Rhannu cynlluniau ar gyfer Caergybi hefo trigolion a busnesau

Digwyddiad gwybodaeth cyhoeddus yn Neuadd y Farchnad i rannu gwybodaeth am waith adfywio yn y dref

gan Elisabeth Jones

Daeth pobl leol i ddigwyddiad cymunedol a gynhaliwyd yn Neuadd y Farchnad Caergybi yn ddiweddar, yn awyddus i ddysgu am brosiectau adfywio’r dref. Rhoddodd y digwyddiad gyfle i drigolion a rhanddeiliaid ddarganfod mwy am y cynlluniau sydd â’r nod o adfywio canol tref Caergybi.

Roedd cynrychiolwyr o bartneriaid y prosiect wrth law i esbonio agweddau allweddol ar y gwaith a fydd yn dechrau ar Stryd Stanley dros yr wythnosau nesaf. Maen nhw’n cynnwys gwelliannau i seilwaith lleol, llefydd cyhoeddus ac adeiladau gwag. Cafodd mynychwyr gyfle i ofyn cwestiynau, rhannu eu syniadau, a rhoi adborth ar sut y bydd y newidiadau hyn yn effeithio ar y gymuned.

Dywedodd Arweinydd Cyngor Sir Ynys Môn, Gary Pritchard: “Ein gobaith gyda’r rhaglen hon yw creu tref lewyrchus ar gyfer y gymuned gyfan. Rydym wedi ymrwymo i sicrhau y bydd y newidiadau hyn nid yn unig yn gwella apêl y dref i ymwelwyr ond hefyd yn sicrhau manteision hirdymor i drigolion. Trwy weithio’n agos gyda’n partneriaid a gwrando ar leisiau lleol, rydym yn benderfynol o adeiladu dyfodol i Gaergybi y gall pawb fod yn falch ohono.”

Yn ogystal â’r brif arddangosfa yn Neuadd y Farchnad, cafodd pobl gyfle i alw yn hen adeilad banc HSBC sydd wedi bod ar gau ers 2021. Mae’r cynlluniau ar gyfer yr adeilad yn cynnwys datblygu llety i ymwelwyr, bwyty a thafarn ar gyfer bragdy lleol.

Mae’r prosiect yn rhan o gynllun ehangach i adfywio Caergybi, yn cael ei ariannu gan Lywodraeth y DU a’i gyflawni gan bartneriaid y rhaglen, sef Cyngor Sir Ynys Môn, Cyngor Tref Caergybi, Môn CF, Esgobaeth Bangor, a Chanolfan Ucheldre.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan y Cyngor.

Am ragor o wybodaeth cysylltwch â CCGLUF@ynysmon.llyw.cymru

Dweud eich dweud