Fel rhan o fy ngwaith gyda Phrifysgol Bangor, rwyf wedi bod yn teithio ledled Cymru dros y misoedd diwethaf, yn ymweld ag ymgysylltu â gwahanol fentrau a arweinir gan y gymuned. Mae wedi bod yn brofiad anhygoel ac rwyf wedi gweld â’m llygaid fy hun y brwdfrydedd a’r ymroddiad sydd gan bobl tuag at y mentrau hyn. O Gaernarfon i Glunderwen, Llanfechain i Lanteg, mae cymunedau ledled Cymru wedi cymryd yr awenau i sefydlu mentrau sy’n chwarae rhan werthfawr mewn adfywio cymdeithasol, economaidd, diwylliannol ac amgylcheddol. Mae’r mentrau hyn yn harneisio’r wybodaeth a’r profiad a geir o fewn y gymuned i ddatblygu atebion sy’n berthnasol i fywydau’r bobl sy’n byw yn yr ardal. Mewn gwirionedd, maent yn symud y ddeinameg pŵer o fodel ble mae atebion yn dŵad o’r top i fodel lle mae’r gymuned yn penderfynu beth sydd orau iddi.
Yn ystod fy nheithiau, gwelais sut y daeth y mentrau hyn ag ymdeimlad o bwrpas a chyflawniad i gymuned, ac ymdeimlad newydd o berthyn i’r bobl hynny a gymerodd ran. Mae rhai wedi bod yn llwyddiannus yn cysylltu pobl a fyddai fel arall efallai wedi aros yn gymdogion anhysbys, gan greu hunaniaeth gymdeithasol newydd i’r gymuned leol, a chadw lle arwyddocaol sy’n cynrychioli conglfaen o hanes lleol. Wrth i ddiddordeb mewn adeiladu cyfoeth lleol dyfu, dylai potensial economaidd mentrau a arweinir gan y gymuned fod yn rhan o’r gweithgareddau sydd wedi’u cynllunio i dyfu cyfoeth lleol, yn enwedig mewn lleoedd sydd o dan anfantais economaidd. Bydd gwella proffil economaidd lle trwy gynhyrchu refeniw, cyflogaeth, ac arallgyfeirio’r economi leol, o ganlyniad, yn creu buddion ehangach.
Yng Ngwynedd, gallwch ddod o hyd i’r dafarn gymunedol hynaf yn Ewrop: Tafarn Y Fic yn Llithfaen. Daeth y gymuned leol ynghyd yn 1988 i ffurfio cwmni cydweithredol a chodi’r arian oedd ei angen i brynu’r adeilad, gan sefydlu’r dafarn. Ers hynny, mae wedi tyfu i fod yn galon y gymuned ac yn esiampl o ddiwylliant, traddodiadau ac adloniant Cymreig, tra hefyd yn cynnig cyfleoedd cyflogaeth leol. Mae Gwynedd hefyd yn gartref i’r fenter gymunedol fwyaf yng Nghymru (sef Galeri), yn ogystal â llawer o fentrau llwyddiannus eraill, megis Ynni Ogwen, CPD Bangor 1876, a Rhandiroedd Cymunedol Tregarth.
Ar Ynys Môn, mae’r Tafarn Yr Iorwerth ym Mryngwran a Chaffi Siop Mechell yn Llanfechell yn ddwy enghraifft wych o fentrau a arweinir gan y gymuned. Mae’r ddwy fenter yma wedi cyfoethogi’r profiad o fod yn rhan o’r gymuned, un sy’n cydweithio er lles pawb, ac yn dangos y pethau gwych y gellir eu cyflawni pan fydd pobl leol yn uno ac yn penderfynu adeiladu rhywbeth cadarnhaol a pharhaol i’r dyfodol. Ond ble mae’r mentrau a arweinir gan y gymuned eraill ar yr Ynys? O gymharu â mannau eraill yng Nghymru, mae’n ymddangos bod Ynys Môn yn brin o fentrau a arweinir gan y gymuned neu maent wedi’u cuddio’n dda iawn. Mae angen gwneud mwy i annog a chefnogi cymunedau’r Ynys i hyrwyddo a datblygu mentrau sy’n mynd i’r afael â’r problemau sy’n eu hwynebu. Mae fy ngwaith ym Mhrifysgol Bangor yn parhau i ganolbwyntio ar fentrau a arweinir gan y gymuned a byddwn yn hapus clywed gan unrhyw fenter gymunedol ar Ynys Môn neu gymuned sy’n ystyried cychwyn ar waith a fydd yn mynd i’r afael â phroblemau cymdeithasol tra hefyd yn creu buddion economaidd. Mae’r model economaidd syml, ond hynod o bwerus, hwn yn helpu i adeiladu cymunedau mwy gwydn a mynd i’r afael â heriau gwirioneddol pobl ledled yr Ynys.