Caryl Parry-Jones a Siw Huws ffilm “Ibiza, Ibiza” CLASUR) mewn cynhyrchiad wedi ei ysgrifennu a’i gyfarwyddo gan yr hollol wych Mrs Valmai Rees
**Llongyfarchiadau mawr i Prifardd yr Eisteddfod eleni; Terwyn Tomos o Sir Benfro.