Buddsoddi i drawsnewid canol tref Caergybi

Hwb i dref fwyaf Ynys Môn wrth i waith trawsnewid gychwyn

gan Elisabeth Jones
IMG_49691

Canol Tref Caergybi

Bydd tref fwyaf Ynys Môn yn cael hwb sylweddol, wrth i’r gwaith o drawsnewid ei phrif stryd gychwyn dros yr wythnosau nesaf. Fel rhan o raglen ehangach gwerth £22.5miliwn i Adfywio Caergybi (yn flaenorol Cynllun Ffyniant Bro) drwy arian Llywodraeth y DU a gytunwyd yn 2021/22, bydd y Prosiect Trawsnewid Treflun yn buddsoddi mewn eiddo ac adeiladau gwag ar Stryd Stanley. Y nod yn y pendraw fydd ail greu prysurdeb canol y dref a denu buddsoddiad newydd.

Wedi’i chydnabod fel un o’r ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru, mae dirywiad canol tref Caergybi, a ddioddefodd ymhellach yn sgil Covid a’r argyfwng costau byw,  wedi cael cryn sylw. Trwy’r buddsoddiad diweddaraf hwn y gobaith yw gwrthdroi hyn, gan adfer balchder lleol gyda chyfleusterau cymunedol newydd a chreu gofod y gall trigolion ac ymwelwyr eu mwynhau.

Dywedodd y Cynghorydd Gary Pritchard, Dirprwy Arweinydd Cyngor Sir Ynys Môn: “Mae hwn yn brosiect arwyddocaol i Gaergybi, rydyn ni’n edrych ymlaen at weld yr effaith gadarnhaol y gall ei gael ar yr economi yn ogystal â’r gymuned leol.

“Fel un gafodd ei fagu yn y dref, rydw i’n ymwybodol iawn o’i hanes a’i diwylliant unigryw. Mae mewn lleoliad arbennig, gyda’i gysylltiadau efo Iwerddon ac fel porth i gyrchfannau gwyliau poblogaidd. Rydyn ni am wneud yn siŵr y gall fanteisio ar hyn er budd trigolion a busnesau. Ein bwriad yw ail greu canol tref sy’n ffynnu, un sy’n adlewyrchu ysbryd a photensial Caergybi, ac un a fydd yn denu cyfleoedd newydd, er mwyn sicrhau dyfodol mwy disglair i bawb.”

Bydd Stryd Stanley ar gau am bythefnos o 30 Medi ar gyfer gosod wyneb newydd ar y ffordd, a chychwyn ar gam cyntaf y gwaith ar rai o’r adeiladau allweddol yng nghanol y dref.

Ychwanegodd y Cynghorydd Pritchard: “Rydym yn gwerthfawrogi y gallai fod rhywfaint o anghyfleustra wrth i’r trawsnewid ddechrau, ond trwy weithio gyda’n gilydd y gobaith yw bod y budd hirdymor yn llawer iawn mwy nag unrhyw anhawster tymor byr.“

Mae’r gymuned yn gobeithio y bydd y gwaith yn drobwynt cadarnhaol i ddyfodol Caergybi ac mae cynghorwyr Tref Cybi, sef Pip O’Neil a Jeff Evans wedi croesawu’r cynlluniau.

Mae’r prosiect yn cael ei ariannu gan Lywodraeth y DU a’i gyflawni gan bartneriaid y rhaglen, sef Cyngor Sir Ynys Môn, Cyngor Tref Caergybi, Môn CF, Esgobaeth Bangor, a Chanolfan Ucheldre. Mae disgwyl i’r gwaith gael ei gwblhau erbyn 2026, gyda’r datblygiadau yn anelu at annog buddsoddiad pellach.

Bydd busnesau Stryd Stanley ar agor fel arfer wrth i’r gwaith adfywio fynd rhagddo.

Mae mwy o wybodaeth ar gael yn https://www.ynysmon.llyw.cymru/cy/Busnes/Datblygu-economaidd/Cronfa-Ffyniant-Bro-Caergybi/Croeso.aspx.

Dweud eich dweud