Diddorol…
Mae’r ymgyrchu ar ben, pob blwch pleidleisio wedi cau a phob papur ar ei ffordd yma i Langefni. Gyda’r arolwg ymadael yn dangos Llafur 209 sedd ar y blaen o’r Ceidwadwyr, mae pob llygad nawr yn troi at yr etholaethau lleol i weld a yw hyn yn wir ac a fydd y wlad yn deffro i blaid newydd mewn llywodraeth am y tro cyntaf ers 2010. Yma ar Ynys Môn, mae 3 ymgeisydd i weld yn obeithiol o gymryd y sedd sydd wedi bod yn nwylo Virginia Crosbie ers 2019. Ymunwch â ni wrth i ni eich tywys trwy pob sï, pob diweddariad… a phob byrbryd amrywiol.
DIWEDDARIAD
Bellach mae yna sgrîn ymlaen yn rhan pellaf y neuadd a siart bar yn dangos canlyniadau byw fesul box.
Ar ôl dim ond 2 allan o 64 bocs, mae’r bariau glas tywyll, coch a gwyrdd yn hollol, hollol hafal.
Wedi cael cynnig mint humbug gan y BBC – mai’n edrach yn dda yma bois!
CYFWELIAD: LEENA SARAH FARHAT – Y DEMOCRATIAID RHYDDFRYDOL
Cyfweliad cyntaf y noson, a hynny gyda’r ymgeisydd ifanc sydd yn edrych i fanteisio ar yr ysbryd cenedlaethol i “brotestio” yn erbyn y pleidiau mawr.
I Farhat a’r Democratiaid Rhyddfrydol, ma’i wedi bod yn ymgyrch “iawn i ystyried nad oedd ymgeisydd Dem. Rhydd.” ar yr ynys yn 2019 o ganlyniad i’r gytundeb wrth-Brexit rhwng y Democratiaid Rhyddfrydol, Plaid Cymru a’r Blaid Werdd.
“Dwi’n meddwl y bydd yna bleidlais brotest go fawr i ffwrdd o’r tri plaid sydd ar y blaen yma… dwi wedi rhedeg ymgyrch low-key a dwi’n hapus efo hynna. Dwi di cael effaith ar yr ymgeiswyr eraill ac mewn hystings.”
Gwnaethpwyd sylw bod Ynys Môn yn “hollol wahanol” i etholaethau eraill yn nhermau cynnal hystings byw, gyda sawl grŵp/undeb/cymdeithas yn awyddus iawn i gael lleisio barn a chwestiynu cyn mynd allan i bleidleisio.
Ar ganlyniadau heno, mae hi’n credu’n gryf bod hi’n parhau i fod yn ras rhwng Plaid, Llafur a’r Ceidwadwyr, ond bod hi’n “arwyddol” bod un yn gwrthod gweud cyfweliadau a’r llall dim ond yn troi fyny yng nghanol y cyfrif.
Byrbrydau – Dim llawer o sôn am snacks penodol heno, ond bod brechdanau Cyw Iâr a Chorizo meal deal wedi bod yn ei chynnal trwy gydol yr ymgyrch.
[Y cyfweliad wedi’w gyfieithu o Saesneg i Gymraeg]
DIWEDDARIAD
Ddim cweit yn Elvis, ond mae Ieuan Môn Williams in the house.
Os oes diddordeb gennych chi mewn sut mae pethau’n mynd y tu hwnt i’r Ynys, ewch i flog byw golwg360 lle cewch glywed y sylwebaeth a’r sïon ar draws Cymru a thu hwnt.
Difyr iawn!
Y turnout i lawr bron i 9% ar 2019, er bod yr arolygon yn dangos canlyniadau syfrdanol ar draws y wlad.
Beth all hyn olygu i’r ynys?
- Bod pobl yn hapus fel y mae hi yma, a bod hi am fod yn noson gwell i Virginia Crosbie na’r disgwyl?
- Bod pobl wedi cymryd yr arolygon yn ganiataol ac yn disgwyl pobl eraill i bleidleisio am lywodraeth Lafur ar eu rhan – gan o bosib agor y drws i ffyddloniaid Plaid Cymru neu’r Ceidwadwyr?
- Bod yna ddiffyg cyffro, diddordeb ac angerdd ar hyd yr etholaeth dros wleidyddiaeth etholaethol?
Mae hyn yn gadael ni’n hollol agored i ddarogan canlyniad rhwng y 3 sydd ar y blaen.
YMDDANGOSIAD – 61.55%
DIWEDDARIAD
Y gwirio wedi gorffen, y blychau didoli allan.
Dim arwydd o ennill cryf gan neb ar hyn o bryd.
Unrhyw syniad pryd fydd y canlyniad? 🤔
Cychwyn y cyfri yn y munudau nesaf. 3:00AM oedd yr amcangyfrif gan y cyfryngau yn gynharach heddiw.
Gornest y Goodies
Reit, beth am gychwyn ar gwir bencampwriaeth y noson – y snacks. Rhwng craffu ar wynebau ymgeiswyr ar lawr y cyfrif, a chadw llygad barcud ar yr arolygon barn, dwi wedi holi ar hyd galeri’r wasg beth sydd yn cadw nhw fynd heno. Dyma flas o’r tri cyntaf:
Y Press Association
Bananas, Flapjacks, Brownies, Dŵr a Tê.
ITV Cymru
Digestives, Mentos a Coffi.
ITN
Red Bull a Jakemans – ma nhw’n hardcore yn ITN!
Ac wrth gwrs, y spread aruthrol sydd yn y llun uchod yw fy nghynnig i ar gyfer y noson – diolch i Rhys (ar y blog cenedlaethol) am gynnig diawl o ddim!
Rhowch wybod yn y sylwadau pwy sydd ar y blaen.
ITV yn solid.
DIWEDDARIAD
Y sï ar y balconi yw na fydd Virginia Crosbie yn gwneud cyfweliadau heno.
Bosib iawn y cawn glywed gan Llinos Medi yn yr oriau nesaf.
Ieuan Môn Williams dal heb gyrraedd.
Dim ond awr sydd wedi bod, a mai’n poethi yma!
Joio y blog!
Ydi Ieuan wedi cyrraedd bellach?