Cwiltio a dysgu Cymraeg

Coffi, gwnio, sgyrsiau ac ailadrodd!

Christina Summers
gan Christina Summers

Tracey a Tina dan ni a dan ni’n byw ar Ynys Môn. Dan ni’n ddysgwyr Cymraeg ers pedair blynedd.

Mi wnaethon ni gyfarfod mewn grwp cwiltio ym Mangor. Dan ni’n mynd dwywaith y mis. Mi wnaethon ni ddarganfod bod ein diddordebau yr un fath.

Mae hanes clytwaith yn mynd yn ôl ganrifoedd. Roedd yn ffordd dda o ddefnyddio defnydd oedd dros ben. Dan ni’n addurno ein cartrefi efo clytwaith lliwgar.

Dan ni’n ymarfer siarad Cymraeg gyda’n gilydd pan dan ni’n gwnïo. Dan ni’n mwynhau ein hamser gwnïo.