Anturiaethau Athrawes o Langefni yn yr Andes – Bywyd yn Nhrevelin.

Byw yn Nhrevelin

Rhian Lloyd
gan Rhian Lloyd
Croeso i Drevelin!

Nes i redeg 3 milltir o fy fflat er mwyn cael y llun yma hefo’r arwydd trawiadol sydd ar gyrion y dref! Mae arwyddion enw fel hyn yn gyffredin iawn ac i’w gweld mewn pentrefi, trefi a dinasoedd ar draws Argentina.

Llyfr i blant - Daniel Evans ym Mhatagonia.
Draig Goch Trevelin

Draig Goch Trevelin

Arwyddion dwyieithog

Arwyddion dwyieithog

Reidio ceffylau yn Nhrevelin

Reidio ceffylau yn Nhrevelin

Coffi i gnesu’r galon

Capel Bethel a Tŷ Capel

Capel Bethel a Tŷ Capel

Tŷ Capel

Tŷ Capel

Y fainc goch a'r hen feic ar y porch.

Y fainc goch a’r hen feic ar y porch.

Yr ystafell ddosbarth.

Yr ystafell ddosbarth.

Y faner Ddraig Goch ar wal y gegin.

Baner y Ddraig Goch ar wal y gegin.

Helo ar fore braf o’r Gwanwyn yma yn Nhrevelin, Chubut.Fel y soniais yr wythnos dwytha’ – yn Nhrevelin ydw i’n byw wrth i mi gyflawni fy rôl fel Swyddog Datblygu’r Iaith Gymraeg ym Mhatagonia. Tre’ ydi Trevelin, ychydig yn fwy ‘na Llangefni, wedi ei lleoli yng Nghwm Hyfryd wrth droed yr Andes ac yn agos i’r ffîn rhwng Argentina a Chile.

Fe agorwyd Ysgol y Cwm yma yn 2016 a dyna le ‘rwy’n gweithio fel athrawes bob dydd.Mae’r dref wedi ei henwi’n Trevelin oherwydd hanes y felin gafodd ei hagor yma gan John Daniel Evans a’r Cymry gyntaf a ymsefydlodd yma yn 1891. Mae John Daniel Evans yn enw sydd i weld yn aml o gwmpas y dref – mae Ysbyty John Daniel, Stryd John Daniel ac mae ganddo amgueddfa ei hun yma – Museo Taid. Mae stori’r bachgen bach o Gymru a ddaeth i Batagonia ar y Mimosa ac yna tyfu i fyny i fod yn ‘El Baqueano’ yn un difyr iawn – ‘dwi wedi ychwanegu dolenni ar waelod y darn yma os hoffech ddysgu mwy amdano. Cyn i mi gychwyn ar fy nhaith yma, nes i fwynhau defnyddio’r llyfr stori ‘Daniel Jones ym Mhatagonia’ hefo fy mhlantos dosbarth Blwyddyn 1,2 a 3 yn Ysgol Pencarnisiog. Roedden nhw wrth eu boddau hefo hanes Daniel ac roedd yn help mawr iddyn nhw ddysgu ychydig am le yr oedd Miss Lloyd yn mynd.

Mae un o wyresau’r dyn ei hun yn mynychu fy ngwersi Cymraeg i oedolion – oeddwn i ‘bach yn ‘star-struck’ pan ddwedodd hi hynny wrtha i fod yn onast! Mae hi wedi addo cai ei chyfweld cyn i mi orffen yma – byddaf saff o’i rannu hefo chi gyd.

 

Heddiw, mae Trevelin y dref fach hardd, aml-ddiwylliannol a modern sy’n denu twristiaeth domestig yma rownd y flwyddyn oherwydd atyniadau amrywiol megis; golygfeydd a natur anhygoel y Parc Cenedlaethol Los Alerces, cyfleoedd anturus awyr agored, llynnoedd pysgota anferthol, rhaeadrau syfrdanol a sawl gwinllan arbennig leol. Mae’r Gwanwyn yn benodol yn adeg hynod o fyrlymus yma oherwydd y caeau tiwlip enwog – ‘dwi’n edrych ‘mlaen yn ofnadwy at gael gweld yr olygfa liwgar honno ymhen rhyw fis.Ac wrth gwrs, yn yr Haf, mae’r Cymry’n landio – i drochi eu hunain ym myd bach Cymreig yr Andes. I fwynhau panad Cymreig, sgonsan a sleis o fara brith yn un o’r sawl tŷ te sydd yma. I weld y Ddraig Goch yn chwythu tân ar y Plaza bob nos am 8 o’r gloch. I ymweld â Chapel Bethel neu fedd Malacara (ceffyl ffyddlon Daniel Evans) ac synnu ar yr arwyddion dwyieithog Sbaneg/Cymraeg sydd ymhobman o gwmpas y dref.

 

Tra ei bod yn wir ‘mod i wedi dod yma i fyw ac i gweithio – mi ydw i hefyd wedi bod rêl ‘tourist’ yn ystod fy amser yma. ‘Dwi wedi mwynhau’n ofnadwy bob un wan jac o’r profiadau uchod… a gallaf gadarnhau eu bod i gyd yn werth chweil i’w gwneud!Mae popeth ‘dwi angen yma i mi yn Nhrevelin, siopau ffrwythau, bara a chigyddion di-ri, archfarchnad fawr, sawl gym a chanolfan hamdden fawr, kiosks i mi gael prynu data i’r ffôn, swyddfa bost a banc – y hanfodol i gyd ar gyfer bywyd bob dydd. Mae dwsinau o gaffis gorjys yma, un tafarn cŵl, mwy nag un tŷ bwyta gwych…..ac un bar carioci boncyrs sydd â pherchennog amyneddgar sydd wedi cael y pleser o wrando arnai’n bloeddio’r ru’n un gân Madonna ar lŵp ar fwy nag un nos Sadwrn!

 

Mae bywyd yn grêt yma’n Nhrevelin – mae gen i ffrindiau da yma a chydbwysedd bywyd a gwaith perffaith. Mae’r ysgol ar agor o 7:30yb tan 1yh bob dydd, a heblaw am yr ambell wers i oedolion ychydig o ddyddiau’r wythnos, mae gen i bentwr o amser rhydd i fi fy hun. Dwi’n cadw’n heini yma – rhywbeth sy’n bwysig iawn i mi. Dwi’n seiclo i bob man, mynd i’r gym dwywaith yr wythnos, rhedeg a cherdded lot, mynd i nofio’n aml ac yn mynychu sesiwn egnïol dawnsio gwerin bob wythnos.

 

Dwi’n byw mewn fflat bach lyfli, rownd y gornel i’r ysgol ac wrth fy modd yma. Mae’r fflat yn ciwt a chlyd hefo golygfa o’r mynyddoedd allan drwy’r drws ffrynt. ‘Dwi wedi plastro lluniau o fy nheulu a ffrindiau dros y waliau ac wedi cario fy nillad gwlâu a thyweli pinc yma hefo fi er mwyn gneud fy llety dros dro teimlo mwy fel adra. Dwi’n teimlo’n wirioneddol gyfforddus a diogel yn fy ngartra’ bach yn bell o Fôn.Ond dim yn y fflat ‘ma ydw i wedi bod ers y cychwyn – pan gyrhaeddais i gynta’ yn Nhrevelin yn ôl ym mis Mawrth, ges i fy rhoi mewn llety arbennig iawn – Tŷ Capel. Nes i dreulio tri mis yn byw yno hyd nes bu rhaid i mi symud allan er mwyn i’r hen adeilad gael ychydig o waith adnewyddu.

 

Mae Tŷ Capel drws nesaf i Gapel Bethel yn Nhrevelin ac mae bellach dros 100 o flynyddoedd o oed. Fe’i adeiladwyd yn wreiddiol fel cartref y gweinidog. Ers yr 1800au, byddai plant ac oedolion yn dod i Dŷ Capel – neu “Ysgol Gymraeg yr Andes” fel ei elwir, i dderbyn gwersi Gymraeg yn yr ystafell ddosbarth. Dwi ‘di atodi ’chydig o lunia o Dŷ Capel i chi gael syniad o’r adeilad. Mae’n hyfryd i edrych arno – ac yn llawn hanas difyr! Oeddwn i’n teimlo balchder mawr wrth sgwennu fy enw ar faner y Ddraig Goch sydd ar wal y gegin – ochr yn ochr ag enwau trigolion eraill diweddar y llety eiconig ‘ma. ‘Nai fyth anghofio’r noson gynta’ ‘na yn Nhŷ Capel.

 

Dwi’ bron yn 52 oed ac erioed yn fy mywyd wedi byw ar ben fy hun – a dyma le oeddwn ar ben fy hun fach mewn hen dy unig, ochr arall i’r Byd, yn adnabod dim ar neb heb syniad o le o’n i na be oedd o’m cwmpas. Wrth iddi nosi, dyma realiti’n sincio mewn. O. Mam. Bach. ‘Beddiawl?’ moment arall.

 

Er mor ofnadwy o ofnus oeddwn i ar y pryd hynny, doedd mynd adra ddim yn opsiwn – dwi reit ben galad! Oedd gen i’r awydd mwyaf llethol i ffonio am dacsi a neidio ar yr hediad cyntaf adref munud hwnnw – ond yn lle gwneud hynny, i mewn i fy nghês a fi i ystyn anrheg oeddwn i wedi cael gan un o fy mêts – y BIG GIRL PANTS. Wedyn, deud yn ychal wrth fy hun – ‘reit, tyd ‘laen Rhian’. Gysgish i’m winc y noson hir honno.

Dreulish i’r noson gyfa yn gwisgo’r BGP dros fy legins tra’n chwara’ miwsig dros bob man hefo bob gola’n tŷ ‘mlaen wrth i mi ddad-pacio, symud dodrefn o gwmpas a triol gwneud y lle deimlo ychydig mwy cartrefol.Wrth iddi wawrio, es i allan i eistedd ar y fainc fach goch ar porch hefo panad – myn dian i, meddyliais, oeddwn i wedi syrfeifio’r noson gynta! O’mlaen, roedd mynyddoedd yr Andes yn edrych yn ‘waw’ yn erbyn yr awyr pinc, oedd ‘na geffyl wrthi’n pori’n hamddenol tu allan i giât y tŷ ac roedd ‘na barots gwyrdd yn cadw reiat yn y goeden yn yr ardd. Roedd petha’n edrach llawer gwell yng ngolau dydd. Ges i deimlad mawr o gyflawniad wrth i mi sylweddoli fod y tamad gwaetha’ drosodd. Erbyn oeddwn i wedi gorffan fy mhanad oeddwn i’n gwybod ‘mod i fynd i fod yn olreit.Tan tro nesa! X

https://www..cymru/items/13937#?xywh=-345%2C-2%2C1353%2C1000