Menter Elusendai Penmynydd

Taclo digartrefedd

gan Dafydd Idriswyn
WhatsApp-Image-2024

Yr adeilad dan sylw.

WhatsApp-Image-2024-1

Ymweliad Hunafiaethwyr Môn Mehefin 2024

WhatsApp-Image-2024-2
WhatsApp-Image-2024-3

Gogoniant Eryri yn y cefndir.

Cynllun-newydd-

Cynllun newydd 1

Cynllun-newydd-1jpeg

Cynllun newydd 2

Dydi digartrefedd ddim yn newydd. Yn 1617 rhoddwyd rhodd gan Lewis Rogers i sefydlu Elusendai er budd trigolion digartref anghenus plwyf Penmynydd. Fe’i hadeiladwyd  yn 1620 gan ddarparu lloches i ddeg o ddynion  dros 50 oed a bu’r Elusen yn darparu cartrefi lleol yn gyson am yn agos i bedair canrif.

Yn dilyn addasiadau ddeng mlynedd ar hugain yn ôl, mae’r eiddo bellach yn bum annedd bychan. Ym  Mai 2011 y gadawodd y preswylydd olaf ac mae wedi bod yn wag ers hynny a’r cyflwr wedi dirywio’n enbyd. Does dim modd byw yno bellach ond mae’n adnodd eithriadol o werthfawr yng nghanol y gymuned.

Bedwar can mlynedd yn ddiweddarach, mae Ymddiriedolwyr Elusendai Penmynydd yn bwriadu eu hatgyfodi trwy eu haddasu a’u hatgyweirio. Y bwriad yw gwneud defnydd ohonynt er budd trigolion lleol unwaith yn rhagor gan barchu dymuniad Lewis Rogers a diwallu’r galw mawr am dai rhent rhesymol yn y gymuned Gymreig a gwledig.

Bu’r criw bychan brwdfrydig wrthi’n galed ar y fenter ers dros ddeunaw mis bellach ac mae cynllun credadwy yn ei le i greu tri thŷ dwy lofft ar gyfer eu gosod ar rent rhesymol i bobol ifanc. Mae cynlluniau uchelgeisiol wedi eu creu a fydd yn trawsnewid yr hen adeiladau, gan gadw eu hynodedd hanesyddol, a chynnig cartrefi carbon isel gyda phob cyfleuster modern. Bydd y Fenter yn ateb gofyn enfawr am dai cymdeithasol ym Mhenmynydd.

Mae’r eiddo yn Rhestredig Gradd 2 ac mae’r Ymddiriedolwyr wedi cynnal trafodaethau cychwynnol gydag Adran Cynllunio CSYM sydd yn derbyn, mewn egwyddor, y syniadau bras ar gyfer yr uwchraddio.

Cafwyd cymorth Llywodraeth Cymru i gychwyn y gwaith ynghyd a Chyngor Ynys Môn a Hyrwyddo Tai Gwledig. Cynhaliwyd ymchwil a bu ymgynghori helaeth ar lefel leol  i ganfod a oedd angen tai o’r fath. Cafwyd adroddiad manwl yn cynnig tystiolaeth glir bod galw am y datblygiad hwn yn y gymuned. Mae’r Cyngor Cymuned yn llwyr gefnogol ac mae’r gymdeithas ym Mhenmynydd yr un mor bositif ac eisiau gweld gwireddu’r cynllun.

Mae’r Fenter yn y broses o gynnal Archwiliad Ecolegol a gwasanaeth Syrfëwr Meintiau (QS) ar hyn o bryd ac mae cwmni pensaernïol yn creu cynlluniau manwl gyda’r bwriad o geisio caniatâd cynllunio yn yr hydref. Gwnaed cais am nawdd gan Y Gronfa Bensaernïol Hanesyddol ac Ymddiriedolaeth Elusennol Ynys Môn. Mae’r Ymddiriedolwyr wedi bod yn ffodus iawn yn cael nawdd sylweddol trwy’r  cynllun Taleb Sgiliau ac Arloesedd sy’n cael ei weinyddu gan Brifysgol Bangor. Bydd y Dr Edward Jones o Adran Economeg Prifysgol Bangor yn cydweithio gyda’r Ymddiriedolwyr i ffurfio Cynllun Busnes manwl a chanfod cyllid ar gyfer datblygu’r fenter.

Dywedodd Cadeirydd yr Ymddiriedolwyr, “Rydan ni wedi ein syfrdanu gan y gefnogaeth yr ydym wedi ei dderbyn yn lleol. Mae’n amlwg ddigon fod y gymuned eisiau gweld yr adnodd gwerthfawr hwn yn cael ei ddefnyddio eto er budd teuluoedd ifanc yr ardal sydd yn ei chael mor anodd i aros yn eu bro enedigol. Rydan ni’r edrych ymlaen yn eiddgar i weld y cynllun hwn yn dwyn ffrwyth ac yn llenwi’r bwlch enfawr yn y farchnad dai ym Mhenmynydd”.

Dweud eich dweud