Morlais yn tanio gyrfa graddedigion

Dau aelod newydd wedi ymuno â thîm ynni Menter Môn

gan Llinos Iorwerth

Gareth Roberts, Arweinydd Gweithrediadau Morlais gyda Dylan a Rhys

Mae dau aelod newydd wedi ymuno â thîm ynni Menter Môn yn ddiweddar fel rhan o gynllun interniaeth newydd Marine Futures.  Mewn raglen sydd wedi ei ariannu gan Stad y Goron, bydd Dylan Moses a Rhys Bowen yn gweithio yn bennaf ar y data sy’n gysylltiedig â’r prosiect ymchwil nodweddu morol (MCRP) yn ystod eu cyfnod gyda Menter Môn.

Bwriad y rhaglen yw  rhoi cyfle i raddedigion sydd â diddordeb mewn gyrfa yn yr amgylchedd morol i ddatblygu sgiliau, gwybodaeth a phrofiad ar draws amrywiaeth o sectorau. Mae’r ddau eisoes wedi bod yn brysur yn ymgyfarwyddo gyda’r sector llanw yn lleol ac wedi cael i gael cip olwg ar waith partneriaid allweddol.

Dywedodd Fiona Parry, swyddog prosiect sgiliau a hyfforddiant gyda Menter Môn Morlais: “Rydyn ni’n falch iawn o fod yn rhan o’r cynllun hwn ac i groesawu Dylan a Rhys i’r tîm. A hwythau ddim ond wedi bod efo ni ers ychydig dros wythnos, maen nhw wedi cael cyflwyniadau i’r holl brosiectau yn barod, wedi cael cyfle i weld  tyrbinau yn uned ein partner Hydrowing yn M-SParc, Gaerwen ac i ymweld ag is-orsaf ein cynllun ynni llanw, Morlais ger Ynys Lawd.

“Bydd eu gwaith efo ni yn canolbwyntio ar ddadansoddi data am fywyd gwyllt o’r prosiect ymchwil MCRP. Mae gan y ddau gefndir mewn bywydeg morol a gwyddorau’r eigion ac yn gobeithio dilyn gyrfa yn y diwydiant wedi iddynt gwblhau’r rhaglen.”

Yn ogystal â Menter Môn, mae partneriaid yn cynnwys M-SParc, Cyfoeth Naturiol Cymru a’r prosiect yn cael ei reoli gan Ymddiriedolaeth Natur Gogledd. Mae pob sefydliad partner yn darparu cyfleoedd datblygu sgiliau mewn meysydd arbenigol gan gynnwys, cadwraeth forol, pysgodfeydd cynaliadwy, datblygu ynni adnewyddadwy, polisi morol, ac ymgysylltu cymunedol.

Ffair Grefftau Nadolig Oriel Môn

18:00, 8 Tachwedd – 12:00, 24 Rhagfyr (AM DDIM)

SIOE AEAF MÔN 2024

09:00, 9 Tachwedd – 17:00, 10 Tachwedd (Tâl Mynediad - £5 / Plant dan 16 yn mynd i fewn am ddim / Aelodau CFfI 16 a throsodd £2 efo cerdyn aelodaeth)

Cwis

19:30, 22 Tachwedd

Cylchlythyr