Mae’r Ŵyl Ban Geltaidd yn denu corau o Gymru yn flynyddol, heb sôn am gynrychiolaeth o wledydd Celtaidd eraill. O Fôn eleni aeth Côr Esceifiog a Hogia’r Ddwylan draw i gystadlu a chynrychioli’r Ynys.
Yn Carlow (Ceatharlach) yn Iwerddon oedd yr Ŵyl a hynny am yr ail flwyddyn yn olynol. Mae Carlow yn dref brydferth mewn ardal lle mae tua traean o’r boblogaeth yn siarad Gwyddeleg.
Cystadlodd Hogia’r Ddwylan, o dan arweiniad Endaf ap Ieuan, yn y gystadleuaeth côr agored. Canasant Y Darlun a Gwinllan a Roddwyd ac roedd mawr fwynhad gan y gynilleidfa a ddaeth i’r ysgol uwchradd ar y dydd Sadwrn i wylio’r cystadlu.
Cystadlodd Côr Esceifiog, o dan arweiniad Catrin Angharad Jones, mewn tair cystadleuaeth gorawl a chystadlodd Hogia Llanbobman – sef dynion Côr Esceifiog – yn y categori corau meibion hefyd. Canasant nifer o alawon gwerin digyfeiliant, y mwyafrif wedi eu trefnu gan Catrin, ac yn y gystadleuaeth corau agored canasant Am Brydferthwch Daear Lawr a Cantata Domino gyda chyfeiliant oddi wrth Elain Rhys.
Dyfarnodd y beirniaid Gôr Esceifiog yn fuddugol yng nghystadlaethau’r côr agored a’r côr ‘gwledig’, ac Hogia Llanbobman oedd y côr meibion buddugol wrth ganu Harbwr Corc a Clychau Cantre’r Gwaelod.
Cafodd Côr Esceifiog hefyd y wobr am y perfformiad corawl gorau yn ystod y diwrnod. Rhoesant berfformiad ychwanegol i’r dorf a ymgasglodd yn y Seven Oaks ar y nos Sadwrn er mwyn clywed yr holl ddyfarniadau.
Yn ogystal a’r cystadlu bu cyngerdd yn y Gadeirlan Gatholig ar y nos Wener lle cafwyd darn gan bob côr. Hefyd roedd ‘cyngerdd y Cymry’ yng ngwesty’r Seven Oaks ar yr un noson, gyda pherfformiadau gan gorau, bandiau, cantorion (gan gynnwys Dewi Pws) a dawnswyr Cymreig.
Roedd llawer o adloniant Celtaidd i’w fwynhau ar draws Carlow, yn enwedig yn y tafarndai. Cafwyd llawer o hwyl gan yr holl Gymry oedd wedi teithio i’r Ŵyl a digonedd o godi canu tan oriau mân y bore!
Wrth lwc, er bod Storm Kathleen yn bygwth tarfu ar y fordaith rhwng Caergybi a Dulyn, cafwyd siwrnai ddiogel yn ôl i aelodau (blinedig) y ddau gôr.
Roedd hi’n Ŵyl lwyddiannus i Fôn. Mae’r Ŵyl Ban Geltaidd yn gyfle nid yn unig i arddangos holl dalentau Ynys Môn a Chymru ben baladr, ond hefyd i ddathlu’r brawdoliaeth sydd rhwng aelodau’r gwledydd Celtaidd.