Beth ydy Pickleball?

Yn chwilio am her newydd? Efallai mai ‘Picklball’ yw’r ateb!

gan Helen Bagley

Helen dw i. Dw i’n byw ym Menllech efo fy mhartner Will a fy nghŵn Josie a Poppy.

Mi wnaethon ni symud yma yn Mai 2020 ac roedd o’n “touch and go” achos daeth y cyfyngiadau (Clo) ar ôl i ni gyrraedd! Dw i wedi bod yn dysgu Cymraeg ers mis Medi 2020.

Do’n i ddim yn nabod neb pan wnes i gyrraedd felly i gyfarfod pobl newydd mi wnes i ddechrau chwarae “pickleball” yn Amlwch. Mae pawb bob amser yn gofyn “Be ydy pickleball?”. Wel -meddyliwch am gymsegedd o denis a tenis bwrdd. Mae o’n wych a phawb yn gyfeillgar iawn! Dewch i ymuno â ni!

Grwpiau yng Nghanolfannau Amlwch , Caergybi, Llangefni a Biwmares.

Ffair Grefftau Nadolig Oriel Môn

18:00, 8 Tachwedd – 12:00, 24 Rhagfyr (AM DDIM)

SIOE AEAF MÔN 2024

09:00, 9 Tachwedd – 17:00, 10 Tachwedd (Tâl Mynediad - £5 / Plant dan 16 yn mynd i fewn am ddim / Aelodau CFfI 16 a throsodd £2 efo cerdyn aelodaeth)

Cwis

19:30, 22 Tachwedd

Cylchlythyr

Dweud eich dweud