Mae heddiw yn nodi 69 o flynyddoedd ers i Theatr Fach Llangefni agor ei drysau am y tro cyntaf.
Cyn agor y theatr ar ystâd Pencraig, roedd Cymdeithas Ddrama Llangefni yn llwyfannu dramâu yn Neuadd Ysgol y Sir, ond yn 1954, penderfynodd y Pwyllgor Addysg dynnu’r hen ysgol i lawr a bu rhaid i’r gymdeithas edrych am gartref newydd i lwyfannu ei dramâu.
Dyna ddechrau felly ar sefydlu Theatr Fach Llangefni ar ystâd Pencraig yn Llangefni.
Ddiwedd Ionawr 1955 aeth criw o bobl ati i addasu’r ysgubor cyn agor y lle am y tro cyntaf ar y 3ydd o Fai, 1955.
Mae’r theatr wedi gweld sawl newid dros y blynyddoedd, gydag estyniad yn cael ei ychwanegu at yr adeilad i gynyddu capasiti’r awditoriwm, ac mae’r gwaith o gynnal a chadw’r lle yn parhau hyd heddiw dan oruchwyliaeth pwyllgor gweithgar.
Bydd y theatr yn dathlu pen-blwydd arbennig yn 2025, wrth iddi ddathlu’r 70, a’r gobaith ydi cynnal dathliad haeddiannol i nodi’r garreg filltir nodedig yma.
Dywedodd Cadeirydd y Theatr, Lowri Cêt : “Mae heddiw yn ddiwrnod hynod o arbennig i ni yn y theatr, wrth i ni ddathlu’n pen-blwydd yn 69 oed.
“Dros y blynyddoedd, mae’r theatr wedi bod yn gartref ddiwylliannol i Langefni a’r cylch, ac mae’n braf gweld y gweithgarwch celfyddydol yma’n parhau hyd heddiw, ddegawdau ers agor y drysau am y tro cyntaf.”
Mae Theatr Fach Llangefni yn un o theatrau hanesyddol a mwyaf eiconig Cymru, sy’n adnabyddus am ei dramâu, pantomeimiau a chyngherddau arbennig.
Ychwanegodd Lowri : “Mae’r theatr wedi cynnig cyfleoedd amhrisiadwy i bobl o bob oed dros y blynyddoedd o Fôn a thu hwnt boed yn blant, pobl ifanc ac oedolion – ac mae croeso i unrhyw un fod yn rhan o’n cynyrchiadau yn y theatr.
“Rydym yn edrych ymlaen yn arw at flwyddyn nesaf, pan fyddwn yn cyrraedd y garreg filltir go arbennig o fod ar agor ers 70 o flynyddoedd”
Os hoffech chi wirfoddoli neu fod yn rhan o’r trefniadau hynny, cysylltwch ar bob cyfri drwy glicio yma.