Gig Fawr ‘Gyda’n Gilydd’

Plant Henblas yn mwynhau gig llwyddiannus

gan Hwyl Henblas

Ar ddydd Mercher, 10 Gorffennaf cafwyd ‘Gig Gyda’n Gilydd’ ar gaeau Ysgol Henblas.

Plant blwyddyn 3 a 4 y Dosabarth Oren fu’n brysur yn trefnu’r gig gan mai thema y tymor oedd ‘Bandiau Enwog’.

Roedd sawl band ag artist yn cymryd rhan. Agorwyd y gig gan Rhwydwaith a dilynodd Y Moniars, Y Brodyr Magee, Elin Fflur a Bwncath yn dod a’r noson i ben.

Cawsom ni’r plant rannu llwyfan gyda sawl un o’r bandiau gan ganu a dawnsio ac roedd gennym gyfrifoldebau fel rheoli cefn llwyfan, cyfleyno’r bandiau, casglu ysbwriel a gwerthu tocynnau.

Roedd pawb yn y gynulleidfa yn mwynhau y canu a’r snac! Doedd neb yn poeni am y glaw – pawb yn rhy brysur yn joio!

Diolch i bawb a ddaeth i’r gig i’n cefnogi; rydyn ni wedi casglu £3706.86 tuag at cynnal digwyddiad i’r gymuned eto flwyddyn nesaf.