YESSSSSSSSSSSS
Mae’r ymgyrchu ar ben, pob blwch pleidleisio wedi cau a phob papur ar ei ffordd yma i Langefni. Gyda’r arolwg ymadael yn dangos Llafur 209 sedd ar y blaen o’r Ceidwadwyr, mae pob llygad nawr yn troi at yr etholaethau lleol i weld a yw hyn yn wir ac a fydd y wlad yn deffro i blaid newydd mewn llywodraeth am y tro cyntaf ers 2010. Yma ar Ynys Môn, mae 3 ymgeisydd i weld yn obeithiol o gymryd y sedd sydd wedi bod yn nwylo Virginia Crosbie ers 2019. Ymunwch â ni wrth i ni eich tywys trwy pob sï, pob diweddariad… a phob byrbryd amrywiol.
Hwyl am y tro!
Dyna ni am Etholiad Cyffredinol 2024 o Fôn, noson oedd yn dal ei chyfrinachau yn ôl tan y funud olaf un.
Diolch am ymuno â ni, am yr awgrymiadau ar gyfer byrbyrdau, ac am y sawl sylwad ar hyd y ffordd.
Mi wna’i eich gadael gyda sylwad gan Syr Grumpus L. Shorticus ei hun, ddaru ennill 156 pleidlais i’r Monster Raving Loony Party:
“Mae hi wedi bod yn brofiad rhyfeddol. Wnes i ddim dod yn olaf, felly siawns y byddai’n sefyll eto.”
Bydded hynny’n rybudd i Llinos Medi AS, mae 2029 rownd y gornel!
Roedd Ynys Môn yn un o dargedau pennaf Plaid Cymru ar gyfer yr etholiad, a mae’r wên ar wyneb eu harweinydd, Rhun ap Iorwerth, yn dweud y cwbl.
Trosglwydwch draw at Rhys a thîm blog cenedlaethol Golwg360 am fwy o ymateb gan y blaid.
Virginia Crosbie (Ceidwadwyr) a Ieuan Môn Williams (Llafur) wedi gadael Plas Arthur yn syth ar ôl y canlyniad. Dim cyfle am sylwad gan y ddau.
“Bore da, a mai’n fore da iawn yma ar Ynys Môn”
Roedd ardal y llwyfan cyhoeddi wedi’w lenwi â chefnogwyr Plaid Cymru mewn pob arlliw o wyrdd wrth i Llinos Medi annerch y dorf fel AS cyntaf y blaid ar yr ynys ers 2001.
Ar ôl diolch i staff a gwirfoddolwyr y blaid yn lleol am redeg ymgyrch “urddasol, bositif a pharchus”, dyma hi’n mynd ymlaen i roi sicrhad i ferched a menywod ifanc yr ynys bod modd iddynt gyflawni unrhywbeth cyn belled ac eu bod yn coelio ynddyn nhw eu hunain ac yn diystyru a rheiny sydd yn eu gwrthwynebu.
Mewn ychydig eiriau gyda Môn360, dywed yr aelod newydd fod ymddygiad rhai gwrthwynebwyr ar y cyfryngau cymdeithasol wedi ei “digalonni a siomi”.
“Da ni’n gallu anghytuno fel bobl a dal medru bod yn barchus tuag at ein gilydd… Dydi derbyn ymddygiadau annifyr a chas ddim yn dderbyniol mewn unrhyw faes, a dwi yn gobeithio y bydd ambell i berson yn edrych yn ôl ar yr hyn maen nhw wedi ei ddeud ac ystyried o ddifrif os oedd angen cynnwys y sylwadau yna, oherwydd doedd o’n ychwanegu dim i ymgyrch gwleidyddol… Mi fyddai’n eu cynrychioli nhw yr union yr un fath a phawb arall.”
Gan edrych yn ôl ar y 6 wythnos (a mwy) diwethaf, mae Llinos yn dweud ei bod wedi ei llenwi â “braint”.
“Dwi’n teimlo’n anrhydeddus yn cael galw fy hun yn aelod seneddol dros Ynys Môn, fy nghartref i… ‘Da ni wedi siarad efo gymaint o bobl [ar hyd yr ymgyrch], a mae pobl eisiau clywed ein stori ni, ac yn amlwg yn hynny mae o wedi dod drwodd yn y pleidleisiau heno.”
Yn gorffen ei haraith ar y llwyfan, cyhoeddwyd ei bod “mor falch o gael cynrychioli rhan orau’r wlad”, a dim ots o ba liw ydych chi – mae’n anodd anghytuno gyda hynny!
CANLYNIAD (parh.)
Emmett Jenner – Reform UK – 3,223
Martin Schwaller – Y Blaid Werdd – 604
Leena Farhat – Y Democratiaid Rhyddfrydol – 439
Syr Grumpus Shorticus – The Official Monster Raving Loony Party – 156
Sam Wood – Libertarian Party – 44
CANLYNIAD
Llinos Medi – Plaid Cymru – 10,590
Viriginia Crosbie – Ceidwadwyr – 9,953
Ieuan Williams – Llafur – 7,619
PLAID CYMRU YN CIPIO YNYS MÔN GAN Y CEIDWADWYR
MAE’R YMGEISWYR WEDI’U GALW I’R BLAEN
🥁🥁🥁
DIWEDDARIAD
Mae timau cyfrif yn dechrau gadael eu byrddau. Mae asiantau cyfrif yn nesàu at y llwyfan.
Bellach mae’n rhaid nodi bod y linell werdd ar y blaen.
DIWEDDARIAD
Da ni’n nesàu at ganlyniad yn Llangefni.
03:15 wedi’w osod gan y Cyngor.
Etholiad o Syniadau Mawr
Er bod y maniffestos cenedlaethol wedi cael cryn dipyn o sylw ar y cyfryngau dros y 6 wythnos diwethaf, mae Ynys Môn wedi bod yn faes rhyfela egnïol ar gyfer sawl maes polisi fydd yn cael effaith pell-gyrhaeddol ar yr etholaeth.
A fyddwn yn gweld Porthladd Rhydd yn adfywio economi ardal Caergybi?
Atomfa newydd yn Wylfa, i hybu swyddi a dod â Chymru’n agosach at dargedau Net Sero?
Neu Aldi… mewn maes parcio… yn rhywle…