Cafodd criw hŷn Côr Ieuenctid Môn brofiad arbennig yn canu yng Nghadeirlan Bangor yr wythnos ddiwethaf (nos Lun 11/12) mewn gwasanaeth carolau ar gyfer y Gwasanaethau Brys. Roedd naws hyfryd i’r noson a’r adeilad ysblennydd yn orlawn. Canodd y côr o dan arweiniad Mari Lloyd Pritchard gan canu detholiad o ganeuon gan gyfleu awyrgylch fendigedig. Diolch yn fawr i Mari am ei harweniad, i Elen ac i Elain Rhys am gyfeilio.
Dyma flas o berfformiad y côr.
Pleser mawr oedd rhannu’r llwyfan gyda Seindorf Beaumaris o dan arweiniad Bari Gwilliam a’r unawdydd y Rhingyll Arwyn Tudur Jones. Braf oedd cael cyfraniadau gan Heddlu Gogledd Cymru, Gwasanaeth Ambiwlans Cymru, Gwasanaeth Tân ac Achub y Gogledd yn ogystal â’r Gymdeithas Achub Mynydd a chyfle i’r gynulleidfa forio canu carolau yn y gwasanaeth Nadolig. Casglwyd dros £1,000 tuag at ‘Cymdeithas Achub Mynydd Gogledd Cymru’.