Pan wnes i symud i Ynys Môn deg mlynedd yn ôl rôn i eisiau nofio yn y môr, ond do’n i ddim yn ddewr iawn.
Rôn i’n mynd am dro ar y traeth yn aml, a mi wnes i badlo ond wnes i ddim nofio.
O’r diwedd mi wnes i benderfynu trio… mi wnes i fynd efo grwp yn Llaneilian. (Mae Porth Llaneilian yn gysgodol). Mae’r grwp yn gyfeillgar iawn a phawb yn nofio ychydig neu lawer – mae hynny fyny i’r unigolyn!
Wel…. ar ôl un taith ro’n i wrth fy modd! Am fwy na dwy flynedd dw i wedi nofio o leia deirgwaith yr wythnos.
Ydy hi’n oer? A bod yn onest, ydy!
Mae’n anodd ar y dechrau (dw i’n gweiddi ychydig bob tro) ond dw i’n cynhesu’n fuan. Weithiau dw i’n gwisgo wetsuit ond fel arfer dw i’n gwisgo gwisg nofio – mae gen i fenig ac esgidiau, a pan mae’n rhy oer dw i’n gwisgo het. Yn yr haf mae slefrod môr – mae’n nhw’n medru pigo, felly dwi’n gwisgo trowsus hir a crys t hir. (Does neb yn hoffi’r slefrod môr!) Dw i wedi gweld morloi a dolffiniaid a gwiwerod coch (yn y coed, ddim yn y môr!).
Dw i’n dal i nofio yn Llaneilian (efo llawer o sgwrsio, coffi a chacen! A deud a gwir weithiau mae ’na ddipyn bach o bort hefyd!)
Dw i’n trio mynd i leodd gwahanol rwân – mae na sawl grwp yn cyfarfod mewn baeau gwahanol ledled yr wythnos – llawer o ddewis!
(Facebook : Bluetits Ynyn Môn Titis Tomos Las, Nofio Porth Eilian)
Os dach chi’n licio nofio, ddylech chi drio nofio yn y môr – mae’n fendigedig!
Bydd rhai pobl yn dweud eich bod yn dwp, ond does dim ots!
Janet Smith (gyda diolch i fy nhiwtor Cymraeg Sharon a’m perswadiodd i ysgrifennu’r erthygl!)