Cyfrif yr Etholiad Cyffredinol – Ynys Mon

Pob datblygiad o’r cyfrif ym Mhlas Arthur, Llangefni.

gan Owain Siôn

Mae’r ymgyrchu ar ben, pob blwch pleidleisio wedi cau a phob papur ar ei ffordd yma i Langefni. Gyda’r arolwg ymadael yn dangos Llafur 209 sedd ar y blaen o’r Ceidwadwyr, mae pob llygad nawr yn troi at yr etholaethau lleol i weld a yw hyn yn wir ac a fydd y wlad yn deffro i blaid newydd mewn llywodraeth am y tro cyntaf ers 2010. Yma ar Ynys Môn, mae 3 ymgeisydd i weld yn obeithiol o gymryd y sedd sydd wedi bod yn nwylo Virginia Crosbie ers 2019. Ymunwch â ni wrth i ni eich tywys trwy pob sï, pob diweddariad… a phob byrbryd amrywiol.

22:22

Croeso

Mae’r bocs cyntaf yn ein cyrraedd ni yma ym Mhlas Arthur. Gwirio pleidleisiau fydd y job gyntaf wrth gwrs, ond gyda llygaid barcud yr asiantau cyfrif o bob plaid, gobeithio y cawn ni rhyw hanner syniad o bwy sydd yn edrych yn hyderus a phwy fydd yn mynd am baned a bath cynnar. Ond yn sicr, fydda i a thîm Golwg360 yma gyda chi tan y diwedd un.

Trwy gydol y nos, byddwn yn dod a cyfweliadau, sylwadau ac unrhyw arsylwad o bwys wrth i chi setlo fewn i beth all fod yn noson etholiad hanesyddol.

Ac wrth gwrs, os ydych chi eisiau ymuno â’r drafodaeth, peidiwch oedi rhag gadael sylwad ar waelod unrhyw ddiweddariad. Yn bennaf, gadewch i ni wybod pa snacks sy’n cadw chi fynd heno…