Dosbarth Cymraeg Canolradd Ardal Môn

Cyflwyno rhai o’r dysgwyr

gan Sharon Roberts
Image20241001115603

Dosbarth Cymraeg Lefel Canolradd Bore Mawrth

Dyma rai o ddysgwyr Cymraeg sy’n cyfarfod ar-lein bob bore Mawrth, o dan ardal Ynys Môn.

Maen nhw wedi cyrraedd lefel Canolradd rŵan ac mae pob un yn ddysgwr gwych!

Dyma be’ sydd gynnyn nhw i’w ddweud am eu hunain:

Angela dw i. Dw i’n dod o Bedford yn wreiddiol a symudais i Gaernarfon bedair blynedd a hanner yn ôl. Dw i’n mwynhau bod yn yr awyr agored.

Janet dw i. Mi wnes i ddechrau dysgu Cymraeg yn 2020. Dw i’n mwynhau nofio yn y môr.

Helo, Louise dw i a dw i’n byw yn Marian-glas, Ynys Môn. Dw i wedi bod yn dysgu Cymraeg ers tua pum mlynedd, lefel canolradd ar hyn o bryd. Dw i’n defnyddio fy Nghymraeg pan dw i’n gweithio efo fy nhîm a fy nghwsmeriaid.

Mark dw i; mi ges i fy ngeni a magu yng Ngogledd Ddwyrain Cymru ond dw i’n byw yn Lloegr rwân. Mi wnes i dechrau dysgu Cymraeg efo Dysgu Cymraeg y llynedd. Dw i’n licio canu’r banjo, mynd i’r gampfa a cerdded yn y mynyddoedd.

Helo, Mark dw i, dw i’n byw ger Harlech ond …
mi gaeth fy Mam i ei geni a magu yng Nghaergybi.
Dw i’n caru dysgu’r iaith Gymraeg ac am hanes a diwylliant Cymru.

Richard dw i. Dw i’n byw ger Cricieth, a dw i ’di bod yn dysgu Cymraeg ers tair blynedd. Ddylwn i fod yn fwy rhugl erbyn hyn! Dw i’n mwynhau treulio fy mhenwythnosau yn cerdded yn y mynyddoedd.

Suzi dw i. Dw i wedi cyffroi o gael ymuno â’r grwp i barhau i ddysgu Cymraeg. Dw i wedi bod yn dysgu Cymraeg ers dechrau’r cyfnod clo. Rŵan, dw i’n dysgu er mwyn helpu fy mhlant wrth iddyn nhw dyfu i fyny yng Ngogledd Cymru. Hefyd, dw i’n dechrau defnyddio fy Nghymraeg yn y gwaith.

Varadā dw i.  Dw i’n dŵad o Loegr yn wreiddol, ond dw i wedi byw mewn gwledydd gwahanol.  Dw i wedi penderfynu aros yng Nghymru rŵan.

Daliwch ati bawb gyda’r Gymraeg! Braf yw gweld cynifer o ddysgwyr brwdfrydig yn y dosbarthiadau.

Ffair Grefftau Nadolig Oriel Môn

18:00, 8 Tachwedd – 12:00, 24 Rhagfyr (AM DDIM)

SIOE AEAF MÔN 2024

09:00, 9 Tachwedd – 17:00, 10 Tachwedd (Tâl Mynediad - £5 / Plant dan 16 yn mynd i fewn am ddim / Aelodau CFfI 16 a throsodd £2 efo cerdyn aelodaeth)

Cwis

19:30, 22 Tachwedd

Cylchlythyr

Dweud eich dweud