Mae pedwar ciosg o’r 1930au wedi ailagor yn swyddogol ar draeth Newry Caergybi yr wythnos hon, gan ddarparu lleoliad ar gyfer busnesau lleol yn ogystal â chynnig gwasanaethau newydd i ymwelwyr â’r ardal.
Y pedwar busnes sydd wedi’u lleoli yn ciosgs Traeth Newry yw Cuffed-In Coffee, Island Bakes, Môn Ices a’r Cwt Creu. Pob un yn cynnig cynnyrch ac anrhegion lleol o ansawdd uchel. Y nod yn y pendraw yw rhoi hwb i’r ardal yma o Gaergybi ar lan y môr yn ogystal â darparu cyfle i entrepreneuriaid lleol.
Meddai’r Cynghorydd Glyn Haynes, aelod lleol Parc a’r Mynydd, a Chadeirydd Cyngor Sir Ynys Môn: “Rwy’n hynod o falch bod y cyfleusterau newydd yma bellach wedi agor ger Traeth Newry. Mae’n lle poblogaidd gydag ymwelwyr a thrigolion lleol – gyda’r pedwar ciosg newydd y gobaith yw rhoi hwb i’r ardal fel cyrchfan, gwella mynediad at gyfleusterau hamdden yn ogystal â gwneud y gorau o’r hyn sydd gan Gaergybi i’w gynnig.”
Ychwanegodd y Cynghorydd Tref, John Chorlton: “Mae’r ciosgs yn rhan o’n treftadaeth yn lleol, ac rydyn ni’n falch o’u gweld nhw’n chwarae rhan eto wrth gefnogi busnesau lleol a gwella profiad ymwelwyr. Heb os byddant yn cyfrannu at yr ymdrechion i hyrwyddo economi Caergybi ac yn gwella llefydd cyhoeddus ar lan y dŵr. Trwy greu ardal lle gall pobl ddod i fwynhau paned a danteithion eraill, gobeithio y bydd y ciosgs yn dod yn boblogaidd wrth i bobl fynd am dro.”
Dywedodd Krisitan Cuffin, perchennog Cuffed-In Coffee: “Rydym yn falch iawn o gael ciosg ac yn ddiolchgar o fod yn rhan o’r prosiect gwych hwn, sydd o fudd i bobl a busnesau lleol a chymuned Caergybi yn gyffredinol. Rydym wedi cyflogi aelod ychwanegol o staff er mwyn cyfarfod y cynnydd yn y galw gan gwsmeriaid, felly mae wedi caniatáu i ni dyfu’r busnes yn barod.”
Agorwyd y ciosgs yn swyddogol ar 23 Medi gan y Cynghorydd Glyn Haynes, Dylan Williams, Prif Weithredwr Cyngor Sir Ynys Môn, a’r Cynghorydd John Chorlton.
Mae’r gwaith adnewyddu yn rhan o ymdrechion ehangach i ddatblygu asedau arfordirol y dref a chreu ardal ddeniadol ar hyd y promenâd. Mae’r prosiect wedi ei ariannu drwy Raglen Adfywio Caergybi gan Lywodraeth y DU (yn flaenorol rhaglen Ffyniant Bro) ac yn cael ei wireddu gan gan bartneriaid lleol, sef Cyngor Sir Ynys Môn, Cyngor Tref Caergybi, Môn CF, Esgobaeth Bangor, a Chanolfan Ucheldre.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan y Cyngor.