Gwobr Mudiad Cymunedol y Flwyddyn 2024

Mudiad lleol yn dod i’r brig.

gan Diana Roberts

Ari Parry Hughes ar ddiwrnod y ras 5k

Bev yn tanio’r rhedwyr cyn y ras

Rhedwyr Ras 5k Llanbedrgoch/Talwrn

Criw Cybi Striders

Go brin rhai misoedd yn ôl pan ddaeth criw bach o bentrefwyr at ei gilydd i ffurfio grŵp cymunedol newydd, y byddem wedi dychmygu byddai cynrychiolaeth o’r mudiad ‘Ffrindiau Llanbedrgoch’ yn cael eu gwahôdd i’r llwyfan yn y Galeri, Caernarfon i dderbyn gwobr ‘Mudiad Cymunedol y Flwyddyn’ yn seremoni wobrwyo Menter Môn 2024!

Ffurfiwyd Ffrindiau Llanbedrgoch ym mis Mawrth gyda’r bwriad o ddod a thrigolion y pentref a’r ardaloedd cyfagos at ei gilydd, i roi cyfle i aelodau’r gymuned ddod i adnabod ei gilydd yn well, hybu cydweithio a chymdeithasu, a gwneud yn fawr o dalent pob unigolyn yn ein plith.

Margaret ag Aled, cynrychiolwyr ‘Ffrindiau Llanbedrgoch’ yn derbyn y wobr.

Yn dilyn cefnogaeth brwdfrydig gan swyddogion cynllun Balchder Bro, rhan o gynllun Menter Môn, buom wrthi fel lladd nadroedd yn trefnu gweithgareddau a oedd yn cynnwys pob carfan o’r gymdeithas.  Cafwyd hwyl garw yn ‘Hwyl a Sbri y Pasg’ , ble daeth criw o deuluoedd ifanc, pobl ifanc, y to hŷn, a chriw o wirfoddolwyr at ei gilydd i fwynhau gweithgareddau megis ‘Cystadleuthau Boned Pasg’ , ‘Ffling Ŵy’, a sialens ‘Saethu Goliau’, i enwi ond ychydig o’r bwrlwm.

Yna, ar ddiwedd Mehefin bu llawer o fwynhad yn y ‘Noson o Adloniant’, yng nghwmni MônSŵn, a’r comedïwr, Geth Robyns.  Bu chwerthin hyd hollti bol, a chawsom wledd o ganu gan y parti canu, yn ogystal â morio canu cynulleidfaol, diolch i Huw Harvey, yr arweinydd.

Daeth Mis Medi a’n ‘top trymp’ i’r amlwg, sef llwyfanu Ras 5k Talwrn i Lanbedrgoch.  Bu ambell un yn gweithio’n anhygoel o galed (yn do, Aled Pennant!), a buom fel pwyllgor mor, mor ffodus o gael byddin o wirfoddolwyr i’n cynorthwyo – o Lanbedrgoch a Thalwrn, eraill o bell ac agos, dysgwyr, aelodau MônSAR, a stiwardiaid clên fu’n gyrru’r 133 o redwyr ymlaen gyda’u hanogaeth brŵd.  Rhaid ar yr un gwynt ddiolch i gwnïau lleol fu mor garedig a hael gyda ni, gan gynnwys Cadarn Calc, AE & AT Lewis cyf, AK developments, a chwmni a gweithwyr Griffiths, fu’n gofalu am ddiogelwch a chau’r lonydd. Ari Parry Hughes sy’n ei siaced felen, un o fechgyn y cwmni a fu, ynghŷd a’i frawd, Ian, a’i chwaer yn weithgar tu hwnt. Bev, yn ogystal, welwch chi’n y lluniau a fu’n cynhesu’r dorf ar gychwyn y ras, a chip olwg ar rai o’r rhedwyr dewr.

Rhedwyr Ras 5k Llanbedrgoch/Talwrn

Hoffem fel pwyllgor ddiolch o galon i un ag oll am ddod gyda ni ar y siwrnai cyffrous y mae Menter Môn wedi ei chychwyn, gobeithio gallwn ychwanegu sawl prosiect newydd i’r rhestr yn y dyfodol agos, a dennu mwy a mwy o drigolion i ddod i fwynhau cwmni ei gilydd, ac yn enwedig tynnu’r to ifanc i mewn atom, er mwyn dangos iddynt pa mor werthfawr yw bod yn aelod o gymdeithas, waeth beth sydd ganddoch i’w gynnig. Mae yma gyfle i bob unigolyn serennu!

Ffair Grefftau Nadolig Oriel Môn

18:00, 8 Tachwedd – 12:00, 24 Rhagfyr (AM DDIM)

SIOE AEAF MÔN 2024

09:00, 9 Tachwedd – 17:00, 10 Tachwedd (Tâl Mynediad - £5 / Plant dan 16 yn mynd i fewn am ddim / Aelodau CFfI 16 a throsodd £2 efo cerdyn aelodaeth)

Cwis

19:30, 22 Tachwedd

Cylchlythyr

Dweud eich dweud