Y Criw Dysgu Cymraeg

Dewch i gyfarfod Dosbarth Cymraeg Gaerwen: Sylfaen 1

gan Mark Furnival

Rydan ni fel criw dysgwyr Cymraeg yn cyfarfod bob wythnos yn Neuadd Esceifiog am wersi Cymraeg gyda’n tiwtor, Branwen Glyn.

Mae 2,000 o ddysgwyr Cymraeg  yn rhan o gynllun Darpariaeth Dysgwyr Cymraeg Gogledd Orllewin dan adain Prifysgol Cymru Bangor a hynny drwy Arfon, Môn, Dwyfor, Meirionydd a Chonwy…a dyma rai ohonom:

Mark dw i, dw i’n dŵad o Dde Cymru yn wreiddiol, dw i’n mwynhau gwrando a siarad
Cymraeg rŵan, mae’n bwysig i mi achos pan o’n i’n blentyn do’n i ddim yn medru.

Clare dw i. Mae’n bwysig i siarad Cymraeg ac i drio Siarad Cymraeg os dach chi’n byw yng
Nghymru. Yn y dosbarth wythnos diwetha mi wnaethon ni ddysgu ‘’Gwell Cymraeg slac na
Saesneg slic’’

Kirsti dw i. Fy hoff air Cymraeg ydy ‘Bendigedig’. Dw i’n mwynhau’r her o ddysgu mwy o
eiriau Cymraeg newydd.

Zelinda dw i. Yn y cwrs haf llynedd roedd y tiwtor isio tynnu llun o’r grŵp a mi wnes i
ddysgu’r gair ‘’pincio’’ dw i’n licio’r gair yma.

Aliss dw i. Dw i wrth fy modd yn dysgu’r iaith, mae’n bwysig i mi, i mi deimlo cysylltiad efo’r
diwylliant Cymraeg.

Kim dw i. Dw i’n licio gweld pobl yn gwenu pan dw i’n trio siarad Cymraeg yn y siop leol.

Clare Jones dw i. Dw i’n licio’r dosbarth Cymraeg achos dw i’n hoffi gwrando ar fy mab yn
siarad efo ei ffrindiau a dallt nhw.

John dw i. Dw i’n dysgu Cymraeg achos mae o’n ffenest i fyd gwahanol.

Ffair Grefftau Nadolig Oriel Môn

18:00, 8 Tachwedd – 12:00, 24 Rhagfyr (AM DDIM)

SIOE AEAF MÔN 2024

09:00, 9 Tachwedd – 17:00, 10 Tachwedd (Tâl Mynediad - £5 / Plant dan 16 yn mynd i fewn am ddim / Aelodau CFfI 16 a throsodd £2 efo cerdyn aelodaeth)

Cwis

19:30, 22 Tachwedd

Cylchlythyr

Dweud eich dweud