Dathlu ynni llanw Morlais yng ngwobrau Adeiladu Rhagoriaeth Cymru

Daeth cynllun ynni llanw Morlais i’r brig yng Ngwobrau Adeiladu Rhagoriaeth Cymru (CEW) yng Ngwesty’

gan Llinos Iorwerth
CEW-2024

John Idris Jones a rhai o dîm Morlais yn debryn eu gwobr

Mae’r cynllun yn cael ei redeg gan fenter gymdeithasol, Menter Môn, ac enillodd gategorïau Gweithredu dros Hinsawdd a Phrosiect Seilwaith y Flwyddyn.

Bwriad gwobrau CEW yw dathlu lwyddiannau’r diwydiant adeiladu Cymreig. Eleni, cytunodd y beirniaid fod Morlais yn sefyll allan am arloesi wrth hyrwyddo ynni llanw i leihau’r ddibyniaeth ar danwydd ffosil, yn ogystal â’i bartneriaeth gyda chwmni Jones Bros Civil Engineering UK.

Fel un o gynlluniau ynni llif llanw mwyaf y byd sydd wedi ei gymeradwyo, bydd Morlais yn defnyddio’r llanw oddi ar arfordir Ynys Môn i gynhyrchu trydan glân. Mae’r wobr Gweithredu dros Hinsawdd yn cydnabod ymrwymiad y cynllun i ynni adnewyddadwy ac yn tynnu sylw at y rôl bwysig mae’n ei chwarae wrth helpu i sicrhau bod Cymru’n cyrraedd ei dargedau hinsawdd.

Wrth dderbyn y wobr, diolchodd John Idris Jones, cadeirydd bwrdd Morlais, i’r tîm a dywedodd: “Rydym wrth ein boddau o gael ein cydnabod fel hyn, yn enwedig wrth i ni arwain y ffordd o ran gweithredu i daclo newid hinsawdd ac am ein partneriaeth lwyddiannus gyda Jones Bros. Mae’r ddwy wobr yn adlewyrchu ein ymrwymiad i gyfrannu at ddyfodol cynaliadwy i’n cymunedau yma ar Ynys Môn yn ogystal ag i Gymru. I ni, mae cynaliadwyedd nid yn unig yn golygu defnyddio ynni adnewyddadwy, ond hefyd darparu swyddi a chyfleoedd i sicrhau bod ein cymunedau’n parhau i fod yn hyfyw.

Ychwanegodd: “Mae ein partneriaeth gyda Jones Bros yn rhan o’r weledigaeth yma i greu economi ffyniannus yng ngogledd Cymru – wrth i ni gefnogi cwmnïau lleol i ddarparu swyddi a hyfforddiant ar draws y rhanbarth. Mae Jones Bros yn fusnes teuluol uchel ei barch sydd wedi adeiladu ein is-orsaf i amser a chyllideb diolch i’w harloesedd, effeithlonrwydd a phrofiad mewn prosiectau datblygu seilwaith mawr fel hyn.”

Roedd Huw Jones, MBE, cadeirydd Jones Bros, yn awyddus i longyfarch y ddau dîm hefyd, dywedodd: “Mae derbyn y wobr am Brosiect Seilwaith y Flwyddyn yn anrhydedd ac rydym yn falch iawn o dderbyn y gydnabyddiaeth yma. Mae gweithio ar brosiect Morlais a darparu swyddi lleol yn rhan o sut rydyn ni’n gweithio i gefnogi a chreu gweithlu lleol. Mae cydnabyddiaeth CEW yn dyst i’r gwaith yma ac ymroddiad y tîm sydd wedi sicrhau bod y prosiect hwn yn llwyddiant. Fel cwmni rydym yn falch iawn hefyd ein bod wedi gallu cyfrannu at fenter mor arloesol.”

Gyda’i fodel gweithredu unigryw, mae Morlais yn cael ei ystyried fel cynllun sydd ar flaen y gad o ran y sector ynni’r llanw. Mae disgwyl i’r tyrbinau cyntaf gael eu gosod yn y môr o 2026. Mae’r tîm ynni yn Menter Môn yn gweithio gyda datblygwyr technoleg ynni llanw ar hyn o bryd i sicrhau bod hyn yn digwydd, tra hefyd yn creu budd lleol. Ariannwyd cam cyntaf Morlais gan gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru.  Mae Cyngor Sir Ynys Môn, yr NDA a Chynllun Twf Gogledd Cymru hefyd yn cefnogi’r prosiect.