Fleur de Lys ac artistiaid lleol yn codi arian at Eisteddfod yr Urdd 2026

Tyrfa o oedolion a phlant yn mwynhau noson o gerddoriaeth boblogaidd yn Amlwch, Môn

gan Peredur Glyn

Perfformiodd y band Cymraeg Fleur de Lys mewn gig teuluol yn Neuadd Goffa Amlwch, Ynys Môn, ar nos Wener 13 Medi.

Roedd y noson wedi ei threfnu er mwyn codi arian tuag at Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, a fydd yn cael ei chynnal ym Môn yn 2026.

Cafwyd dros awr o set wefreiddiol gan Fleur de Lys a oedd yn cynnwys ffefrynnau fel Sbectol, Fory ar ôl heddiw a Dawnsia. Y prif ganwr yw Rhys Edwards, a oedd yn wych am gael pawb i ddod i’r blaen i ddawnsio a chwifio eu glowsticks.

Ymunodd Côr Esceifiog ar y llwyfan hefyd er mwyn canu nifer o ganeuon gyda’r band. Roedd Catrin Angharad Jones, arweinydd y côr, wedi trefnu pedair cân Fleur de Lys yn arbennig ar gyfer yr achlysur. Roedd hwn felly yn berfformiad unigryw a wnaeth gryn argraff ar y gynulleidfa.

Yn ogystal â Fleur de Lys roedd Tesni Hughes a’i band hefyd yn perfformio. Mae Tesni yn ddynes ifanc leol sydd yn gwneud enw iddi ei hun am ei chanu dawnus a’i chaneuon roc cignoeth.

Gan ei bod yn gig teuluol roedd nifer fawr o blant a phobl ifanc yn bresennol, yn amlwg yn mwynhau. Roedd stondinau yn gwerthu danteithion a sbectolau disglair ac roedd y plant wrth eu boddau yn gwisgo a chwifio rhain wrth wrando ar y gerddoriaeth.

MC y noson oedd Dic Glasgraig (Richard Edwards) ac roedd yntau’n diddanu’r gynulleidfa gyda jôcs tra bod yr artistiaid yn paratoi.

Codwyd dros £1200 o elw at yr achos. Bydd mwy o weithgareddau yn cael eu cynnal yn y dyfodol agos er mwyn cefnogi’r Eisteddfod.

Dweud eich dweud