Anturiaethau Athrawes o Langefni yn yr Andes

Ysgol Y Cwm – Trevelin

Rhian Lloyd
gan Rhian Lloyd
1

Mynediad yr ysgol

2

Blwyddyn 6 ac Athrawes Rhian

3

Amser brecwast!

4

Ystafell yr Athrawon

5

Amser egwyl

6

Cwpan yr Eisteddfod

7

Athrawes Rhian – TY CRAIG GOCH – pawb i wisgo yn lliwiau eu Tai!

8

Bathodynau’r Capteiniaid Tai

9

Cystadlaethuau Gwaith Cartref

10

Yr Eisteddfod – yn ei chanol hi!

11

Tystysgrifau a sdiceri cymryd rhan

13

Llongyfarchiadau!

Helo o Ysgol y Cwm yn Nhrevelin, Chubut.

Roedd hi’n ddiwrnod mawr yma heddiw – diwrnod yr Eisteddfod Ysgol gynta’ erioed – ac am chwip o Eisteddfod oedd hi ‘fyd, pawb wedi bod wrth eu bodda’! Dwi wedi atodi chydig o luniau i chi weld y ffashwn hwyl gawson ni gyd ac mi soniai fwy am y diwrnod bellach ‘mlaen – ar ôl i mi roi ychydig bach o gefndir i chi am yr ysgol ei hun.

Mae ‘na lot fawr o ysgolion yn nhrefi Trevelin ac Esquel ond Ysgol y Cwm yw’r unig un yma yn yr Andes sy’n cynnig gwersi Cymraeg dyddiol i’r dysgwyr. Mae hi’n ysgol breifat ddwyieithog Gymraeg-Sbaeneg ac yn derbyn dysgwyr o’r Feithrin hyd at Flwyddyn 7. Agorwyd yr ysgol yn 2016 er mwyn helpu gwarchod a datblygu’r Gymraeg yn yr Andes. Rhwng y gynradd a’r uwchradd mae dros 150 o blant yma a tua 30 aelod o staff – pedair ohonynt yn athrawon Cymraeg. Mae’r plant yn cael eu haddysgu yn bynciol ac yn derbyn un wers Cymraeg 4 diwrnod yr wythnos. Drwy Gynllun Dysgu Cymraeg y Cyngor Prydeinig, mae’r ysgol yn cael un athro/athrawes o Gymru yn flynyddol – a fi ‘di honno eleni!

Mae adeilad yr ysgol yn fawr ac yn fodern – ac yn amgylchedd hynod braf i weithio a dysgu ynddi. Mae wedi ei lleoli yn y dref, ddim yn bell oddi ar y brif Avenida San Martin. Mae’r plant yn chwarae ar gae’r ysgol yng nghysgod mynydd Gorsedd y Cwmwl gyda Chapel Bethel yn rhannu’r un darn tir. Mae Tŷ Capel yn eistedd ar bwys y cae. Croesawir ymwelwyr i’r brif mynediad gan ddwy faner hawdd eu hadnabod yn hedfan yn y gwynt – baner yr haul a baner y ddraig, ochr yn ochr.

‘Alexa, wake me up at 6am’. Dyna fyddai’n ddeud yn uchel bob nos cyn mynd i gysgu – achos ma’r ysgol yn cychwyn am 7:30 yn ddyddiol! Er ei bod yn andros o job codi’r adeg hynny –  does dim gobaith o gysgu drwy’r larwm gan fod yna hanner dwsin o geiliogod yn clochdar nerth eu penna’ o sawl gardd gyfagos i fy fflat hefyd! Mae’r diwrnod ysgol yn cychwyn gyda phawb yn ymgynnull yn y neuadd mewn cylch i godi’r baneri ac i gyd- ganu un o anthemau yr Ariannin. Yna, rhannu ychydig o newyddion hefo’n gilydd cyn mynd i wers cynta’r dydd. O fewn dim, mae hi’n ‘Amser Brecwast’ ac mae merched y gegin yn dod o gwmpas y dosbarthiadau hefo jwg fawr o de, bocs o fygiau a llond basged o sgons, crempogau neu tortas fritas i’r plant a’r staff. Ar Ddydd Gwener – mae siocled poeth a Dulce de leche ar fechdan i’w gael yn trît!

Yn ystod gwersi cynta’r dydd, mi fyddai’n cymryd grwpiau o blant Blwyddyn 1,2 a 3 allan o’u gwersi Cymraeg i weithio ar dasgau Tric a Chlic neu i ymarfer synau’r wyddor, darllen llyfrau a chwarae gemau iaith. Yn y Feithrin byddai wedyn am gyfnod hefo trŵps fenga’r ysgol cyn cael brêc digyswllt. Adeg hynny, fyddai’n piciad adra neu i gaffi lleol i baratoi gwersi neu adnoddau a mynd i’r siop llungopïo i gasglu taflenni gwaith. ‘Nôl i’r dosbarth wedyn am sesiwn hefo Blwyddyn 6 – a chyn i mi droi, mae hi’n 12:45yh ac amser mynd i’r neuadd er mwyn ffarwelio tan yfory.

Roedd y tri mis cynta’ yn y swydd anghyffredin ‘ma yn gyfnod hir o drio cael fy mhen rownd fy ngweithle a’m rôl newydd – roedd cymaint i’w ddysgu a chofio! Buan iawn nes i sylwi fod y gallu i siarad Sbaeneg yn hanfodol er mwyn gallu cyfathrebu hefo’r plant, fy nghyd-weithwyr a’r rhieni – felly es i ati reit handi i ymgyfarwyddo fy hun â ‘chydig o gyfarchion syml. Er ‘mod i’n gallu dal sgwrs sylfaenol iawn erbyn hyn… mae Google Translate yn dal i fod yn ap angenrheidiol i fy mywyd bob dydd yma.

Wrth i’r amser basio, ddoth petha ychydig fwy clir – ac erbyn hanner ffordd drwy’r flwyddyn ysgol roeddwn i wedi dod i ddysgu enwau’r mwyafrif o bobl a phlant yr ysgol, wedi arfer gyda’r amserlen, wedi ffeindio’r adnoddau Cymraeg, wedi llwyddo i asesu anghenion y dysgwyr ac wedi meistroli’r drefn llun gopïo! Roeddwn bellach yn teimlo’n fwy o ran o dîm addysgu’r ysgol ac yn ddigon hyderus o fewn fy rôl i allu cynnig syniadau am bethau fyddai o fudd i’r ysgol o ran hybu’r Gymraeg. Yn dilyn cyfarfod adran ac wedi gwrando ar y staff yn siarad am eu deheuad i glywed mwy o Gymraeg yn cael ei ddefnyddio tu allan i wersi Cymraeg; es i ati i lunio prosiect ar gyfer codi statws yr iaith yn yr ysgol. Bu i staff yr Adran Gymraeg ymateb yn gadarnhaol a brwdfrydig i’r cynnwys – ac unwaith yr oedd Pwyllgor yr ysgol wedi ei gymeradwyo aethom ati fel lladd nadroedd i roi prif syniadau’r cynllun ar waith. Un o’r syniadau hynny oedd cynnal Eisteddfod ysgol Gymraeg flynyddol.

Y dasg gyntaf oedd rhaid ei gwneud cyn dim oedd sefydlu Tai Ysgol – bu i flwyddyn 6 fod yn rhan o’r broses creu ac ar ôl sawl cyfarfod ‘brainstorm’, holiadur a phleidlais; roedd ganddo ni dri tŷ. Tŷ Craig Goch a Thŷ Gorsedd y Cwmwl (mynyddoedd mwyaf adnabyddus Trevelin) a Thŷ Yr Wyddfa. Fe rannwyd plant yr ysgol i gyd i’w tai a bu i’r Capteiniaid Tai gael eu hethol. Roeddem nawr yn barod i gychwyn ar drefnu’r Eisteddfod!

Roedd ein holiaduron wedi amlygu fod gan nifer o blant yr ysgol syniad negyddol am Eisteddfod; felly roedd hi’n bwysig i ni drefnu gŵyl gynhwysol, llawn hwyl ac yn gyfla i bawb fwynhau a chael bod ychydig yn wirion! Yn sgil hynny, penderfynwyd y byddai gwell cadw’r cystadlaethau llwyfan yn syml ac ysgafn – unawdau canu byr ac adnabyddus fel ‘Dau gi bach’, rapiau llawn nonsens fel ‘un dau tri, mam yn dal y pry’, dweud jôc a chlymau tafod. Yn ogystal a hwyl y llwyfan, bu i ni gynnwys cystadlaethau eraill diddorol fel dawnsio disgo, tynnu llun a choginio. Roedd rhywbeth at dâst pawb! Wrth i’r plant ddeall fod marciau tai i’w cael am gystadlu…..fe aethant ati fel slecs i ymarfer a pharatoi ar gyfer y diwrnod mawr!

O’r cychwyn, ‘roedd aelodau Pwyllgor yr ysgol yn ofnadwy o gefnogol a brwdfrydig am y prosiect – ac fe aethant ati i gyd yn weithgar i ddod o hyd i feirniaid arbenigol lleol, i gasglu rhoddion gan y gymuned ar gyfer bwrdd gwobrau’r Eisteddfod ac i baratoi adnoddau megis bathodyn i’r Capteiniaid a sticeri ‘Cymryd Rhan’ ar gyfer y cystadleuwyr. Ddaru’r gofalwr adeiladu llwyfan hefo brics o’r tu allan a shîtiau o bren a ddaru ni’ll dau addurno’r neuadd hefo bob un baner draig goch y medrwn ni gael gafael arnyn nhw yn y storfa. Gysgish i’m winc y noson honno – roedd pob math o gwestiynau yn mynd rownd a rownd yn fy mhen….Wnawn nhw gystadlu? Fydd pawb yn troi fyny? Fydd y sain yn gweithio? Fydd y staff di-Gymraeg yn mwynhau? Nawn ni orffen ar amser? Neith o orffen rhy fuan?? Ond, pan gyrhaeddais i’r neuadd ysgol am 7 y bore ar fora’r steddfod, roedd y lle’n edrych yn berffaith. Am 8 o’r gloch, llifodd y plant a’r staff i mewn a diolch i waith tîm heb ei ail, fe lifodd popeth yn berffaith am y pum awr nesa. Braf oedd gweld pawb yn chwerthin ac yn mwynhau drwy’r dydd a chymaint o blantos mor awyddus a hapus i fynd ar y llwyfan i gynrychioli eu hunain a’u tai! Tŷ Yr Wyddfa oedd yn fuddugol gyda 260 o farciau – pleser llwyr oedd cyflwyno Cwpan yr Eisteddfod i’r Capteiniaid Tai.

Erbyn i ni fod yn sefyll ar gyfer yr anthem i gloi, roedd fy llygaid i’n llawn dagra o falchder a chariad tuag at y Gymru fach ‘ma mor bell o adra. Dwi’n hyderus bydd hwyl heddiw wedi ysgogi holl rhanddeiliad yr ysgol ac y bydd Eisteddfod Ysgol Y Cwm yn draddodiad blynyddol Cymreig ar eu calendr o’r hyn ymlaen. Mi fyddai wrth fy modd yn ei gwylio o bell wrth i’r steddfod fach arbennig ‘ma  fynd o nerth i nerth!

Heno – wrth i mi sgrolio drwy Facebook, mi welai stori ar ôl i stori o’r eisteddfod ac mae geiriau un o aelodau’r pwyllgor yn canu yn fy nghlustiau i:

“Roedd heddiw’n debyg iawn i’r Ysgol oedd yn ein breuddwyd. Diolch”

Tan tro nesa x

*** Mae rhaid i mi ddiolch o galon i’r bobl canlynol; a fu mor barod i gefnogi Eisteddfod Ysgol Y Cwm. Ni fyddai llwyddiant y digwyddiad wedi bod yn bosib heb eich cyfraniad gwerthfawr:

Staff Gynradd yr Adran Gymraeg a fu’n paratoi’r dysgywr ar gyfer y cystadlu: Jessica Jones, Ximena Roberts a Noe Jenkins

Beirniaid:

  • Canu – Alejandro Jones
  • Jôcs – Gwion Elis-Williams
  • Rapio – Clare Vaughan
  • Cwlwm tafod – Alwen Green
  • Dawnsio – Sibyl Hughes
  • Celf – Laly Zuniga Gibbon
  • Ffotograffaeth – Agustín García
  • Llenyddiaeth – Megan Samuel, Ysgol y Gaiman
  • Coginio –  Elu a Santi, Grŵp Dysgwyr Esquel

Cyfeiliant: Einion Dafydd, Pennaeth Cerdd Ysgol David Hughes

Sain – Fede

Casglu’r gwobau a’r rhoddion – Margarita Green, Alwen Green a Sibyl Hughes

Casglu’r bathodynau / sdiceri – Alwen Green, Athrawes Ximena ac Athrawes Male

Rhoddion: 

  • Tŷ Te Nain Maggie
  • Tŷ Te La Mutisia
  • Copy 007 Esquel
  • Melin Andes
  • Peluquería Mariana Nugnes
  • Dolly Miguens
  • Mónica Williams
  • Charlie a Marga
  • Patricia Urritia

http://ysgolycwm.com/index.html

https://wales.britishcouncil.org/rhaglenni/addysg/prosiect-yr-iaith-gymraeg

https://www.facebook.com/ysgolycwm