Anturiaethau Athrawes o Langefni yn yr Andes.

Rhian Lloyd

Rhian Lloyd
gan Rhian Lloyd

Helo o Drevelin yn Chubut, Argentina!

Rhian ydw i, o Langefni. Rwy’n gyn-athrawes yn Ysgol y Graig, Llangefni a rŵan yn Bennaeth yn Ysgol Pencarnisiog. Ond ers chwe mis bellach, ’dwi wedi bod yn gweithio fel athrawes a thiwtor dros dro o Gymru ar Fenter Iaith Patagonia yn Argentina.

Ar ôl i mi ffarwelio â phawb a phopeth yr oeddwn yn adnabod ac yn ei garu a gwneud y daith hir i gynffon y Byd, landish i ym maes awyr fach Esquel ym mis Mawrth 2024. Sbï’sh ar yr anialwch diddiwedd o’m cwpas a gofyn i fi fy hun…. ‘be ar WYNAB y ddaear wt ti’n ‘neud ’dwa Rhian?’

Drwy gydol fy ngyrfa dysgu hir, mae teithio a gweithio mewn ysgolion, cymunedau a diwylliannau byd-eang wedi bod yn syniad tawel yng nghefn fy meddwl – ond tan yn ddiweddar iawn, doedd hi ddim yn bosib i mi fynd ati i wireddu’r freuddwyd. Roedd bywyd prysur bob dydd yn symud yn gyflym iawn ac roedd fy mreuddwyd am antur fawr wedi ei roi ar y silff i gasglu llwch. Ond wrth i mi droi 50 ges i chydig o ddeffroad … doedd dim byd bellach yn fy rhwystro – roedd hi’n amser mentro! Es i ati’n ddistaw bach i chwilio ar lein am swyddi dysgu tramor posib. Gwelais fod y Cyngor Prydeinig yn hysbysebu swydd unigryw iawn. Am gyfle gwych feddylish i – teithio i ochr arall y byd am gyfnod i ddysgu’r Gymraeg … be well? Amdani!

Ond, cyn cychwyn llenwi’r ffurflen hyd yn oed, roedd rhaid i mi siarad hyn drwodd hefo’r bobl bwysicaf yn fy mywyd –  i wneud yn saff eu bod yn deall pam yr oeddwn angen gwneud hyn a sut oeddwn i am fynd o’i chwmpas hi. Dwi mor ofnadwy o ddiolchgar am y gefnogaeth ges i ganddyn nhw – maent i gyd wedi bod hefo fi bob cam o’r ffordd ar yr antur ‘ma .

Felly, es i ati i gychwyn rhoi pethau ar waith; gwneud cais i fy nghyflogwyr am gyfnod o absenoldeb, rhoi’r tŷ ar y farchnad, rhoi’r ffurflen gais i mewn a dal fy ngwynt yn y gobaith y buasa’ popeth yn syrthio i’w le – sôn am ‘trust the process’! Wedi misoedd o waith caled, trefnu a logisteg, ffendiais fy hun ar y tarmac yn nhroedfryniau’r Andes yn cael y foment ‘be-ddiawl’ ‘na!

Mae Menter Iaith Patagonia yn ymestyn ar draws talaith Chubut, sydd yn Ne Argentina gyda’r Cyngor Prydeinig yn anelu i leoli tri addysgwr Cymraeg yma’n flynyddol – un yn yr Andes a dau yn y Dyffryn (’dwi wedi atodi cwpl o fapiau a dolenni ar hyn). Ges i fy lleoli yn yr Andes – sy’n cynnwys Trevelin ac Esquel. Yn y Dyffryn mae’r Gaiman, Trelew, Dolafon, Puerto Madryn a Rawson. Dwi’n byw yn Nhrevelin, sydd rownd y gornel i Ysgol y Cwm a 30 munud ar fws o Ganolfan Iaith Gymraeg yr Andes, sydd yn nhref Esquel. Mi ydw i wrth fy modd yma!

Mae’r profiad o deithio dros 7,000 o filltiroedd i weithio a byw ar ben fy hun (am y tro cynta’ ‘rioed yn fy mywyd) wedi bod yn un addysgol, syfrdanol a grymusol. Tra ‘rwy’n cyfadda ‘mod i wedi cael cyfnodau unig, emosiynol ac ofnus – ’dwi hefyd wedi cael pentwr o hwyl ac amseroedd gwych! ‘Dwi wedi cael profiadau anhygoel o gyffrous, wedi gweld golygfeydd a lleoedd bythgofiadwy, ac wedi cyfarfod pobl hynod arbennig sydd wedi gadael eu hoel arna i am byth. Mae’r misoedd diwethaf ’ma wirioneddol wedi agor fy llygaid ac wedi newid fy ngolwg ar fywyd. Dywedodd rhywun sbeshal wrtha i beidio â sbïo’n ôl wrth i mi gamu drwy’r drysau mawr ‘departures‘ ’na ym maes awyr Manceinion – a trwy fy nagrau, nes i ddim. Ac er yr hiraeth anfesuradwy am adra ers y diwrnod hynny, dydw i ddim wedi eto chwaith.

Gyda dim ond ychydig dros ddeufis i fynd nes y byddaf yn dychwelyd adra – rwy’n bwriadu rhannu ychydig o newyddion, straeon a gwybodaeth am fy amser yma ar Môn360. Diolch mawr i ysgogwyr Môn360 am roi pwniad i mi fynd ati.

Gobeithio bydd fy hanesion o ddiddordeb i chi – ac y byddent yn codi blys am antur fawr arno’ chi! ‘Di byth rhy fuan ‘na hwyr ‘chi!

Fel mae’r Cymry’n fan hyn yn ddweud – tan tro nesa! x

https://www.mappr.co/location/argentina/

https://maps.app.goo.gl/Uskk8bPckxnYRhs46

Dweud eich dweud