Blwyddyn Brysur Ysgol Gyfun Llangefni

Blwyddyn 7 yn taro golwg ar eu blwyddyn gyntaf lewyrchus.

Ysgol Gyfun Llangefni
gan Ysgol Gyfun Llangefni
IMG_3754-Copy

Ein dosbarth awyr agored newydd.

IMG_3755-Copy

Llysiau a phlanhigion yr ardd

IMG_3757-Copy

Llysiau a phlanhigion yr ardd

IMG_3939

Y côr cerdd dant ar lwyfan yr Eisteddfod.

Gyda’r flwyddyn academaidd yn tynnu at ei therfyn, mae disgyblion blwyddyn 7, Ysgol Gyfun Llangefni yn dwyn i gof eu huchafbwyntiau o’u blwyddyn gyntaf yn yr ysgol.

Profodd y disgyblion sawl llwyddiant, cyfleoedd dirifedi a phrofiadau arbennig a fydd yn aros yn y cof am flynyddoedd i ddod.

Dyma drosolwg o’r flwyddyn trwy lygaid to ifanc yr ysgol arbennig hon.

Ymweliadau a theithiau

Taith wyddonol i Gaerlŷr

“Ar y trip Gwyddoniaeth, gadawsom yr ysgol yn gynnar a mynd i Ganolfan Ofod Caerlŷr (Leicester), wnaeth gymryd tua tair awr. Ar ôl cyrraedd aeth pawb i mewn i grwpiau a bwyta ein bocs bwyd. Wedyn, cawsom sioe VR mewn ystafell gyda’n grŵp. Roedd llawer o weithgareddau rhyngweithiol yno er mwyn i ni ddysgu mwy am y gofod, gan gynnwys yr arogl! Yn dilyn y sioe, aethon ni i chwarae gyda robot a’i godio i droi mewn cylch a dilyn llwybr arbennig. I orffen, cawsom fynd mewn llong ofod cyn gadael a phawb yn cael cyfrifoldeb wahanol i reoli’r llong ofod. Blasus iawn oedd y McDonalds ar y ffordd adref!” (Theo ac Elgan) 

Ymweld â RAF Fali

“Yn ddiweddar, aethom ni i RAF Fali lle welsom ni yr awyrennau. Hefyd edrychom ar y runway a thu mewn i’r hangar enfawr. Roedd o’n anhygoel! Mi welsom ni tua 20 awyren i gyd, ac roedden nhw yn edrych yn anhygoel. Cawsom eu gwylio yn cychwyn i fyny a’u gweld nhw’n hedfan. Roedd yno T-2 sef math o awyren –  ‘trainer jet’. Roedd y peilotiaid yn chwifio dwylo arnom ni i ddweud helo.” (Joshi, Seth, Cynan ac Evan.)

Clybiau amrywiol

“Mae’r Clwb Mathemateg yn cyfarfod bob dydd Gwener. Rydyn ni’n cael pas i neidio’r ciw cinio! Blwyddyn 7 sy’n mynd i’r clwb mathemateg, ac rydym yn dysgu gwahanol bethau mathemategol drwy wneud posau a gemau amrywiol. Ambell dro mae sialens fathemategol ac mae blwyddyn 8 yn ymuno â ni. Mae’r rhai sy’n gwneud orau yn y sialensau yn cael tystysgrif.” (Lily, Courtney, Esme ac Erin)

“Yn y Clwb Celf rydan ni yn dysgu sut i wneud lluniau o wahanol bethau ac mae’n gymaint o hwyl. Os ydach chi eisiau mynychu mae o ar ddydd Iau yn syth ar ôl cinio. Mae pymtheg o blant  yn cael mynd i’r clwb celf gyda Mrs Ellis. Rydan ni wedi dysgu nifer o sgiliau fel sgetsio, lliwio’n effeithiol a chreu cwningod 3D.” (Aiden, Dylan, Josh a Marley)

“Mrs Milburn ein hathrawes coginio sy’n cynnal y Clwb Coginio, a hynny bob dydd Llun yn yr ystafell goginio. Yn y clwb rydan ni’n coginio rhywbeth gwahanol bob wythnos, fel bisgedi, cacennau bach, a rholiau selsig. Bob wythnos rydan ni angen dod a chynhwysion ein hunain ond mae Mrs Milburn wrth law os bydd unrhyw un wedi anghofio! Mae croeso i unrhyw ddisgybl o flwyddyn 7 neu 8 ddod i’r clwb. Mae’r pethau rydym ni wedi eu coginio yn hynod o flasus, ac mae’r ryseitiau ar Google Classroom, felly rydan ni’n hoffi eu coginio nhw adra hefyd!” (Cassie, Branwen, a Mia)

“Mae’r Clwb Crosio yn glwb lle gallwch ddysgu crosio bob amser cinio dydd Mawrth gyda Mrs Abi Heney. Mae gan bawb gyfle i ymuno â’r clwb hwn – gall unrhyw berson grosio! Ar ôl ymarfer ac ymarfer, mae’n bosib creu pethau manwl iawn fel sgarff, neu syml iawn fel cadwyn. Mae crosio yn gallu bod yn ymlaciol ac os ydych yn ymarfer byddwch yn wych!  Diolch Mrs Heney am roi cyfle i ni ac am gychwyn clwb newydd.” (Leah, Farrah a Lottie)

Chwaraeon

Rygbi

“Yn 2024 aeth blwyddyn 7, 8 a 9 i gystadlu yng Nghwpan Eryri a llwyddodd pob tîm i basio rownd y grŵp.  Aeth tîm blynyddoedd 7 ac 8 gam ymhellach gan lwyddo i fynd i’r gemau cynderfynol yn Ysgol Brynhyfryd, sy’n wych!”

Pêl-droed

“Ym mis Rhagfyr cawsom ni, hogia blwyddyn 7,  gêm yn erbyn ysgol Friars gan ennill 6-2. Yna cawsom gêm arall yn erbyn Ysgol David Hughes ond colli oedd yr hanes o 5-4. Yn ddiweddarach, bu twrnament yn Ysgol David Hughes lle’r oedd gennym ni dri thîm gwahanol.” (Ifan a Seth)

“Fis Mai eleni, roedd  tîm pêl-droed genod blwyddyn 7 ac 8 wedi llwyddo i gyrraedd rownd derfynol yng Nghroesoswallt yn erbyn Caerleon. Cafodd y tîm kit newydd melyn llachar i fynd i’r ffeinal. Daeth y tîm yn ail drwy Gymru gyfan! Mae’r tîm yn parhau i gael hwyl yn chwarae gemau pêl-droed. Diolch i’n hathro a’n rheolwr, Mr Alex (Ferguson!) Philips am ein hyfforddi. (Casi W, Mared a Tirion)

Pêl-rwyd

“Bu llwyddiant hefyd i’n timau pêl-rwyd blwyddyn 7 ac 8 y flwyddyn hon. Mae dwy gêm wedi bod hyd yma a chawsom lwyddiant a hwyl a’r gemau yn llawn cyffro. Roedd pawb yn chwarae yn dda ac yn gryf ac yn falch iawn o’u llwyddiant.

Perfformio

Diwrnod Plant Mewn Angen

Roedd diwrnod Plant Mewn Angen ar Dachwedd 17 yn llawn hwyl! Roedden ni’n gwisgo ein dillad ein hunain a phawb yn talu punt er mwyn codi arian. Roedd sioe yn y neuadd – clipiau yn cael eu chwarae o’r athrawon yn gwneud fideos  ‘TikTok’ doniol. Roedd yr athrawon werth eu gweld wedi gwisgo i fyny fel gwahanol bobl, a fideos miwsig a ‘TikToks’ yr athrawon yn gwneud i ni chwerthin. Cododd yr ysgol £1,434.68 at yr achos arbennig yma. (Jensen, Flynn, Ifan, Wil, Enlli, Seren-Haf, Alaw a Louisa)

Eisteddfod yr Urdd

Mae’r côr cerdd dant, y parti cerdd dant, parti llefaru a pharti bechgyn yr ysgol wedi bod yn cystadlu yn yr Eisteddfod ym Meifod, Sir Drefaldwyn. Hefyd mae unigolion wedi bod yn ein cynrychioli mewn cystadlaethau fel triawdau, deuawdau, unawdau a mwy! Mae pawb wedi bod yn gweithio yn galed i gael YGLL ar y map! Roedd yn rhaid cael llawer o ymarferion i baratoi at yr Eisteddfod. Llongyfarchiadau i bawb a fu’n cystadlu – da iawn wir! Diolch yn fawr iawn i’r staff am hyfforddi a helpu.

Dramâu

Rydym ni, disgyblion blwyddyn 7, wedi mwynhau dwy ddrama wych yn yr ysgol. Roedd un ddrama ddoniol am yr iaith Gymraeg gan gwmni Mewn Cymeriad ac roedden ni’n gallu uniaethu gyda’r cymeriad. Roedd y ddrama arall am sut i ddiogelu ein hunain rhag alcohol a chyffuriau a pheidio cael ein perswadio i wneud pethau drwg gan ein ffrindiau. 

Yr ysgol a’r gymuned

Gorymdaith Dydd Gŵyl Ddewi

Ar Ddydd Gŵyl Dewi bu plant a staff o’n hysgol ni ac o ysgolion cynradd y dalgylch yn gorymdeithio o amgylch Llangefni gan chwarae drymiau a chanu. Wrth i bobl y dref gerdded trwy’r strydoedd o Nant y Pandy i Blas Arthur roedd caneuon poblogaidd Cymraeg e.e. ‘Sebona Fi’ ac ‘Yma o Hyd’ yn cael eu chwarae’n uchel. Cawsom jamborî mawr o ganu a dawnsio gyda Catrin Angharad ym Mhlas Arthur i gloi’r orymdaith a bisged flasus wrth adael. Braf oedd gweld cannoedd o ddisgyblion yn teithio o gwmpas tref Llangefni gyda baneri logo’r ysgolion arnynt i ddathlu Dydd Gwyl Dewi a’n Cymreictod (Chloe, Lilly, Katie, Celt, Kayden, Harley.)

Natur a ni: Garddio

“Yr ardd yw fy hoff le i yn yr ysgol. Mae garddio yn llawer o hwyl hefo Mrs Sally Wiliams. Dwi’n hoffi plannu blodau a bwyd fel tomatos, tatws, pys, moron a llawer mwy. Yn y gwersi garddio ’da ni’n plannu coed. ’Da ni’n creu llawer yn y gwersi garddio. Fy hoff beth i greu oedd addurniadau i’r ardd. Dwi’n hoffi cerdded o gwmpas yr ardd a siarad efo fy ffrindiau oherwydd mae’n dawel a’r unig beth ti’n clywed ydy’r adar yn trydar ac yn canu yn swynol.” (Teighan)

Yn gynharach yn y flwyddyn, creodd criw o flwyddyn saith glip fideo am ein gwaith garddio i Lywodraeth Cymru.

Cawsom gyfarfod y criw ffilmio a ffilmio’r rhan gyntaf i’r clip fideo. Hefo ni roedd Mrs Sally Williams a Megan. Roedd y rhan yma o’r ffilm yn dangos dyluniadau’r ardd (cymerodd llawer iawn o amser!) Yna roedd rhaid dewis dau berson i leisio. Fel grŵp, dewison ni Sali a Seth.

Yn gyntaf, siaradodd Sali a Seth am bopeth da ni’n neud yn yr ardd ac am bopeth ’da ni eisiau gwneud yn y dyfodol. Roedd rhaid dweud y sgript unwaith yr un ac yn Gymraeg a Saesneg.  Dechreusom adeiladu tai adar yna roeddem ni’n ffilmio ychydig o glipiau yn yr ardd i orffen. (Sali a Sara.)

BARN Y STAFF

Dyma sylwadau’r Pennaeth, Mr Huw Davies mewn cyfweliad diweddar gyda 7.6.

“Mae sawl uchafbwynt wedi bod i mi dros y flwyddyn. Un o’r pleserau mwyaf i mi fel pennaeth ydy cael sefyll ar y llwyfan yn y gwasanaeth a rhannu llwyddiannau a newyddion da. Mae’r disgyblion yn dod â chymaint o glod i’r ysgol.

Roedd gweld llwyddiant tîm pêl-droed merched blwyddyn 7 ac 8 a gwylio’r gêm gynderfynol yn arbennig, a braf oedd gweld plant yr ysgol yn cystadlu yn yr Eisteddfod eleni.

Braf iawn hefyd yw clywed gan aelodau hŷn y gymuned sy’n ffonio i ganmol plant cwrtais o’r ysgol sy’n eu helpu i groesi lôn, cario bagiau siopa ac ati. Y disgyblion yw calon yr ysgol ynghyd â’r staff arbennig sy’n gweithio’n galed fel tîm i gyrraedd y safonau uchaf posib unwaith eto eleni.

Gofynnwyd beth oedd prif heriau’r swydd.

“Mae cymdeithas wedi newid dipyn yn dilyn Cofid. Mae sut mae pobl yn edrych ar yr ysgol wedi newid hefyd. Mae gennym safonau uchel iawn yma. Gwaith y plant ydy cyrraedd y safonau uchel hynny. Mae gennym hefyd staff anhygoel yn yr ysgol yma a’r her ydy sut ydan ni’n cael ein disgyblion i gyd i gyrraedd y safon uchel honno.

Mewn cyfarfod diweddar gyda’r Gweinidog Addysg, Lynne Neagle, gofynnais “Plîs, plîs, plîs wnewch chi roi rhywbeth mewn lle i helpu ysgolion i wahardd ffonau symudol?” Mae’r problemau mae ffonau symudol yn eu hachosi yn gorbwyso’r manteision ohonynt.

Edrychaf ymlaen at weld gwaith caled y disgyblion yn cael ei wobrwyo pan fydd y criw TGAU a Lefel A yn agor eu hamlenni canlyniadau yn yr haf. Pob lwc iddyn nhw i gyd!”

Y Diprwy Bennaeth: Mrs Ffion Wyn Gough

“Unwaith eto mae plant yr ysgol wedi serennu ac wedi dod a chlod i’r ysgol mewn sawl maes. Ond, ni ellir trafod llwyddiannau heb sôn am welliannau, ac un uchelgais gennym ni fel ysgol yw taclo’r broblem sbwriel sydd ar y safle wrth i ni daro’n golygon ar fis Medi.

Y gobaith yw dilyn syniadau’r plant ar sut i daclo’r broblem hon ac yn ôl yr arfer rwy’n siŵr y byddan nhw’n llawn syniadau.”

Mewn ymateb i sialens Mrs Gough mae disgyblion blwyddyn 7 eisoes yn trafod syniadau:

“Rydan ni’n codi sbwriel yn ystod y gwersi garddio. Mae’n ffordd dda i basio’r amser ac mae’n helpu’r amgylchedd. Y llefydd gwaethaf ydy’r Mwga a’r cae 3g. Dylen ni ddechrau creu clwb garddio a chael mwy o wirfoddolwyr i gasglu sbwriel.” (Caleb a Ben)

Wrth gyrraedd diwedd y flwyddyn brysur, lwyddiannus hon, rydyn ni’n edrych ymlaen at y profiadau sydd eto i ddod gan gynnwys y diwrnod Mabolgampau, taith i Alton Towers, a’r wythnos weithgareddau sy’n cynnwys cwrs preswyl o weithgareddau awyr agored a thripiau lleol.

Bydd y digwyddiadau hyn yn saff o roi clo penigamp ar ein blwyddyn gyntaf arbennig! Gobeithio hefyd y bydd yn rhoi blas i ddisgyblion blwyddyn 6 y dalgylch o’r hyn sydd o’u blaenau!

Disgyblion Blwyddyn 7

 

 

Dweud eich dweud