Awydd cystadlu yn yr adran lenyddol yn Eisteddfod yr Urdd eleni? Eisiau paratoi ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol? Awydd cystadlu yn eich eisteddfodau lleol?
Beth am ymuno â gweithdy sgriptio yng nghwmni Manon Wyn Williams, darlithydd mewn drama a sgriptio ym Mhrifysgol Bangor.
Dyma gyfle arbennig i bobl ifanc sydd o bosib yn sgriptio yn barod ac eisiau datblygu’r sgiliau hynny, neu rywun sydd â dim profiad blaenorol sydd awydd mentro i’r byd creadigol.
Mae Theatr Fach, Llangefni yn gweld pwysigrwydd mewn rhoi cyfleodd i’r ifanc ddatblygu sgiliau ar draws holl elfennau byd y Theatr o’r actio i’r dawnsio, o’r goleuo i’r gwisgoedd! Felly da chi, cymrwch y cyfle arbennig hwn i feithrin eich sgiliau sgriptio yn nghwmni un sy’n arbenigo yn y maes, a sydd wedi troedio llwyfan Theatr Fach Llangefni ganwaith, heb sôn am theatrau led-led Cymru.
Mae’r sesiwn yn rhad ac am ddim, ac ar gael i bobl ifanc 16 – 25 oed sydd awydd ymuno.
Bydd y sesiwn yn dechrau am 18:00, ac mae’n rhaid cofrestru yma i sicrhau eich lle yn y gweithdy.
Beth am gofrestru heddiw? Sgen ti ddim byd i’w golli!