Miwsig, y môr ag Ynys Sgomer

Taith gofiadwy a cherddoriaeth werin ar Ynys Sgomer

Dawn Walton
gan Dawn Walton

Mi es i i Ynys Sgomer ym mis Awst, i chwarae cerddoriaeth werin. Y llynedd, mi gerddodd y grŵp Filkin’s Drift llwybr arfordir Cymru. Roedden nhw’n chwarae llawer o gyngherddau ar y ffordd, roedden nhw’n wych! Pwrpas y daith i Ynys Sgomer oedd i gael gweithdy efo nhw a chwarae cerddoriaeth werin a chyfansoddi hefyd.

Roedd rhaid i mi fynd a fy holl fwyd gyda fi achos does ‘na ddim siopau yno, dim ond yr hostel. Doedd y tywydd ddim yn dda, ac roedd y daith fferi yn arw. Doedd dim cychod eraill am dri diwrnod. Roedden ni’n lwcus iawn, dim ymwelwyr eraill ar yr ynys!

Mae Ynys Sgomer yn hardd iawn efo golygfeydd bendigedig. Pan o’n i yno (rhy hwyr i balod), mi welais i lawer o adar gan gynnwys Manx Shearwater, 700,000 – hanner poblogaeth y byd – mi aethon ni am dro yn y tywyllwch, gwynt a’r glaw i eu gweld nhw. Roedden nhw’n rhedeg rhwng ein traed ni! Roedd hi’n arbennig iawn.

Roedd y gweithdai yn hwyl, yn canu fy ffidil efo 13 o bobl talentog eraill. Mi ysgrifennes i dôn ffidl – Y Jig Sgomer! Bob nos roedd ‘na log adar – mi fasen ni’n dweud pa adar oedden ni wedi eu gweld y diwrnod hwnnw ac wedyn mi fasen ni’n cynnal sesiwn Cerddoriaeth Werin a mi fasa’r gwirfoddolwyr yn dod i wrando arnon ni.

Ar ôl tri diwrnod roedd hi’n amser mynd adre. Roedd y tywydd yn braf iawn a tawel wrth i ni gwrdd â’r cwch am 9 o’r gloch yn y bore. Mi wnaethon ni gadwyn ddynol i symud holl fagiau’r ymwelwyr newydd i fyny’r grisiau serth. Ar y cwch roedd Seth (o Filkin’s Drift) yn canu shantis môr ar y ffidil!

Am dri diwrnod gwych – mi hoffwn i fynd eto’r tro nesa!

Dawn Walton, mis Medi, 2024

Ffair Grefftau Nadolig Oriel Môn

18:00, 8 Tachwedd – 12:00, 24 Rhagfyr (AM DDIM)

SIOE AEAF MÔN 2024

09:00, 9 Tachwedd – 17:00, 10 Tachwedd (Tâl Mynediad - £5 / Plant dan 16 yn mynd i fewn am ddim / Aelodau CFfI 16 a throsodd £2 efo cerdyn aelodaeth)

Cwis

19:30, 22 Tachwedd

Cylchlythyr

Dweud eich dweud