Mae Mis Mehefin yn amser pwysig iawn yng nghalendr y ffermwyr ifanc yma ym Môn gyda phinacl y flwyddyn yn nesau sef rali’r sir. Fe’i cynhelir eleni ar ddydd Sadwrn y 15fed o Fehefin ar Faes Sioe Môn.
Mae’r rali yn ddiwrnod llawn hwyl a chystadleuaethau gwahanol megis rhai llwyfan fel canu a dawnsio a rhai mwy amethyddol eu naws fel trin gwlân a chneifio. Un gystudleuaeth sy’n cael ei chynnal bob blwyddyn ydw i bob clwb greu arwydd i hysbysebu’r rali, ac efallai eich bod wedi sylwi ar rai ohonynt wrth deithio rownd yr ynys.
Bob blwyddyn mae thema gwahanol i’w gael i’r cystadleuaethau a tydi ‘leni ddim yn eithriad. Y thema i’r rali – ac i’r arwyddion – yw ‘Y Gwasanaethau Brys’ ac mae’r 6 clwb sef Bodedern, Dwyran, Llangefni, Llangoed, Penmynydd a Rhosybol wedi bod yn brysur yn creu a gosod yr arwyddion o amgylch yr ynys yn ei ardaloedd lleol. Tybed oes ganddoch chi ffefryn?
Bydd canlyniad cystadleuaeth yr arwyddion yn cael ei gyhoeddi ar ddiwrnod y rali felly dewch draw i weld pwy fydd yr enillwyr ac wrth gwrs i fwynhau llond lle o gystadlu hwyliog.
Mae’r cystadlu yn cychwyn am 8yb a bydd dawns nos i ddilyn yn Nhafarn yr Iorwerth ym Mryngwran yng nghwmni y band lleol Fleur de Lys am 7.30yh.
Pob lwc i bawb!