Cyfrif yr Etholiad Cyffredinol – Ynys Mon

Pob datblygiad o’r cyfrif ym Mhlas Arthur, Llangefni.

gan Owain Siôn

Mae’r ymgyrchu ar ben, pob blwch pleidleisio wedi cau a phob papur ar ei ffordd yma i Langefni. Gyda’r arolwg ymadael yn dangos Llafur 209 sedd ar y blaen o’r Ceidwadwyr, mae pob llygad nawr yn troi at yr etholaethau lleol i weld a yw hyn yn wir ac a fydd y wlad yn deffro i blaid newydd mewn llywodraeth am y tro cyntaf ers 2010. Yma ar Ynys Môn, mae 3 ymgeisydd i weld yn obeithiol o gymryd y sedd sydd wedi bod yn nwylo Virginia Crosbie ers 2019. Ymunwch â ni wrth i ni eich tywys trwy pob sï, pob diweddariad… a phob byrbryd amrywiol.

05:22

Virginia Crosbie (Ceidwadwyr) a Ieuan Môn Williams (Llafur) wedi gadael Plas Arthur yn syth ar ôl y canlyniad. Dim cyfle am sylwad gan y ddau.

05:15

PXL_20240705_021936993.MP_

Rhun ap Iorwerth AS yn cymeradwyo Llinos Medi AS

“Bore da, a mai’n fore da iawn yma ar Ynys Môn”

Roedd ardal y llwyfan cyhoeddi wedi’w lenwi â chefnogwyr Plaid Cymru mewn pob arlliw o wyrdd wrth i Llinos Medi annerch y dorf fel AS cyntaf y blaid ar yr ynys ers 2001. 

Ar ôl diolch i staff a gwirfoddolwyr y blaid yn lleol am redeg ymgyrch “urddasol, bositif a pharchus”, dyma hi’n mynd ymlaen i roi sicrhad i ferched a menywod ifanc yr ynys bod modd iddynt gyflawni unrhywbeth cyn belled ac eu bod yn coelio ynddyn nhw eu hunain ac yn diystyru a rheiny sydd yn eu gwrthwynebu. 

Mewn ychydig eiriau gyda Môn360, dywed yr aelod newydd fod ymddygiad rhai gwrthwynebwyr ar y cyfryngau cymdeithasol wedi ei “digalonni a siomi”.

“Da ni’n gallu anghytuno fel bobl a dal medru bod yn barchus tuag at ein gilydd… Dydi derbyn ymddygiadau annifyr a chas ddim yn dderbyniol mewn unrhyw faes, a dwi yn gobeithio y bydd ambell i berson yn edrych yn ôl ar yr hyn maen nhw wedi ei ddeud ac ystyried o ddifrif os oedd angen cynnwys y sylwadau yna, oherwydd doedd o’n ychwanegu dim i ymgyrch gwleidyddol… Mi fyddai’n eu cynrychioli nhw yr union yr un fath a phawb arall.”

Gan edrych yn ôl ar y 6 wythnos (a mwy) diwethaf, mae Llinos yn dweud ei bod wedi ei llenwi â “braint”.

“Dwi’n teimlo’n anrhydeddus yn cael galw fy hun yn aelod seneddol dros Ynys Môn, fy nghartref i… ‘Da ni wedi siarad efo gymaint o bobl [ar hyd yr ymgyrch], a mae pobl eisiau clywed ein stori ni, ac yn amlwg yn hynny mae o wedi dod drwodd yn y pleidleisiau heno.”

Yn gorffen ei haraith ar y llwyfan, cyhoeddwyd ei bod “mor falch o gael cynrychioli rhan orau’r wlad”, a dim ots o ba liw ydych chi – mae’n anodd anghytuno gyda hynny!

03:46

CANLYNIAD (parh.)

Emmett Jenner – Reform UK – 3,223

Martin Schwaller – Y Blaid Werdd – 604

Leena Farhat – Y Democratiaid Rhyddfrydol – 439

Syr Grumpus Shorticus – The Official Monster Raving Loony Party – 156

Sam Wood – Libertarian Party – 44

03:15

CANLYNIAD 

Llinos Medi – Plaid Cymru – 10,590

Viriginia Crosbie – Ceidwadwyr – 9,953

Ieuan Williams – Llafur – 7,619

PLAID CYMRU YN CIPIO YNYS MÔN GAN Y CEIDWADWYR

Tes Hughes
Tes Hughes

YESSSSSSSSSSSS

Mae’r sylwadau wedi cau.

03:06

MAE’R YMGEISWYR WEDI’U GALW I’R BLAEN

Lowri Jones
Lowri Jones

🥁🥁🥁

Mae’r sylwadau wedi cau.

02:57

DIWEDDARIAD

Mae timau cyfrif yn dechrau gadael eu byrddau. Mae asiantau cyfrif yn nesàu at y llwyfan.

Bellach mae’n rhaid nodi bod y linell werdd ar y blaen.

02:53

DIWEDDARIAD

Da ni’n nesàu at ganlyniad yn Llangefni.

03:15 wedi’w osod gan y Cyngor.

02:36

Etholiad o Syniadau Mawr

Er bod y maniffestos cenedlaethol wedi cael cryn dipyn o sylw ar y cyfryngau dros y 6 wythnos diwethaf, mae Ynys Môn wedi bod yn faes rhyfela egnïol ar gyfer sawl maes polisi fydd yn cael effaith pell-gyrhaeddol ar yr etholaeth.

A fyddwn yn gweld Porthladd Rhydd yn adfywio economi ardal Caergybi?

Atomfa newydd yn Wylfa, i hybu swyddi a dod â Chymru’n agosach at dargedau Net Sero?

Neu Aldi… mewn maes parcio… yn rhywle…

https://x.com/cwlcymro/status/1808886219754909962

02:23

Da ni’n edrych ar amser cyhoeddi o gwmpas 03:30. Ychydig hwyrach na’r disgwyl.

02:16

DIWEDDARIAD

Tua hanner ffordd trwy’r bocsys yn ôl y sï ar y llawr. 

Y linell goch ar ei hôl hi ar hyn o bryd.

Dwy linell arall ben-ben am y blaen.