Cyfrif yr Etholiad Cyffredinol – Ynys Mon

Pob datblygiad o’r cyfrif ym Mhlas Arthur, Llangefni.

gan Owain Siôn

Mae’r ymgyrchu ar ben, pob blwch pleidleisio wedi cau a phob papur ar ei ffordd yma i Langefni. Gyda’r arolwg ymadael yn dangos Llafur 209 sedd ar y blaen o’r Ceidwadwyr, mae pob llygad nawr yn troi at yr etholaethau lleol i weld a yw hyn yn wir ac a fydd y wlad yn deffro i blaid newydd mewn llywodraeth am y tro cyntaf ers 2010. Yma ar Ynys Môn, mae 3 ymgeisydd i weld yn obeithiol o gymryd y sedd sydd wedi bod yn nwylo Virginia Crosbie ers 2019. Ymunwch â ni wrth i ni eich tywys trwy pob sï, pob diweddariad… a phob byrbryd amrywiol.

03:46

CANLYNIAD (parh.)

Emmett Jenner – Reform UK – 3,223

Martin Schwaller – Y Blaid Werdd – 604

Leena Farhat – Y Democratiaid Rhyddfrydol – 439

Syr Grumpus Shorticus – The Official Monster Raving Loony Party – 156

Sam Wood – Libertarian Party – 44

03:15

CANLYNIAD 

Llinos Medi – Plaid Cymru – 10,590

Viriginia Crosbie – Ceidwadwyr – 9,953

Ieuan Williams – Llafur – 7,619

PLAID CYMRU YN CIPIO YNYS MÔN GAN Y CEIDWADWYR

Tes Hughes
Tes Hughes

YESSSSSSSSSSSS

Mae’r sylwadau wedi cau.

03:06

MAE’R YMGEISWYR WEDI’U GALW I’R BLAEN

Lowri Jones
Lowri Jones

🥁🥁🥁

Mae’r sylwadau wedi cau.

02:57

DIWEDDARIAD

Mae timau cyfrif yn dechrau gadael eu byrddau. Mae asiantau cyfrif yn nesàu at y llwyfan.

Bellach mae’n rhaid nodi bod y linell werdd ar y blaen.

02:53

DIWEDDARIAD

Da ni’n nesàu at ganlyniad yn Llangefni.

03:15 wedi’w osod gan y Cyngor.

02:36

Etholiad o Syniadau Mawr

Er bod y maniffestos cenedlaethol wedi cael cryn dipyn o sylw ar y cyfryngau dros y 6 wythnos diwethaf, mae Ynys Môn wedi bod yn faes rhyfela egnïol ar gyfer sawl maes polisi fydd yn cael effaith pell-gyrhaeddol ar yr etholaeth.

A fyddwn yn gweld Porthladd Rhydd yn adfywio economi ardal Caergybi?

Atomfa newydd yn Wylfa, i hybu swyddi a dod â Chymru’n agosach at dargedau Net Sero?

Neu Aldi… mewn maes parcio… yn rhywle…

https://x.com/cwlcymro/status/1808886219754909962

02:23

Da ni’n edrych ar amser cyhoeddi o gwmpas 03:30. Ychydig hwyrach na’r disgwyl.

02:16

DIWEDDARIAD

Tua hanner ffordd trwy’r bocsys yn ôl y sï ar y llawr. 

Y linell goch ar ei hôl hi ar hyn o bryd.

Dwy linell arall ben-ben am y blaen.

02:03

Gornest y Goodies: Rownd 2

Dim llawer o newyddion ar faint o focsys sydd wedi’w cyfri hyd yn hyn, felly amser am gyfel arall i chi feirniadu byrbrydau ‘cyfryngi’s’ Cymru!

BBC Cymru

Gwledd wedi dod gyda’r tîm heno: Chocolate cornflake bites, afalau (prop yn unig, dwi ar ddeall), wine gums, bananas, chocolate fingers, Red Bull a pheiriant coffi hefyd!

Môn FM

Toffee Crisp, Pringles (sour cream & chive – dwi’m yn siŵr am hynny de), Fridge Raiders a lwcosêd. Ffefryn personol ar y funud, a welis i myffins yn cyrraedd yn hwyrach wedyn hefyd!

01:26

DIWEDDARIAD

Bellach mae yna sgrîn ymlaen yn rhan pellaf y neuadd a siart bar yn dangos canlyniadau byw fesul box.

Ar ôl dim ond 2 allan o 64 bocs, mae’r bariau glas tywyll, coch a gwyrdd yn hollol, hollol hafal.

Lowri Jones
Lowri Jones

Diddorol…

Mae’r sylwadau wedi cau.