“Ble mae trenau’n mynd gyda’r nosa chwestiynau mawr eraill bywyd”

Adolygiad

Catrin Jones Hughes
gan Catrin Jones Hughes

A finna’ newydd dreulio dros saith awr ar dren yn ystod y tridiau diwetha’ wrth deithio i Lundain ac yn ôl, roeddwn yn edrych mlaen at weld a chlywed be oedd gan Gwmni Theatr yr Urdd i’w ddweud am drenau yn eu cynhyrchiad diweddaraf.

“Ble mae trenau’n mynd gyda’r nos

a chwestiynau mawr eraill bywyd”

Gyda theitl mor ogleisiol a chast o bobl ifanc rhwng 16 a 25 oed, gwyddwn na fyddai hwn yn gynhyrchiad traddodiadol.

Neuadd Glannau Ffraw, Aberffraw oedd y lleoliad  a da o beth oedd gweld cynifer o wynebau cyfarwydd sydd ar bwyllgor Eisteddfod yr Urdd Môn 2026 yn y gynulleidfa. Cawsom ragflas o dalent y dyfodol wrth i ieuenctid Theatr Fach / TIM berfformio cyflwyniad bach ysgafn yn yr awyr agored cyn ein harwain i eistedd bob ochr i’r gofod traws o fewn y neuadd oedd yn gwbl addas ar gyfer datblygu taith y tren.

Y peth a’m trawodd gyntaf oedd y gwisgoedd a’r colur difyr a llongyferchir Efa Dyfan a Luned Gwawr ar eu syniadau dylunio a Maise Pearl a Zaria Jenkins am y coluro. Braf hefyd oedd gweld cyn-ddisgybl sef Math Roberts fel cyfarwyddwr cerdd a chyfansoddwr. Mae Math yn brysur sefydlu ei hun fel cerddor proffesiynol yn Llundain a thu hwnt. Y gerddoriaeth oedd un o gryfderau’r cynhyrchiad ond rhaid atgoffa’r cast bod angen taflu llais fwyfwy wrth lefaru i gystadlu â cherddoriaeth yn arbennig pan fo’r gynulleidfa yn eistedd ar ddwy ochr. Wedi bachu’r rhes flaen ar un ochr oedd y tim creadigol a chynhyrchu – pam? Hen deimlad digon annifyr oedd gweld sylw’r cast yn troi atyn nhw sawl tro, yn chwarae iddyn nhw. Mae hi’n her perfformio ar lwyfan traws ar y gorau a byddai wedi bod yn garedicach petai’r cyfarwyddydd a’r criw wedi cymryd y seddi cefn y tro hwn er mwyn i’r cast berthnasu’n hyderus gyda chynulleidfa newydd.

Yn ôl y rhaglen roedd 27 ysgrifennwr yn gyfrifol am y 12 golygfa. Peth da ar y naill law yw rhoi cyfle i bobl ifanc greu eu deunydd eu hunain ond yn anffodus roedd y diffyg llinyn arian a’r diffyg golygu gan un person yn tarfu ar fwynhad sawl aelod o’r gynulleidfa. “Nes i’m ddallt o” meddai un ar y diwedd. Wrth gwrs does dim angen deall pob dim a rhaid gwerthfawrogi’r golygfeydd delweddol a chyd-symud am beth oeddynt. Mi fydd rhai golygfeydd delweddol hyfryd megis yr ymbarelau a’r plethu gwallt yn aros yn y cof. Cefais fy nghyffwrdd gan yr olygfa gotiau ond yn anffodus difethwyd sawl golygfa arall gan chwerthin aflafar di-angen ambell aelod o’r gynulleidfa.

Er mai fel ‘drama’ y gwerthwyd y cynhyrchiad hwn, darn dyfeisiedig sydd yma. Mae’r cysyniad o ddod a phobl ifanc fel hyn at ei gilydd i ddatblygu amrediad o sgiliau theatrig yn un difyr, a’r ariannu gan Lywodraeth Cymru yn hanfodol, ond nid ydyw’n gysyniad newydd. Deng mlynedd ar hugain yn ôl ar ddechrau fy ngyrfa fel athrawes ddrama roeddwn yn un o arweinwyr Cwrs Drama Ieuenctid Cymru – cwrs a fu’n hwb i sawl wyneb cyfarwydd e.e. Bethan Ellis Owen, Lauren Phillips, Ceri Cunnington, Fflur Dafydd a Heledd Cynwal. Felly pwy o’r cast yma fydd yn ser y dyfodol ys gwn i? Mae pob un ohonynt mewn lle gwahanol o ran eu datblygiad a’u profiad ond rhaid rhoi sylw i ddau yn arbennig. Er nad oeddwn yn or-hoff o’i golygfa, rhaid canmol Lili Roberts am fod mor ddi-ofn ar lwyfan fel dynes y troli te. Roedd gwaith symud Tom Kemp yn wirioneddol hyfryd.

Dymuniadau gorau i bawb yn y dyfodol. Rydwi’n siwr bod pob un wedi datblygu sgiliau gwerthfawr ac yn bwysicach fyth wedi gwneud ffrindiau oes- rhywbeth sydd ddim yn bosibl wrth deithio ar dren fel arfer.

Catrin Jones Hughes