Blas o ŵyl Ffrinj yr Alban ym Môn

Drama boblogaidd a ymddangosodd yng ngŵyl Ffrinj yr Alban yn dod i Langefni

Theatr Fach Llangefni
gan Theatr Fach Llangefni

Bydd sioe boblogaidd oedd yn gwerthu allan yn rheolaidd yng Ngŵyl Ffrinj yr Alban yn dod i Theatr Fach Llangefni yn fuan.

I nodi adeg y cofio eleni, bydd drama Saesneg un dyn gan gwmni theatr Grist To The Mill yn ymweld â’r theatr.

Stori arbennig am frawdgarwch, brad ac addewidion gafodd eu torri yn dilyn y Rhyfel Byd Cyntaf.

Mae’r cynhyrchiad wedi derbyn nifer o adolygiadau pum seren – felly peidiwch â cholli’r cyfle i wylio’r ddrama hon.

Am un noson yn unig yn Theatr Fach Llangefni

Nos Wener, 8 Tachwedd am 19:30

Tocynnau ar gael yma

Ffair Grefftau Nadolig Oriel Môn

18:00, 8 Tachwedd – 12:00, 24 Rhagfyr (AM DDIM)

SIOE AEAF MÔN 2024

09:00, 9 Tachwedd – 17:00, 10 Tachwedd (Tâl Mynediad - £5 / Plant dan 16 yn mynd i fewn am ddim / Aelodau CFfI 16 a throsodd £2 efo cerdyn aelodaeth)

Cwis

19:30, 22 Tachwedd

Cylchlythyr

Dweud eich dweud