YESSSSSSSSSSSS
Mae’r ymgyrchu ar ben, pob blwch pleidleisio wedi cau a phob papur ar ei ffordd yma i Langefni. Gyda’r arolwg ymadael yn dangos Llafur 209 sedd ar y blaen o’r Ceidwadwyr, mae pob llygad nawr yn troi at yr etholaethau lleol i weld a yw hyn yn wir ac a fydd y wlad yn deffro i blaid newydd mewn llywodraeth am y tro cyntaf ers 2010. Yma ar Ynys Môn, mae 3 ymgeisydd i weld yn obeithiol o gymryd y sedd sydd wedi bod yn nwylo Virginia Crosbie ers 2019. Ymunwch â ni wrth i ni eich tywys trwy pob sï, pob diweddariad… a phob byrbryd amrywiol.
CANLYNIAD
Llinos Medi – Plaid Cymru – 10,590
Viriginia Crosbie – Ceidwadwyr – 9,953
Ieuan Williams – Llafur – 7,619
PLAID CYMRU YN CIPIO YNYS MÔN GAN Y CEIDWADWYR
MAE’R YMGEISWYR WEDI’U GALW I’R BLAEN
🥁🥁🥁
DIWEDDARIAD
Mae timau cyfrif yn dechrau gadael eu byrddau. Mae asiantau cyfrif yn nesàu at y llwyfan.
Bellach mae’n rhaid nodi bod y linell werdd ar y blaen.
DIWEDDARIAD
Da ni’n nesàu at ganlyniad yn Llangefni.
03:15 wedi’w osod gan y Cyngor.
Etholiad o Syniadau Mawr
Er bod y maniffestos cenedlaethol wedi cael cryn dipyn o sylw ar y cyfryngau dros y 6 wythnos diwethaf, mae Ynys Môn wedi bod yn faes rhyfela egnïol ar gyfer sawl maes polisi fydd yn cael effaith pell-gyrhaeddol ar yr etholaeth.
A fyddwn yn gweld Porthladd Rhydd yn adfywio economi ardal Caergybi?
Atomfa newydd yn Wylfa, i hybu swyddi a dod â Chymru’n agosach at dargedau Net Sero?
Neu Aldi… mewn maes parcio… yn rhywle…
Da ni’n edrych ar amser cyhoeddi o gwmpas 03:30. Ychydig hwyrach na’r disgwyl.
DIWEDDARIAD
Tua hanner ffordd trwy’r bocsys yn ôl y sï ar y llawr.
Y linell goch ar ei hôl hi ar hyn o bryd.
Dwy linell arall ben-ben am y blaen.
Gornest y Goodies: Rownd 2
Dim llawer o newyddion ar faint o focsys sydd wedi’w cyfri hyd yn hyn, felly amser am gyfel arall i chi feirniadu byrbrydau ‘cyfryngi’s’ Cymru!
BBC Cymru
Gwledd wedi dod gyda’r tîm heno: Chocolate cornflake bites, afalau (prop yn unig, dwi ar ddeall), wine gums, bananas, chocolate fingers, Red Bull a pheiriant coffi hefyd!
Môn FM
Toffee Crisp, Pringles (sour cream & chive – dwi’m yn siŵr am hynny de), Fridge Raiders a lwcosêd. Ffefryn personol ar y funud, a welis i myffins yn cyrraedd yn hwyrach wedyn hefyd!
DIWEDDARIAD
Bellach mae yna sgrîn ymlaen yn rhan pellaf y neuadd a siart bar yn dangos canlyniadau byw fesul box.
Ar ôl dim ond 2 allan o 64 bocs, mae’r bariau glas tywyll, coch a gwyrdd yn hollol, hollol hafal.
Diddorol…
Wedi cael cynnig mint humbug gan y BBC – mai’n edrach yn dda yma bois!