Galw ar fusnesau Môn

Grant i ehangu defnydd o’r Gymraeg

gan Elliw Jones
FB_IMG_1728476169051Esther Cadogan

Mae hyd at £3,000 ar gael i fusnesau o bob maint ar Ynys Môn i’w helpu nhw i wneud mwy o ddefnydd o’r Gymraeg yn eu gwaith o ddydd i ddydd. Y nod yw cryfhau cysylltiad busnes gyda’u cwsmeriaid a’r gymuned yn lleol, ond hefyd i roi profiad Cymreig unigryw i ymwelwyr â’r ynys.

Yn rhan o gynllun Arfor, ac yn cael ei arwain gan Menter Môn mae’r arian ar gael i alluogi cwmnïau i wneud yr iaith yn fwy gweledol. Ond, gyda dim ond ychydig wythnosau ar ôl i ymgeisio mae’r neges yn glir – does dim amser i’w golli er mwyn  gwneud cais. Mae’n gyfle prin i fusnesau lleol fanteisio ar y gefnogaeth ariannol all fod o fudd iddyn nhw ac yn ffordd o hybu’r Gymraeg ar yr ynys.

Dywedodd Elen Hughes, Cyfarwyddwr Prosiectau Cymunedol Menter Môn: “Rydan ni yn awyddus i ledaenu’r neges mor eang â phosib am y grant sydd ar gael – ac i annog cwmnïau bach a mawr i gysylltu efo ni heddiw i wneud cais, waeth beth yw eu gallu ieithyddol.

“Mae’n profiad ni a thystiolaeth yn dangos y gall newidiadau bychan fel creu arwyddion dwyieithog, creu deunyddiau marchnata a chynnig gwasanaeth cwsmer yn Gymraeg a Saesneg roi hwb go iawn i fusnes a nod hyn yn cael ei groesawu gan gwsmeriaid.“

Un busnes sydd eisoes wedi manteisio yw Physio Môn. Dywedodd y perchnennog, Esther Cadogan: “Rydyn ni mor ddiolchgar i Menter Môn am ein helpu ni i sicrhau cyllid i dyfu ein busnes tra’n hyrwyddo’r Gymraeg. Wedi byw ar Ynys Môn ar hyd fy oes mae mor bwysig i mi fod ein busnes yn weladwy ac yn hygyrch i bawb yn eu iaith gyntaf.”

Mae Menter Môn felly am annog busnesau i wneud cais cyn y dyddiad cau ar y 31ain o Hydref i fanteisio ar cymorth ariannol yma. Mae mwy o wybodaeth a sut i wneud cais, ar gael ar wefan Menter Môn: Grantiau i Gefnogi Defnydd yr Iaith Gymraeg mewn Busnes ar Ynys Môn.

Ffair Grefftau Nadolig Oriel Môn

18:00, 8 Tachwedd – 12:00, 24 Rhagfyr (AM DDIM)

SIOE AEAF MÔN 2024

09:00, 9 Tachwedd – 17:00, 10 Tachwedd (Tâl Mynediad - £5 / Plant dan 16 yn mynd i fewn am ddim / Aelodau CFfI 16 a throsodd £2 efo cerdyn aelodaeth)

Cwis

19:30, 22 Tachwedd

Cylchlythyr

Dweud eich dweud