Cyfrif yr Etholiad Cyffredinol – Ynys Mon

Pob datblygiad o’r cyfrif ym Mhlas Arthur, Llangefni.

gan Owain Siôn

Mae’r ymgyrchu ar ben, pob blwch pleidleisio wedi cau a phob papur ar ei ffordd yma i Langefni. Gyda’r arolwg ymadael yn dangos Llafur 209 sedd ar y blaen o’r Ceidwadwyr, mae pob llygad nawr yn troi at yr etholaethau lleol i weld a yw hyn yn wir ac a fydd y wlad yn deffro i blaid newydd mewn llywodraeth am y tro cyntaf ers 2010. Yma ar Ynys Môn, mae 3 ymgeisydd i weld yn obeithiol o gymryd y sedd sydd wedi bod yn nwylo Virginia Crosbie ers 2019. Ymunwch â ni wrth i ni eich tywys trwy pob sï, pob diweddariad… a phob byrbryd amrywiol.

02:53

DIWEDDARIAD

Da ni’n nesàu at ganlyniad yn Llangefni.

03:15 wedi’w osod gan y Cyngor.

02:36

Etholiad o Syniadau Mawr

Er bod y maniffestos cenedlaethol wedi cael cryn dipyn o sylw ar y cyfryngau dros y 6 wythnos diwethaf, mae Ynys Môn wedi bod yn faes rhyfela egnïol ar gyfer sawl maes polisi fydd yn cael effaith pell-gyrhaeddol ar yr etholaeth.

A fyddwn yn gweld Porthladd Rhydd yn adfywio economi ardal Caergybi?

Atomfa newydd yn Wylfa, i hybu swyddi a dod â Chymru’n agosach at dargedau Net Sero?

Neu Aldi… mewn maes parcio… yn rhywle…

https://x.com/cwlcymro/status/1808886219754909962

02:23

Da ni’n edrych ar amser cyhoeddi o gwmpas 03:30. Ychydig hwyrach na’r disgwyl.

02:16

DIWEDDARIAD

Tua hanner ffordd trwy’r bocsys yn ôl y sï ar y llawr. 

Y linell goch ar ei hôl hi ar hyn o bryd.

Dwy linell arall ben-ben am y blaen.

02:03

Gornest y Goodies: Rownd 2

Dim llawer o newyddion ar faint o focsys sydd wedi’w cyfri hyd yn hyn, felly amser am gyfel arall i chi feirniadu byrbrydau ‘cyfryngi’s’ Cymru!

BBC Cymru

Gwledd wedi dod gyda’r tîm heno: Chocolate cornflake bites, afalau (prop yn unig, dwi ar ddeall), wine gums, bananas, chocolate fingers, Red Bull a pheiriant coffi hefyd!

Môn FM

Toffee Crisp, Pringles (sour cream & chive – dwi’m yn siŵr am hynny de), Fridge Raiders a lwcosêd. Ffefryn personol ar y funud, a welis i myffins yn cyrraedd yn hwyrach wedyn hefyd!

01:26

DIWEDDARIAD

Bellach mae yna sgrîn ymlaen yn rhan pellaf y neuadd a siart bar yn dangos canlyniadau byw fesul box.

Ar ôl dim ond 2 allan o 64 bocs, mae’r bariau glas tywyll, coch a gwyrdd yn hollol, hollol hafal.

Lowri Jones
Lowri Jones

Diddorol…

Mae’r sylwadau wedi cau.

01:16

Wedi cael cynnig mint humbug gan y BBC – mai’n edrach yn dda yma bois!

01:12

CYFWELIAD: LEENA SARAH FARHAT – Y DEMOCRATIAID RHYDDFRYDOL

Cyfweliad cyntaf y noson, a hynny gyda’r ymgeisydd ifanc sydd yn edrych i fanteisio ar yr ysbryd cenedlaethol i “brotestio” yn erbyn y pleidiau mawr. 

I Farhat a’r Democratiaid Rhyddfrydol, ma’i wedi bod yn ymgyrch “iawn i ystyried nad oedd ymgeisydd Dem. Rhydd.” ar yr ynys yn 2019 o ganlyniad i’r gytundeb wrth-Brexit rhwng y Democratiaid Rhyddfrydol, Plaid Cymru a’r Blaid Werdd.

“Dwi’n meddwl y bydd yna bleidlais brotest go fawr i ffwrdd o’r tri plaid sydd ar y blaen yma… dwi wedi rhedeg ymgyrch low-key a dwi’n hapus efo hynna. Dwi di cael effaith ar yr ymgeiswyr eraill ac mewn hystings.”

Gwnaethpwyd sylw bod Ynys Môn yn “hollol wahanol” i etholaethau eraill yn nhermau cynnal hystings byw, gyda sawl grŵp/undeb/cymdeithas yn awyddus iawn i gael lleisio barn a chwestiynu cyn mynd allan i bleidleisio.

Ar ganlyniadau heno, mae hi’n credu’n gryf bod hi’n parhau i fod yn ras rhwng Plaid, Llafur a’r Ceidwadwyr, ond bod hi’n “arwyddol” bod un yn gwrthod gweud cyfweliadau a’r llall dim ond yn troi fyny yng nghanol y cyfrif. 

Byrbrydau – Dim llawer o sôn am snacks penodol heno, ond bod brechdanau Cyw Iâr a Chorizo meal deal wedi bod yn ei chynnal trwy gydol yr ymgyrch.

[Y cyfweliad wedi’w gyfieithu o Saesneg i Gymraeg]

00:51

DIWEDDARIAD

Ddim cweit yn Elvis, ond mae Ieuan Môn Williams in the house.

00:41

Os oes diddordeb gennych chi mewn sut mae pethau’n mynd y tu hwnt i’r Ynys, ewch i flog byw golwg360 lle cewch glywed y sylwebaeth a’r sïon ar draws Cymru a thu hwnt.