Awydd gwella dy sgiliau sgriptio?

Bydd Manon Wyn Williams yn cynnal gweithdy sgriptio yn Theatr Fach Llangefni

Theatr Fach Llangefni
gan Theatr Fach Llangefni

Awydd cystadlu yn yr adran lenyddol yn Eisteddfod yr Urdd eleni? Eisiau paratoi ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol? Awydd cystadlu yn eich eisteddfodau lleol?

Beth am ymuno â gweithdy sgriptio yng nghwmni Manon Wyn Williams, darlithydd mewn drama a sgriptio ym Mhrifysgol Bangor.

Dyma gyfle arbennig i bobl ifanc sydd o bosib yn sgriptio yn barod ac eisiau datblygu’r sgiliau hynny, neu rywun sydd â dim profiad blaenorol sydd awydd mentro i’r byd creadigol.

Mae Theatr Fach, Llangefni yn gweld pwysigrwydd mewn rhoi cyfleodd i’r ifanc ddatblygu sgiliau ar draws holl elfennau byd y Theatr o’r actio i’r dawnsio, o’r goleuo i’r gwisgoedd! Felly da chi, cymrwch y cyfle arbennig hwn i feithrin eich sgiliau sgriptio yn nghwmni un sy’n arbenigo yn y maes, a sydd wedi troedio llwyfan Theatr Fach Llangefni ganwaith, heb sôn am theatrau led-led Cymru.

Mae’r sesiwn yn rhad ac am ddim, ac ar gael i bobl ifanc 16 – 25 oed sydd awydd ymuno.

Bydd y sesiwn yn dechrau am 18:00, ac mae’n rhaid cofrestru yma i sicrhau eich lle yn y gweithdy.

Beth am gofrestru heddiw? Sgen ti ddim byd i’w golli!